Cysylltwch â ni

Cwestiynau Cyffredin

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin am atebion i’n hymholiadau mwyaf cyffredin, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt isod.

Ble gallaf ddod o hyd i amserlen?

Mae amserlenni ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru yma.

A gaf i fynd â’m ci ar y trên?

Gall teithwyr fynd â chi gyda nhw (dau ar y mwyaf i bob teithiwr), am ddim, yn amodol ar yr amodau, cyn belled nag ydyn nhw’n peryglu nac yn achosi anghyfleustra i deithwyr na staff. Darllenwch yr amodau cyn teithio yma.

A oes lluniaeth ar gael ar y trên?

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth bwyta dosbarth cyntaf a gwasanaeth bar bwyd ar gael ar wasanaeth Premier Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd a Chaergybi yn unig.

Os yw ar gael, darperir gwasanaeth troli gyda dewis o fyrbrydau blasus, diodydd poeth ac oer, ar rai o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. I weld pa wasanaethau sy’n cynnig gwasanaeth troli, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

Y ffordd hawsaf o wirio os oes gwasanaeth troli ar gael yw drwy brynu eich tocyn ar ap neu wefan Trafnidiaeth Cymru. Wrth ddewis llwybr eich taith ac amser gadael, bydd eicon yn dangos a fydd bwyd a diod ar gael.

Gallwch hefyd ffonio Trafnidiaeth Cymru ar 03333 211 202 rhwng 8am ac 8pm ddydd Llun – dydd Sadwrn a rhwng 10am ac 8pm ar ddydd Sul.

A oes yn rhaid i mi archebu fy sedd ymlaen llaw?

Ar hyn o bryd nid yw’n bosibl archebu sedd ymlaen llaw ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ac eithrio defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Os hoffech gynllunio eich taith ymlaen llaw, gallwch ddefnyddio’r Gwiriwr Capasiti i weld pa wasanaethau sy’n aml â digon o seddi ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

A gaf i fynd â’m beic ar y trên?

Mae lleoedd ar gael ar gyfer beiciau ar drenau Trafnidiaeth Cymru ond mae’r lleoedd hyn yn gyfyngedig ac os nad yw’n bosibl i chi archebu lle pan fyddwch yn prynu eich tocyn ymlaen llaw, bydd hyn ar sail y cyntaf i’r felin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

A all plant deithio am ddim ar y trên?

Mae plant o dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail.

Gall plant o dan 11 oed deithio am ddim ar unrhyw adeg ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru os ydynt yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn (uchafswm o 2 blentyn o dan 11 oed am bob oedolyn sy’n talu am docyn).

Gall plant o dan 16 oed deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ystod yr ‘oriau tawel’ yn unig a hynny pan fyddant yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn (uchafswm o 2 blentyn o dan 16 oed am bob oedolyn sy’n talu am docyn).

Mae eithriadau daearyddol yn gymwys, gweler y telerau ac amodau am ragor o wybodaeth.

A gaf fi ddefnyddio fy nhocyn Teithio Rhatach ar y trên?

Os oes gennych Docyn Teithio Rhatach gan Awdurdod Lleol yng Nghymru, gallwch deithio am ddim rhwng dwy o’r gorsafoedd canlynol:

Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, Pont Rufeinig, Blaenau Ffestiniog.

Bydd angen i chi gael tocyn am ddim gan y swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau neu mae’r swyddfa docynnau ar gau, gallwch gael tocyn gan y Casglwr Tocynnau ar y trên.

Mae rhagor o wybodaeth am deithio gyda’ch Tocyn Teithio Rhatach ar gael yma.

Roedd fy nhrên yn hwyr neu cafodd ei ganslo, a allaf gael ad-daliad?

Dylech gysylltu â’r cwmni gweithredu os oes gennych ymholiadau am docynnau a gwasanaethau. Ni allwn eich helpu gydag ymholiadau yn ymwneud â thocynnau a gwasanaethau. Y cwmnïau sy’n gweithredu’r trenau ar ein rheilffyrdd yw Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast.

A oes WiFi ar y trên?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig WiFi am ddim ar y rhan fwyaf o’r trenau ac mewn 50 gorsaf ar draws Cymru. Mae trenau heb WiFi yn cynnwys y Dosbarth 153 (sy’n gweithredu ar Reilffordd Dyffryn Conwy yn ogystal â rheilffyrdd eraill) a Dosbarth 170. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru yn y broses o osod llwybryddion ar y trenau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Hoffwn wybod mwy am Reilffyrdd Cymunedol a sut gallaf i neu fy mudiad gymryd rhan?

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, ewch i’r dudalen Amdanom Ni a defnyddiwch ein tudalen Cysylltwch â Ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rydw i’n poeni am brofiad rwyf yn ei gael/wedi’i gael neu’n ei weld/wedi’i weld. Gyda phwy y dylwn i gysylltu?

Os byddwch yn gweld rhywbeth sy’n edrych yn amhriodol neu’n anarferol, siaradwch â’r staff neu anfonwch neges destun at yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig 61016.

Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw’r gwasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Maent yn darparu gwasanaeth plismona i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff a’u teithwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig / British Transport Police.

Rydw i eisiau teithio ar sawl rheilffordd yng Ngogledd Cymru, a oes unrhyw docynnau ar gael i wneud hyn?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig sawl dewis i deithio ar draws Gogledd Cymru ar drên: Tocynnau Crwydro, Tocynnau Rover, a Thocynnau Cylch. I ddewis y tocyn mwyaf addas ar eich cyfer, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership
Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Goggled Orllewin Cymru

c/o Groundwork North Wales
Tanyfron
Southsea,
Wrecsam
LL11 5SZ

Cysylltwch â ni