Llanfairpwll railway station

Gwasanaethu pentref Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn y mae gorsaf reilffordd Llanfairpwll. Mae’r pentref yn fyd-enwog am ei henw hirfaith:

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch

Er gwaethaf i lawer o chwedlau a straeon godi o amgylch gwreiddiau’r enw, nid yw’n ddim mwy na chynllun marchnata clyfar gan y Fictoriaid, i ddenu ymwelwyr i’r pentref i gael tynnu llun o flaen yr arwydd enfawr. Roedd yn ddyfais lwyddiannus, ac mae arwydd eiconig yr orsaf yn dal i ymddangos mewn miloedd o luniau ar Instagram bob blwyddyn!

Mae ystyr yr enw, fel cymaint o enwau lleoedd, yn gyfuniad swynol o nodweddion lleol, ac mae’n bosib ei gyfieithu’n fras fel ‘Eglwys y Santes Fair ym mhant y gollen wen ger trobwll chwyrn, ac eglwys Sant Tysilio ger yr ogof goch.’

Llanfairpwll railway station

Credwch neu beidio, NID Llanfairpwll sy’n dal y record am enw’r orsaf reilffordd hiraf yng Nghymru. Mae’r anrhydedd hwnnw’n perthyn i orsaf reilffordd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Y Rhws – hirach efallai, ond yn llawer llai o gwlwm tafod.

Mewn gwirionedd, mae gorsaf Llanfairpwll yn hanesyddol ynddo’i hun, gan iddi oroesi tanau trychinebus cyn dod o fewn trwch blewyn i gael ei chau lawr ar sawl achlysur. Fe’i hagorwyd ym 1848 fel terfynfa lein Caergybi, cyn i Bont Britannia gysylltu Môn â’r tir mawr ym 1850.