Ebrill – Diwrnodau allan ar y trên

Diwrnodau allan am ddim i’r teulu ar y trên yng ngogledd Cymru

Mae ceisio cadw’r plant yn ddiddan dros y gwyliau ysgol yn broblem gyffredin i rieni, a gall fod yn gostus iawn hefyd. Gan fod y plant wedi arfer â threfn ddyddiol yr ysgol, chwaraeon a gweithgareddau ar ôl ysgol, does dim syndod eu bod yn diflasu yn ystod y gwyliau. Mae anfon y plant i wersylloedd chwaraeon a chlybiau gwyliau yn ddrud, ac er bod y rhain o gymorth mawr i deuluoedd prysur, does dim rhaid gwario arian i dreulio amser gyda’ch gilydd. Dyma rai awgrymiadau am sut gallwch chi fwynhau diwrnodau allan gwych fel teulu ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni, a hynny am y nesaf peth i ddim.

Yn gyntaf, mae angen paratoi. I gadw costau’n isel, bydd angen i chi brynu Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig dewis eang o gardiau rheilffordd – mae’r cardiau hyn yn cael eu prynu ymlaen llaw ac maen nhw’n cynnig gostyngiad ar bris tocynnau mewn gwahanol rannau o Gymru. Ar gyfer teuluoedd, y Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiausy’n cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau lleol a chenedlaethol. Mae Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau yn rhoi gostyngiad o ⅓ ar bris tocyn trên i oedolyn (heb sôn am ostyngiad o hyd at 60% i blant) ar draws y Deyrnas Unedig – gall hyn arbed hyd at £150 ar gyfartaledd mewn blwyddyn. Y gost yw £30 y flwyddyn a gallwch ddechrau arbed arian yn syth.

Os ydych chi’n teithio ar drên Trafnidiaeth Cymru, gall plant o dan 16 oed deithio am ddim yn ystod amseroedd tawel yng nghwmni oedolyn sy’n talu, a gall plant o dan 11 oed deithio am ddim bob amser – Plant i gael teithio am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru.

Tybed a yw hyn wedi eich ysbrydoli i ymweld â gogledd Cymru ar drên? Er mwyn i chi ddechrau arni, rydyn ni wedi dewis ein hoff orsafoedd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Dyffryn Conwy lle gallwch fwynhau diwrnod allan gwych, a hynny am bris bag o sglodion mewn rhai achosion!

1. Conwy

Beth am ddechrau drwy ymweld â Safle Treftadaeth y Byd UNESCO?  Mae tref fach Conwy yn enwog ledled y byd am ei chastell canoloesol a muriau’r dref. Mae’r amddiffynfeydd sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg yn enghraifft wych o beirianneg filwrol ac mae hyn yn oed yn bosibl i chi gerdded ar hyd y muriau! Adeiladwyd y castell a’r muriau amgylchynol gan Edward I fel rhan o goncwest Cymru. Y nod oedd darostwng y Cymry brodorol; yn wir, Saeson yn unig oedd â’r hawl i fyw o fewn muriau’r dref! Os dewch oddi ar y trên yng nghanol y dref, byddwch yng nghanol y safle treftadaeth godidog hwn.

Ancient stone castle ruins overlooking a harbor with boats, under a clear blue sky with scattered clouds. Visitors explore the historic site on a sunny day.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Beth am ddechrau drwy gerdded ar hyd muriau’r dref – mae’n ffordd wych o weld yr ardal a mwynhau golygfa arbennig o’r dref a’r castell. Mae’r golygfeydd o ben y muriau yn wirioneddol anhygoel – gallwch weld y Gogarth Fawr a Môr Iwerddon ar y naill law, mynyddoedd y Carneddau ar y llaw arall, yn ogystal â Dyffryn Conwy yn ymestyn o’ch blaen. Mae’n hawdd gweld pam y bu ymladd ffyrnig rhwng y Cymry a’r Saeson i reoli’r lleoliad strategol hwn. Mae byrddau gwybodaeth wedi’u gosod ger y grisiau i’r muriau ac mewn mannau eraill er mwyn tynnu sylw at fannau o ddiddordeb wrth i chi gerdded*.

