Sioe ysblennydd y syrcas yn dod i’r dref i ddathlu 150 o flynyddoedd o linell Dyffryn Conwy

Pabell fawr a rheilffordd fach oedd rhai o’r uchafbwyntiau mewn dathliad arbennig o linell Dyffryn Conwy yn Llanrwst

Mae’n 150 o flynyddoedd ers i linell Dyffryn Conwy gyrraedd Betws-y-Coed ac i nodi’r achlysur, daeth Trenau Arriva Cymru a Phartneriaeth Dyffryn Conwy ynghyd i drefnu’r dathliad am ddim a ddenodd bron 1,000 o bobl.

Roedd y syrcas yn cynnwys llu o berfformwyr talentog, yn fwytawyr tân, jyglwyr a chlowniaid a syfrdanodd y dorf. Yn ei ategu roedd Rheilffordd Ucheldir Cymru a gynigiodd deithiau ar drên bach.

Er gwaethaf tywydd gwael barnwyd bod y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac yn deyrnged deilwng i un o’r llinellau teithwyr harddaf yng Nghymru.

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy, sydd ychydig mwy na 27 milltir (43km) o hyd, yn ymlwybro o lan y môr yn Llandudno i Flaenau Ffestiniog, y porth i Eryri. Bu sawl ymgais i gael caniatâd am reilffordd ar hyd Dyffryn Conwy yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond grŵp o ddynion busnes mentrus o Reilffordd Caer a Chaergybi (CHR), yn gweithredu fel Cwmni Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a wireddodd y syniad. Rhoddwyd cymeradwyaeth Seneddol yn 1860 a chafodd y llinell ei hadeiladu fesul camau hyd 1879.

Agorodd cam cyntaf Rheilffordd Dyffryn Conwy – o Gyffordd Llandudno i Ogledd Llanrwst – yn 1863. Erbyn hynny roedd y llinell o dan berchnogaeth y London and North Western Railway (LNWR), oedd wedi prynu’r CHR a Chwmni Rheilffordd Conwy a Llanrwst yn 1860.

Melanie Lawton, Community Rail Officer

BetwsYCoedRailStation2018.02.20-17-2

Gweithiodd peirianwyr LNWR yn ddiflino am dair blynedd i ddofi’r cefn gwlad gwyllt ac adeiladu llinell a redai ar hyd glannau afon Conwy i dref farchnad Llanrwst. Ond ni ddaeth y gwaith i ben yn y fan honno. Yn 1865, cafodd yr LNWR ragor o gymeradwyaeth i ymestyn y llinell ychydig mwy na 3 milltir (5km) i Fetws-y-Coed. Agorodd y llinell i drenau nwyddau yn 1867 ac i drenau teithwyr yn 1868. Byddai’r llinell yn ymestyn yn ddiweddarach i fyny Cwm Lledr i Flaenau Ffestiniog i gysylltu â’r chwarel yno.

Dywedodd Ben Davies, Rheolwr Rhanddeiliaid Trenau Arriva Cymru: “Mae llinell Dyffryn Conwy mor bwysig i’r ardal hon ac mae’r ffaith ei bod yn dal i fynd yn adlewyrchu hynny. Rydyn ni wedi bod yn falch o weithredu’r llinell ers 15 mlynedd o’i hanes, a gallwn edrych ymlaen at ddyfodol sicr o’n blaen.

“Roedd y dathliad yn deyrnged deilwng i hanes y llinell ac rydyn ni’n falch iawn bod cynifer o bobl wedi gallu dod draw a mwynhau’r diwrnod.”

Meddai’r Cyng. Philip C Evans, cadeirydd y Bartneriaeth: “Er gwaethaf y tywydd, daeth bron 1000 o bobl i’r digwyddiad trwy’r diwrnod a mwynhau’r syrcas. Rydyn ni’n gobeithio y bydd proffil y llinell yn cael ei godi, yn enwedig ymysg y bobl iau.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Rheilffordd Dyffryn Conwy: “Roedd yn fraint rhoi ynghyd a threfnu digwyddiad cymunedol am ddim yn Llanrwst i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r llinell gyrraedd Betws-y-Coed. Ynghyd â Chris Williams o HTC Events, trefnasom syrcas pwrpasol gyda 6 pherfformiwr a 2 sioe oedd yn llawn dop. Roedd y digwyddiad am ddim i’r gymuned a chodwyd cannoedd o bunnoedd tuag at gronfa Eisteddfod Llanrwst. Mae llyfryn coffa am ddim ar gyfer y digwyddiad ar gael mewn llyfrgelloedd yn Sir Conwy a swyddfeydd tocynnau gorsafoedd rheilffordd Llandudno a Chyffordd Llandudno.”

BetwsYCoedRailStation2018.02.20-35

Betws-y-Coed yw’r orsaf fwyaf a phrysuraf rhwng y prif orsafoedd ar linell Dyffryn Conwy. Fe’i hagorwyd i gludo nwyddau a llechi a hefyd i ateb y galw cynyddol gan dwristiaid. Cafodd Betws-y-Coed a’i chyffiniau eu gwneud yn boblogaidd gan artistiaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roeddent yn atyniad rhy dda i’w golli i ymwelwyr oedd yn awyddus i gael blas ar Gymru ‘wyllt’.