Seren Grace’s Amazing Machines yn ymuno â’r panel o feirniaid ar gyfer cystadleuaeth enwi trenau

Mae seren CBeebies, Grace Webb, a chyflwynydd poblogaidd S4C, Trystan Ellis-Morris, ymhlith y beirniaid ar gyfer cystadleuaeth newydd gyffrous sy’n rhoi cyfle i blant ysgol enwi trenau newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer Cymru a’r gororau.

Mae cystadleuaeth y Daith Drên Odidog yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i blant ysgolion cynradd ddod yn rhan o hanes rheilffyrdd a dewis enwau hyd at 148 o drenau.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog plant i feddwl am enwau sy’n seiliedig ar leoliad go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigur chwedlonol sy’n gysylltiedig â llefydd yng Nghymru a’r Gororau. Rhaid i’r cynigion gynnwys rhywbeth creadigol i esbonio pam eu bod wedi dewis yr enw hwnnw, fel cerdd, stori neu lun.

Gellir cyflwyno ceisiadau’n unigol, neu fel rhan o ddosbarth neu ysgol.

Dywedodd Megan Roseblade, arweinydd prosiect Trafnidiaeth Cymru a chyn-athrawes: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at lansio’r gystadleuaeth wych hon sy’n rhoi cyfle i blant fod yn rhan o hanes rheilffyrdd.

“Ond mae’n fwy na dim ond cystadleuaeth enwi trenau, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn dysgu rhyngweithiol sy’n cynnig ffordd hwyliog o ddysgu am gynaliadwyedd, hanes y rheilffyrdd, sut mae trenau’n cael eu hadeiladu, a’r llefydd anhygoel y gall pobl ymweld â nhw ledled Cymru ar drên.

“Mae yna hefyd gêm ar-lein wych o’r enw ‘Route Wrangler’ i gyd-fynd â’r pecyn dysgu. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y plant yn eu caru ac y bydd rhieni ac athrawon yn eu hystyried yn adnodd defnyddiol iawn.”

Bydd enillwyr yn cael eu dewis o bob rhanbarth o rwydwaith Cymru a’r Gororau gan banel o feirniaid gwych sy’n cynnwys Grace Webb, cyflwynydd Grace’s Amazing Machines, cyflwynydd S4C, Trystan Ellis-Morris, Children’s Laureate for Wales, Eloise Williams, a Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Daw’r gystadleuaeth i ben ar 9 Ebrill gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr haf, a’r enwau llwyddiannus yn ymddangos ar drenau newydd wrth iddynt gael eu cyflwyno o 2022 ymlaen.

Bydd pob enillydd yn cael ‘Pecyn Creadigol’ y gallant ei ddefnyddio yn yr ysgol neu gartref a bydd enillwyr ym mhob rhanbarth, ac ar gyfer y stori, y gerdd neu’r llun gorau, yn cael trên model i’w hysgol, wedi’i ddylunio’n arbennig gan Hornby. Bydd ysgolion yn cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am y trên maen nhw wedi’i fabwysiadu.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynhyrchu pecyn gwersi wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer dysgu gartref, sy’n cynnwys gweithgareddau hwyliog a diddorol am y rheilffyrdd, hanes, newid yn yr hinsawdd, a mythau, chwedlau a thirnodau Cymru a’r Gororau.

Dywedodd David Burrows, Pennaeth Ysgol Gynradd Blaenbaglan ym Mhort Talbot: “Mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd hwyliog i bobl ifanc fod yn greadigol a dysgu am gymaint o bethau, fel sut mae trenau’n cael eu gwneud, yr amgylchedd a hanes eu hardal leol.

“Mae’r adnodd yn hwyl ac yn addysgol i ddysgwyr ei ddefnyddio gartref neu yn yr ystafell ddosbarth pan fyddwn ni’n ôl gyda’n gilydd.

“Byddwn i’n annog pawb i roi cynnig arni a chymryd rhan. Byddwn ni’n sicr yn cymryd rhan – pob lwc!”