Agorwyd gorsaf Tŷ Croes ym mis Tachwedd 1848, ac ychwanegwyd y bocs signalau a welwch heddiw ym 1872. Wedi’i leoli wrth ymyl y bocs signalau, yn gwahanu’r ddau blatfform syml, mae hen fath o groesfan gyda giât na ellir ei hagor na’i chau ond â llaw.

Mae’n bosib mwynhau teithiau cerdded hyfryd o’r orsaf hon, ar hyd y caeau a’r glannau hyd at gyrchfan glan môr Rhosneigr, lle gallwch gwrdd â’r trên i fynd adref, neu grwydro i Aberffraw, cartref i fisged enwocaf Cymru!

Ty Croes railway station