Cyngor ar sut i arbed arian: Os ydych awydd ymweld â’r castell, mae Cadw wedi ymuno â Trafnidiaeth Cymru i gynnig 2 docyn mynediad am bris 1 i ymwelwyr sy’n teithio i safleoedd hanesyddol ar y trên.

A narrow, red two-story building with a distinctive sign proclaiming it 'The Smallest House in Great Britain,' nestled between larger buildings.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Ar ôl crwydro ar hyd y muriau, mae’n siŵr y bydd chwant bwyd arnoch, felly beth am fynd draw i Gei Conwy, lle gallwch eistedd i fwynhau pryd o bysgod a sglodion o un o’r siopau niferus yn y dref. Beth sy’n well na diwrnod allan am ddim (bron iawn), yn hamddena ar y cei ar ddiwrnod braf gan fwynhau bag o sglodion. Mae Cei Conwy yn gartref i dŷ anarferol a bach iawn hefyd. Yn swatio o dan furiau’r castell mae’r tŷ lleiaf ym Mhrydain, yn ôl y sôn. Mae’r tŷ bychan, un ystafell i fyny grisiau, ac un ystafell ar y llawr gwaelod, yn 182cm o led a 309cm o uchder ac roedd yn arfer bod yn gartref i bysgotwr 6 troedfedd 3 modfedd o daldra! Mae’n lle gwych i dynnu llun, felly cofiwch alw draw. Mae’r cei hefyd yn borthladd pysgota a gallwch weld y pysgotwyr wrth eu gwaith. Cofiwch ymweld â gwaith prosesu Cregyn Gleision Conwy ar y cei i ddysgu rhagor am y cynnyrch lleol unigryw hwn a’r broses ffermio a chasglu. Gallwch hyd yn oed brynu pysgod ffres i fynd adref gyda chi!

A bustling marina with people dining at outdoor tables, various boats docked nearby, and tents set up along the walkway under a clear blue sky.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Cyn i chi droi am adref, beth am ymweld â pharc a gerddi Bodlondeb. Mae’r parc hyfryd hwn y tu allan i furiau’r dref yn lle gwych i fwynhau ychydig o dawelwch a llonyddwch ar ôl bwrlwm a phrysurdeb y dref dwristaidd. Mae yma fan chwarae i’r plant, cyrtiau tennis, llwybr drwy’r coetir, ac wrth gwrs, digon o laswellt i ymlacio a chicio pêl! Mae’r gerddi ffurfiol sy’n amgylchynu Bodlondeb ei hun (hen blasty Fictoraidd a adeiladwyd ar gyfer y perchennog llongau Albert Wood, ond swyddfeydd y cyngor erbyn hyn) yn hyfryd ac yn llawn lliw.

Mae eich plant yn siŵr o gysgu’n sownd ar ôl diwrnod allan gwych!

*Sylwer: mae’n bosibl nad yw muriau’r dref yn addas ar gyfer plant ifanc neu phobl sydd ag ofn uchder, a gallant fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.

2. Llandudno

Does dim angen i chi deithio’n bell o dref Conwy i fwynhau ein diwrnod allan nesaf. A dweud y gwir, gallwch weld y gyrchfan nesaf o furiau’r dref. Mae tref Llandudno yn adnabyddus i bawb fel ‘brenhines ymdrochleoedd Cymru’ ond cyn i’r ymwelwyr gyrraedd, roedd yn gymuned fach o fwyngloddfeydd ar lethrau’r Gogarth! Cafodd y pentref tawel hwn ei roi ar y map gan deithwyr mentrus oes Fictoria, wrth iddynt chwilio am gyrchfannau newydd i ymweld â nhw. Cafodd yr ymwelwyr eu denu yma gan natur wyllt y Gogarth Fawr, penrhyn o galchfaen ag iddo hanes hynafol, a’r traethau hardd cyfagos, sef Traeth y Gogledd a Phenmorfa. Yn wir, datblygodd tref Llandudno yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr mewn cyfnod byr iawn, ac adeiladwyd canol y dref mewn ugain mlynedd yn unig!

