Llandudno, sy’n cael ei chlodfori fel un o’r cyrchfannau glan môr prydferthaf ym Mhrydain, yw terminws gogleddol Lein Dyffryn Conwy. Mae’n enwog am ei steil Fictoraidd a’i cheinder Edwardaidd, sy’n amlwg drwy’r dref i gyd.

Yn ogystal â’i siopau rhagorol, ei gwestai ardderchog, ei choginio rhyngwladol a phromenâd ysblennydd â phier, mae adloniant o’r safon uchaf yn Theatr Gogledd Cymru, theatr 1500 sedd wych, sydd, yn ogystal â chyflwyno amrywiaeth o artistiaid poblogaidd, yn aml yn croesawu Opera Genedlaethol Cymru, sy’n enwog yn rhyngwladol.

Mae Oriel Mostyn gerllaw yn arddangos rhai o arlunwyr cyfoes gorau Cymru a’r byd.

Mae Llandudno wedi’i lleoli’n berffaith ar gyfer chwilota Eryri, gan gynnig y cyfuniad gorau o wyliau glan môr, tref a mynydd y gallech ei ddymuno.

Tra yn Llandudno gofalwch eich bod yn ymweld â Pharc Gwledig a Chanolfan Ymwelwyr Y Gogarth.

Great Orme tramway and view of Llandudno bay