![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2024/07/North-Llanrwst_1-768x576.jpeg)
Agorwyd gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst yn 1863 fel terminws Rheilffordd Conwy a Llanrwst a gafodd ei gymryd drosodd gan gwmni’r London and North Western Railway yn 1867 a’i ymestyn i Fetws-y-coed yn 1869. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn hyn,…
Darllen mwyGogledd Llanrwst
![Explore North and Mid Wales Llandudno](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/12/Explore-North-and-Mid-Wales-Llandudno-768x576.jpg)
Llandudno, sy’n cael ei chlodfori fel un o’r cyrchfannau glan môr prydferthaf ym Mhrydain, yw terminws gogleddol Lein Dyffryn Conwy. Mae’n enwog am ei steil Fictoraidd a’i cheinder Edwardaidd, sy’n amlwg drwy’r dref i gyd. Yn ogystal â’i siopau rhagorol,…
Darllen mwyLlandudno
![Deganwy station](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Deganwy-2-768x591.jpg)
Mae’r gyrchfan hyfryd yma’n cynnig rhai o’r golygfeydd gorau o Eryri, Aber Afon Conwy a Chastell Conwy, ac ar draws Bae Conwy at Ynys Seiriol ac Ynys Môn. Yn edrych ar draws o dref Conwy, gall rhywun weld y bryncyn…
Darllen mwyDeganwy
![Class 158 at Llandudno Junction](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Class-158-at-Llandudno-Junction-768x512.jpg)
Saif Cyffordd Llandudno tua hanner ffordd rhwng Caer a Chaergybi ac mae’n gyfnewidfa rhwng Lein Dyffryn Conwy a’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol. Ar draws yr aber lydan saif Castell Conwy, a adeiladwyd rhwng 1283 ac 1289 gan Edward I ac sy’n…
Darllen mwyCyffordd Llandudno
![Glan Conwy](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Glan-Conwy-768x576.jpg)
Mae Lein Dyffryn Conwy yn dilyn trofa lydan yr aber yn agos ac yng Nglan Conwy ar drai mae’r traethellau lleidiog yn llawn o bob math o adar hirgoes. Mae hwyaid yr eithin, mulfrain, cornchwiglod a chrehyrod yn bwydo ar…
Darllen mwyGlan Conwy
![Tal y Cafn](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Tal-y-Cafn-768x576.jpg)
Yn Nhal y Cafn, sy’n anweledig o’r trên, mae’r lein yn pasio’n agos at safle gwersyll Rhufeinig, Caerhun, ble saif eglwys hardd y Santes Fair, sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r bont yn Nhal y Cafn o gryn…
Darllen mwyTal y Cafn
![Dolgarrog](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Dolgarrog-sr-768x580.jpg)
Mae arhosfan fechan fach Dolgarrog yn lle delfrydol i gychwyn taith gerdded ar draws yr afon ar yr hyn a oedd unwaith yn gyswllt rheilffordd â’r gweithfeydd alwminiwm. Yn rhychwantu ehangder llydan afon Conwy mae’r bont yn mynd â chi…
Darllen mwyDolgarrog
![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/12b_8_1-Llanrwst-Station-Conwy-Valley-CRP-768x576.jpeg)
Mae’r dref farchnad brysur hon yn ganolbwynt i ffermwyr dyffryn Conwy ac mae’n ganolfan deithio ddelfrydol ar gyfer y mynyddoedd, y llynnoedd a glan y môr. Adeiladwyd y bont sy’n croesi afon Conwy yn 1636 ac fe’i cynlluniwyd yn ôl…
Darllen mwyLlanrwst
![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/betws-y-coed-768x576.jpg)
Caiff Betws y Coed ei gydnabod yn gyrchfan mewndirol enwocaf Cymru gyda’r orsaf reilffordd brysuraf ar lein Dyffryn Conwy. Mae tair isafon afon Conwy, y Llugwy, y Machno a’r Lledr yn cwrdd yma ym Metws y Coed, gan ddod â…
Darllen mwyBetws y Coed
![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2024/06/Pont-y-Pant-1-768x576.jpg)
Gorsaf Pont y Pant, yng nghanol prydferthwch garw dyffryn Lledr, fyddai’r man cychwyn gorau i’r rheini sydd â diddordeb mewn cerdded i dy’r Esgob Morgan, Ty Mawr, eiddo sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y mae modd mynd ato ar hyd…
Darllen mwyPont y Pant
![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/dolwyddelan-768x576.jpg)
Yng nghanol harddwch annisgrifiadwy dyffryn Lledr saif pentref Dolwyddelan, dim ond munud o waith cerdded o’r orsaf. Mae eglwys fechan Sant Gwyddelan yn y pentref tawel a digyffwrdd hwn yn sicr yn haeddu ymweliad. Y tu mewn mae hen gloch…
Darllen mwyDolwyddelan
![](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2024/06/Roman-Bridge-1-768x576.jpeg)
Os dewch chi i lawr wrth y Bont Rufeinig fe ddewch wyneb yn wyneb â phrydferthwch syfrdanol cwm diarffordd Blaenau Dolwyddelan yn swatio yng nghysgod Moel Siabod. O’r fan hon dim ond ychydig o waith cerdded oddi ar y ffordd…
Darllen mwyPont Rufeinig
![Class 197 Blaenau Ffestiniog](https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com/wp-content/uploads/2023/03/Class-197-Blaenau-Ffestiniog-768x432.jpg)
Wrth ichi ddod allan o’r twnnel hir i mewn i’r orsaf, datgelir hanes diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog. Roedd Gloddfa Ganol, sydd ar gau i ymwelwyr yn awr, unwaith yn chwarel lechi fwyaf y byd. Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd yn cynnig…
Darllen mwyBlaenau Ffestiniog