Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru

Ychydig amser yn ôl, mi fuon ni’n bwrw golwg ar ysbrydion a bwganod Rheilffordd Dyffryn Conwy (cewch ymweld â’r blog yma, os ydych yn ddigon dewr!), a chan fod Calan Gaeaf yn prysur nesáu, mae’n hen bryd i ni fentro i ymweld â rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.

O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae’r rheilffordd yn cysylltu ardaloedd sy’n frith o hanesion hynod ac arswydus. Ar hyd y lein byddwch yn dod ar draws cestyll cadarn a thai crand, eglwysi hynafol a safleoedd sanctaidd, adfeilion gweithfeydd diwydiannol ac olion diwylliannau sydd wedi hen ddiflannu. Maent i gyd yn hynod ddiddorol, pob un â hanes arbennig, ond maent hefyd yn gysylltiadau cyffyrddadwy â phethau dirgel sy’n perthyn i fyd arall…  byd anweledig ac arallfydol.

Erbyn meddwl, ac os ydych wedi darllen ein blog arall, nid yw’n syndod dysgu fod gogledd Cymru’n enwog am straeon arswyd ac ysbrydion dirifedi. P’un ag ydych yn credu ynddynt neu beidio mae digwyddiadau goruwchnaturiol, straeon am lofruddion dychrynllyd ac eneidiau colledig, yn apelio at bawb sydd â blas ar y brawychus a bwganllyd yn ystod Calan Gaeaf. Darllenwch ymlaen os ydych chi’n ddigon dewr!

Troseddwyd sinistr

Carchar Biwmares – gorsaf drenau agosaf: Bangor

Tref na ddylid ei cholli ar unrhyw daith i Ynys Môn yw Biwmares. Tref glan môr syfrdanol gyda hanes hir, diddorol ac yn aml yn gythryblus. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers oes y Llychlynwyr, ac mae gan Fiwmares gastell canoloesol byd-enwog, enghreifftiau arbennig o adeiladau Tuduraidd a charchar Fictorianaidd dychrynllyd.

Adeiladwyd Carchar Biwmares ym 1829 ac roedd yn gartref i lu o droseddwyr cythreulig a drygionus hyd iddo gau hanner canrif yn ddiweddarach. Er mai dim ond 30 o garcharorion cadwyd yno, fe welodd y carchar hwn ei gyfran deg o ddigwyddiadau erchyll yn ei oes fer. Digwyddodd ddau ddienyddiad proffil uchel yno, ac roedd Carchar Biwmares yn enwog am drin carcharorion yn greulon, a oedd yn aml yn cael eu cadwyno, eu chwipio, eu gwneud i dorri creigiau a’u gorfodi i dreulio dyddiau wedi eu hynysu mewn celloedd tywyll. Roedd y carchar hefyd yn gartref i un o’r melinau penyd olaf ym Mhrydain, lle bu’n rhaid i garcharorion gerdded mewn cylchoedd drwy’r dydd i gyflenwi dŵr i’r adeilad.

Tra bod nifer o garcharorion wedi eu dedfrydu i farwolaeth yng Ngharchar Biwmares, dim ond dau ddienyddiad trwy grogi a gyflawnwyd. Gadawodd y ddau eu holion goruwchnaturiol amlwg ar hanes y carchar. Y cyntaf oedd William Griffith ym 1830, a ddedfrydwyd i farwolaeth am geisio llofruddio ei gyn-wraig. Ar fore ei ddienyddiad, fe gododd baricêd yn ei gell a bu’n rhaid ei orfodi allan a’i lusgo at y crocbren. Yr ail oedd Richard Rowlands ym 1862, a ddedfrydwyd i farwolaeth am ladd ei dad-yng-nghyfraith. Mynnodd Rowlands ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd a dywedir iddo roi melltith o’r crocbren ar gloc yr eglwys gyfagos, gan ddarogan na fyddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr amser cywir – hyd heddiw nid yw’r cloc erioed wedi cadw amser.

