Passenger feedback wanted in survey by Transport for Wales Rail and Cardiff University

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (TfW) a Phrifysgol Caerdydd wedi cydweithio i edrych ar brofiadau teithwyr o ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, ac i edrych hefyd ar y ffordd mae teithwyr wedi rhyngweithio ac ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn. Amcan y cydweithrediad hwn yw y bydd yn llywio’r gwelliannau a wneir i wasanaethau, er mwyn cefnogi anghenion teithwyr yn uniongyrchol.Os ydych yn defnyddio trenau yn rheolaidd, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr.

Yn yr arolwg, bydd cwestiynau ynghylch eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd TfW a hynny o ran gwahanol rannau o’r daith, a bydd ynddo hefyd gwestiynau ynghylch sut rydych wedi rhyngweithio â’r gwasanaethau rheilffyrdd (e.e. gyda phersonél, teithwyr eraill ac adnoddau hunanwasanaeth). Yn ogystal, bydd yr arolwg yn gofyn pa mor fodlon ydych chi â’r gwasanaethau rheilffyrdd, ac yn gofyn am eich agweddau ynghylch ymgysylltu â nhw (e.e. defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol). Drwy edrych ar sut mae’r pynciau hyn yn berthnasol i’w gilydd, bydd TfW yn gallu datblygu strategaethau sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r agweddau hynny ar wasanaethau rheilffyrdd sy’n bwysig i deithwyr ac sy’n berthnasol i’r ffordd y maen nhw’n defnyddio’r gwasanaethau dan sylw.

Mae’r arolwg yn casglu ymatebion ar blatfform gwahanol (Qualtrics), sy’n storio data mewn modd sy’n cydymffurfio â dull cadw-gwybodaeth Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac mae hunaniaeth yr holl ymatebwyr yn anhysbys. Wrth ateb yr arolwg, caiff yr holl ymatebion eu hamgryptio gan ddefnyddio amgryptio TLS (a elwir hefyd yn amgryptio HTTPS) sy’n golygu bod ymatebion yn cael eu casglu’n ddiogel gan Qualtrics. Yn ogystal, caiff y data hwn ei storio gan ddilyn canllawiau mewnol Prifysgol Caerdydd ar gyfer casglu a storio data moesegol sydd hefyd yn cydymffurfio â’r GDPR. Ni fydd unrhyw drydydd parti yn cael mynediad at ymatebion, sy’n golygu mai dim ond Gwasanaethau Rheilffyrdd TfW a Phrifysgol Caerdydd fydd yn gallu gweld y data.

I ddweud diolch am gymryd rhan, cewch y cyfle i ennill taleb Love2Shop (1 x £100, 1 x £75, 1 x £50, 3 x £25) drwy nodi’ch cyfeiriad ebost ar ddiwedd yr arolwg. Ni fydd yr ebost hwnnw yn cael ei gysylltu â’ch ymatebion.

Arolwg:

English Normalhttps://cardiff.qualtrics.com/jfe/form/SV_0udTfDrDu6O8g3s

English Screen Readerhttps://cardiff.qualtrics.com/jfe/form/SV_5AbsF3GGihNj0KW

Welsh Normalhttps://cardiff.qualtrics.com/jfe/form/SV_bwGhvBsVi5oq6W2

Welsh Screen Readerhttps://cardiff.qualtrics.com/jfe/form/SV_eqYEOvPU1xJFTzU