Melanie Lawton

Melanie Lawton

Mae prosiect newydd sy’n anelu at roi cymorth ac annog y rhai ag anableddau cudd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei glodfori a’i groesawu. Mae gan ‘Hyder i Deithio’ fideos a phodlediadau ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r fideos yn rhoi profiad realistig o’r hyn y gall rhywun ag anabledd cudd ei brofi wrth geisio defnyddio bws neu drên, ac yn dangos pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Dyffryn Conwy a Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Arfordir Gogledd Orllewin Cymru, Tape Music and Film, Creating Enterprise a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Rydym am i bawb deimlo’n hyderus, yn ddiogel ac yn saff wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy’n eithriadol o hapus bod y fenter newydd hon eisoes yn llwyddo i annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.” Dywedodd Mel Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol TrC, Gogledd Cymru: “Yn TrC, rydym am annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhan o’r her honno yw deall y rhwystrau y mae rhai pobl yn eu hwynebu. Mae gan lawer o bobl yn ein cymunedau anableddau cudd a phroblemau iechyd meddwl, ac i’r bobl hyn, gall cynllunio taith a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dasg hynod anodd. “Nod ‘Hyder i Deithio’ yw cefnogi pobl sydd â’r pryderon hyn ac mae’r fideos yn nodi’r heriau y maent yn eu hwynebu ond ar yr un pryd, mynd â nhw ar daith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gam wrth gam, gan ddangos y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. “Rydym wedi gweithio gyda sawl sefydliad i roi’r prosiect hwn ar waith ac roedd y cyngor a gawsom gan y rhai ag anableddau cudd yn helpu mawr i’n helpu i gynhyrchu’r fideos hyn.”

Mae prosiect newydd sy’n anelu at roi cymorth ac annog y rhai ag anableddau cudd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei glodfori a’i groesawu. Mae gan ‘Hyder i Deithio’ fideos a phodlediadau ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn…

Llandudno Christmas Extravaganza 2022

Cledrau Cymru Wales on Rails, Scenic Rail Britain, Groundwork Gogledd Cymru North Wales, Avanti West Coast

17th – 20th November 2022 In the heart of Llandudno to get into the Christmas Spirit. The Llandudno Christmas Extravaganza is a family fun event. You will find food, drink, gifts, funfair, entertainment and more. The 2021 event attracted approx.…

Remember Me!

Remember me! Bangor station war memorial, the lives behind the names by Bridget Geoghegan is available now. When did you last stand in front of a war memorial and wonder-who were the lives behind the names? This author has researched…

Ymuno â ni!

Conwy Valley Line Deganwy

Ymuno â ni! Y tîm Creu Dyfydol yn chwilio am Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol llawn amser sydd yn lleoli yn yr swyddi Creu Menter yn Morfa Gele. Darganfod mwy am a sefyllfa yma:

Lansio ymgyrch Teithio am Ddim i Blant

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn helpu teuluoedd a ffrindiau i archwilio Cymru a’r Gororau am lai drwy gynnig tocyn Teithio am Ddim i Blant yr hanner tymor hwn. Gall hyd at ddau blentyn dan 11 oed deithio am ddim gydag…