Dywedir bod y ddau ddyn wedi’u claddu ym muriau’r carchar, ffaith a all fod yn gyfrifol am rywfaint o’r gweithgareddau arallfydol a adroddwyd o amgylch yr adeilad. Ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw adroddiadau am leisiau aflafar, ffigurau cysgodol a pholtergeistiaid.

Mae rhai ymwelwyr wedi adrodd am glywed sŵn traed yn llusgo y tu allan i’r celloedd pan nad oes neb yno, ac eraill wedi dweud eu bod wedi teimlo cyffyrddiadau neu glywed lleisiau’n sibrwd pan ar eu pen eu hunain yn y celloedd. Ai dyma Griffith a Rowlands neu eneidiau eraill a gollwyd i dreigl amser, tybed?

Ar wahân i Griffith a Rowlands, dywedir mai cyn-garcharor yw’r ysbryd mwyaf cyffredin. Mae o wedi’i glywed yn curo ar ddrysau ac yn chwibanu fel pe bai’n mynd o gwmpas ei rowndiau dyddiol yn y carchar.

Mae Carchar Biwmares yn lleoliad poblogaidd ar gyfer hela ysbrydion ac mae hyd yn oed wedi ymddangos ar y rhaglen deledu Most Haunted a gyflwynir gan Yvette Fielding. Os ydych chi’n ddigon dewr i fentro ei goridorau a’i gelloedd cysgodol yn ystod y dydd – neu yn y gyda’r nos – efallai y byddwch chithau hefyd yn profi’r ‘ymdeimlad di-dor o egni tywyll’ a brofir gan helwyr ysbrydion eraill. Ymlaen â chi, os ydych chi’n meiddio!

Cynllunio ymweliad: daliwch fws ger gorsaf drenau Bangor i gyrraedd Biwmares; mae’n daith ddymunol gyda golygfeydd gwych ar hyd y Fenai. Am brisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i wefan y carchar yma.

[embedyt] https://www.youtube.com/watch?v=2M1fkhTN8yc[/embedyt]

Jac Ceidwad y Goleudy

Ynys Lawd – gorsaf drenau agosaf: Caergybi

Daw un o straeon ysbryd enwocaf Ynys Môn o oleudy eiconig Ynys Lawd, i’r gogledd-orllewin o Gaergybi. Mae’r goleudy hwn – sy’n fyd-enwog am ei safle diarffordd a pheryglus – wedi magu enw fel ardal sy’n ferw o ddigwyddiadau goruwchnaturiol, gydag adroddiadau am y paranormal yn dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd.

Wedi’i leoli mewn gwarchodfa natur RSPB o 90 erw, mae Ynys Lawd yn boblogaidd gyda cherddwyr, gwylwyr adar a ffotograffwyr. Mae’r goleudy a’r warchodfa natur daith fer ar fys o Gaergybi, ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond bydd yn rhaid rhoi eich coesau ar waith i ennill yr hawl i ddweud eich bod wedi ymweld! Mae 400 o risiau serth yn sefyll rhyngoch chi a’r goleudy, yn ogystal â phont grog fechan yn croesi’r dyfroedd corddol islaw. Ar ôl yr holl adrenalin, efallai y byddwch chi’n falch o weld ysbryd!

Adeiladwyd y goleudy 41 metr o uchder yn 1809, i rybuddio llongau rhag y creigiau peryglus islaw. Ym 1853, tarodd storm enfawr arfordir Môn, gan arwain at longddrylliadau niferus. Yn ystod y storm, cwympodd graig gan daro ceidwad y goleudy Jac Jones. Ni chlywodd neb ei grio am help, a bu farw o’i anafiadau dair wythnos yn ddiweddarach. Yn ôl y chwedl, mae ysbryd Jac i’w glywed o hyd yn curo ar ddrysau a ffenestri’r goleudy yn ystod y nos. Mae pobl leol yn honni eu bod wedi clywed sŵn traed trwm o amgylch y goleudy, yn ogystal â sgrechiadau arswydus. Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae eraill wedi gweld drysau’n cael eu hysgwyd a chlywed tapio ar y ffenestri, fel pe bai rhyw greadur truenus yn ceisio lloches rhag storm ofnadwy.

