Cerdded er Les

Yn 2021, cyd-ariannodd y bartneriaeth gyfres o deithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar yn Nyffryn Conwy ac ar arfordir Gogledd Cymru, gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau. Dan arweiniad Mind Conwy, daeth grŵp bach o bobl leol at ei gilydd, a’r rhan fwyaf ohonynt am y tro cyntaf, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio. I gadw’r teithiau’n hygyrch, fe wnaethom gyfarfod mewn gorsaf reilffordd neu safle bysiau, cyn cerdded mewn ardaloedd hynod o hardd, gan gynnwys Rhaeadr Fawr a Betws y Coed. Yn ystod y teithiau cerdded, anogwyd y grŵp i archwilio’r 5 ffordd at lesiant, gan gynnwys cysylltu ag eraill. Enwebwyd y prosiect ar gyfer gwobr ‘Ymgysylltiad Gorau â’r Gymuned’ yng ngwobrau Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, ac fe ddyfarnwyd y 3ydd safle iddynt, cyflawniad arbennig! Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yma: