Dadorchuddio Gwaith Celf Newydd am Ddiogelwch ar y Rheilffyrdd yng Ngorsaf y Rhyl 

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn falch iawn o ddadorchuddio dau ddarn o gelf trawiadol gyda’r nod o hybu diogelwch ar y rheilffyrdd, diolch i brosiect ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Gymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Yn dilyn achos diweddar o dresmasu gan bobl ifanc yn yr orsaf, sefydlodd PCSO Hall bartneriaeth arbennig gan ddod â’r artist graffiti talentog lleol Andy Birch a meddyliau creadigol myfyrwyr Ysgol Gatholig Crist y Gair at ei gilydd. Yn ogystal â thynnu sylw at bryderon yn ymwneud â diogelwch ar y rheilffyrdd, roedd y fenter yn gyfle i wella ymgysylltiad cymunedol a grymuso meddyliau pobl ifanc trwy gyfrwng celf.

Dros gyfnod o ddeuddydd, daeth cyfanswm o 25 disgybl, 7-11 oed, at ei gilydd i weithio’n agos â’r artist Andy Birch a PCSO Hall gan ddod â’u syniadau am ddiogelwch ar y rheiffyrdd yn fyw. Mae eu gwaith creadigol wedi arwain at ddau ddarn o waith celf trawiadol iawn sydd nid yn unig yn harddu’r orsaf ond hefyd yn atgoffa’r holl deithwyr am bwysigrwydd diogelwch ar y rheilffyrdd.

Group of children wearing high-visibility vests and three adults standing in front of a board that says "CADW SAFF KEEP SAFE" with a train in the middle in graffiti writing at a railway station.

Diolch i ymroddiad diflino a gwaith ar y cyd rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Trafnidiaeth Cymru, a Groundwork Gogledd Cymru (sy’n gweinyddu Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru), mae’r gwaith celf bellach yn addurno waliau gorsaf reilffordd y Rhyl, gan atgoffa pawb sy’n cerdded drwy’r coridorau am bwysigrwydd diogelwch.

Rwy’n ddiolchgar i Trafnidiaeth Cymru, Groundwork Gogledd Cymru ac Andy am roi cyfle i’r plant ysgol lleol gymryd rhan, a’n galluogi i rannu ein neges bwysig am gadw’n ddiogel ac ymddwyn yn briodol ar y rheilffyrdd. Mae’r gwaith celf yn wych a bydd miloedd o deithwyr yn ei weld dros y blynyddoedd i ddod, a dylai’r plant fod yn falch iawn o hynny.

PCSO Hall

Rydyn ni eisiau i’n gorsafoedd deimlo eu bod yn rhan o’r gymuned ac yn gysylltiedig â hi, ac mae’r prosiect hwn a’r gwaith celf gwych gan y plant a’r bobl ifanc yn estyn croeso hyfryd i deithwyr ac ymwelwyr sy’n dod i’r dref, gan gyflwyno neges hollbwysig am ddiogelwch ar yr un pryd.

Melanie Lawton Community Rail Strategic Lead 

The unveiling of the rail safety artwork at Rhyl railway station marks yet another milestone in the ongoing efforts to enhance safety and community well-being in the region. Passengers are encouraged to take a moment to admire the artwork and reflect on the importance of safety while traveling by rail.