Mae Yvette Fielding a chriw’r rhaglen deledu Most Haunted wedi cynnal darllediad byw o’r goleudy ac yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi dod ar draws ceidwad y goleudy yn ystod eu helfa. Honnai’r tîm eu bod wedi gweld ffigwr cysgodol yn eu gwylio drwy ffenest, ond pan aethant i’w dilyn fe neidiodd y ffigwr o’r clogwyni i’r môr. Dal ddim yn credu mewn ysbrydion? Mae’r awdur Richard Jones, ymchwilydd paranormal blaenllaw, wedi rhoi sgôr arswydus o 5 seren i oleudy Ynys Lawd yn ei lyfr diweddaraf, Haunted Britain!

Cynllunio ymweliad: Mae’n rhan o warchodfa natur RSPB ac y mae’r goleudy a chlogwyni yn gwneud diwrnod allan wych i’r teulu cyfan. Am fwy o wybodaeth am amseroedd agor a phrisiau cliciwch yma, ac i drefnu ymweliad a thaith tywys o’r goleudy, cliciwch yma.

© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales

‘Drychiolaethau’ traeth Newry

Caergybi – gorsaf drenau agosaf: Caergybi

“A dweud y gwir maen nhw’n eitha brawychus….yn enwedig o’u gweld yng ngolau’r lleuad.”

Daw dirgelwch diddorol arall o Gaergybi ar ffurf yn ffigyrau rhyfedd a fydd yn ymddangos weithiau ar draeth Newry, ychydig funudau ar droed o ganol Caergybi. Mae’r ffigyrau’n ymddangos yn debyg i fodau dynol yn codi o’r dŵr ac yn ddrwg-enwog am ddychryn pobl ar y lan, yn enwedig ym mherfeddion tywyll nosweithiau gaeafol.

Mae gweld y ffigurau hyn wedi tanio sawl dychymyg, gyda rhai yn eu cymharu ag ysbrydion morwrol llong chwedlonol y Flying Dutchman. Mae llun o’r ‘ysbrydion’ hyn wedi’i rannu droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer yn sôn am eu hymddangosiad unigryw ac atmosfferig. Cewch benderfynu drosoch eich hun drwy glicio yma.

Mewn gwirionedd, clwstwr o bolion pren o hen ramp bad achub Caergybi wedi’u gorchuddio â gwymon yw’r ffigyrau. Dros y blynyddoedd, mae natur wedi eu siapio’n ffurfiau dynolaidd, sy’n ymddangos pan fo’r llanw ar drai a dychryn pobl sy’n pasio heibio. Ystyrir fod y ‘drychiolaethau’ hyn yn ein hatgoffa o ddewrder criwiau bad achub Ynys Môn sydd wedi – ac yn parhau i – fentro eu bywydau i helpu eraill ar bob hin.

Er nad yw’r ‘ysbrydion’ hyn yn oruwchnaturiol, maent yn sicr yn ychwanegu at naws ddirgel a hudol Caergybi, gan wneud y dref yn lle hynod ddiddorol i’r rhai sy’n ymddiddori yn yr iasol ac annearol y Calan Gaeaf hwn.

Cynllunio ymweliad: o orsaf drenau Caergybi, mae traeth Newry yn daith cerdded o ugain munud o ganol y dref. Dilynwch arwyddion ar gyfer Amgueddfa Arforol Caergybi ac efallai cynnwys ymweliad i’r amgueddfa arbennig hon ar y ffordd, a dysgu mwy am ddewrder y dynion a merched Cymraeg sydd wedi ymroi eu hunain i’r môr.