Mae gorsaf reilffordd Bodorgan yn gwasanaethu pentref gwledig bach sy’n rhannu ei enw, yn ogystal â phentref Bethel gerllaw.

Agorwyd yr orsaf, a oedd yn wreiddiol am gael ei henwi’n Trefdraeth, ym mis Hydref 1849. Heddiw, mae’n orsaf ar gais ar gyfer gwasanaethau lleol rhwng Caer a Chaergybi.

Mae’r orsaf braidd yn ddi-nod, ond mae’r ardal gyfagos yn arbennig o hyfryd. Gerllaw mae Plas Bodorgan, yr ystâd wledig fwyaf ar Ynys Môn. Mae ei phlasty, colomendy ac ysgubor i gyd oll yn adeiladau rhestredig Gradd II. Saif y plas ar ‘safle arfordirol godidog’, ac mae’r ystâd wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys gerddi ffurfiol hardd, a pharc ceirw eang sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Hefyd, i’r rhai sydd â chwant am gyffro, mae’r ystâd yn gartref i gylch rasio ceir Trac Môn.

Bodorgan railway station