Betws y Coed

Caiff Betws y Coed ei gydnabod yn gyrchfan mewndirol enwocaf Cymru gyda’r orsaf reilffordd brysuraf ar lein Dyffryn Conwy. Mae tair isafon afon Conwy, y Llugwy, y Machno a’r Lledr yn cwrdd yma ym Metws y Coed, gan ddod â chyfoeth o olygfeydd mynyddig a choedwigol at ei gilydd.

Mae’r “Fynedfa i Eryri” yn ganolfan wych ar gyfer pob gradd o deithiau cerdded, crwydriadau a dringfeydd a gall y rhai mwy anturus logi arweinydd neu feic mynydd am y diwrnod.

Unwaith yn wladfa enwog i arlunwyr, mae gan Fetws y Coed heddiw ddewis da o westai, bwytai a chaffis a llawer o siopau sy’n darparu ar gyfer y ffasiyngar drwodd i’r mynyddwr sydd o ddifrif.

Bydd y trên bach a’r amgueddfa drenau wrth fodd plant o bob oed.

Fe ddaw gwaith pum munud o gerdded o’r orsaf â chi at Ganolfan Groeso Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi’i lleoli yn y stablau, ble mae staff profiadol ar gael i drin eich holl ymholiadau.

Mae cysylltiadau bys ac un tocyn ar gyfer y siwrnai gyfan, o unrhyw orsaf reilffordd ym Mhrydain, yn darparu mynediad i Eryri, gan ddefnyddio’r rhwydwaith bysus Sherpa enwog.

Betws y Coed railway station
Betws y Coed