Mae Llandudno yr un mor boblogaidd ag erioed ac yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’n lle gwych i aros er mwyn ymweld ag ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru, a gan mai dyma’r orsaf olaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mae’n fan cyfleus iawn i ddal y trên i gyrchfannau twristaidd eraill hefyd.

Mae mwynhau diwrnod allan yn Llandudno heb wario ceiniog yn dipyn o her; nid diffyg pethau i’w gwneud yw’r broblem, ond y ffaith bod gormod o ddewis! I wneud y gorau o’ch ymweliad â’r dref, rydyn ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n cynllunio ymlaen llaw. Mae yna rai pethau y mae’n rhaid i chi eu gweld, felly dyma restr o’r goreuon.

Yn gyntaf, wrth i chi adael yr orsaf ewch am dro ar hyd y brif stryd, sef Stryd Mostyn, i fwynhau’r bensaernïaeth Fictoraidd hardd o’ch cwmpas. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r orsaf drenau ei hun, Eglwys y Drindod a Pharêd y De. Byddwch yn cyrraedd y traeth a’r pier enwog yn y pen draw – uchafbwynt pob ymweliad â Llandudno. Traeth y Gogledd yw’r mwyaf poblogaidd o ddau draeth y dref. Yma gallwch fwynhau’r holl bethau rydyn ni’n eu cysylltu â diwrnod allan ar lan y môr: hufen iâ, adeiladu cestyll tywod, ffair, ac arcêds adloniant … ond mae’n rhaid gwario arian i wneud bob un o’r rhain, ac rydyn ni’n ceisio arbed arian wedi’r cyfan.

Yn hytrach, beth am aros i fwynhau sioe Pwnsh a Jwdi ger y pier. Mae’r sioe bypedau enwog hon wedi bod yn diddanu ymwelwyr y dref ers dros 150 o flynyddoedd a dyma’r sioe Pwnsh a Jwdi hynaf yn y Deyrnas Unedig! Does dim rhaid talu i fwynhau’r sioe, ond gofynnir am gyfraniadau gwirfoddol ac mae’r arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau dyfodol yr adloniant hwn sy’n rhan mor bwysig o hanes Llandudno.

A clock with the text "Next Show" above it and "weather permitting!" below, mounted on a wall with decorative carvings, including a gold-colored mask motif, beside a red curtain.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Ar ôl gweiddi ar Mr Pwnsh, beth am fynd am dro ar hyd Pier Llandudno,  pier hiraf Cymru ac adeilad rhestredig Gradd II. Mae’r pier 700m o hyd yn ymestyn i Fae Llandudno ac wrth gerdded ar ei hyd gallwch fwynhau golygfeydd godidog o’r dref, y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, heb sôn am Barc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Bydd gwynt y môr yn siŵr o godi awch bwyd arnoch, a gallwch brynu rhywbeth blasus o’r stondinau ar hyd y pier, ond cadwch lygad am y gwylanod! Dewiswch o blith pasteiod ffres, waffls, bwyd môr ffres, pysgod a sglodion, a hyd yn oed toesenni melys – blasus iawn!

A person browsing items at a stall on a wooden pier with colorful balloons and toys for sale in the foreground. The pier extends into the background with other visitors walking along its length.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Ar ddiwedd eich ymweliad, beth am fynd am dro i barc Y Fach (neu Happy Valley yn Saesneg) sydd i’w weld o’r Pier – rydych yn siŵr o sylwi ar yr arwydd Llandudno anferth! Roedd y dyffryn tawel hwn ar droed y Gogarth yn gyrchfan boblogaidd iawn yn ystod oes Fictoria a chafodd ei ddatblygu yn ardd bleser a oedd yn cynnwys gerddi addurniadol, rhaeadrau a theatr awyr agored lle cynhaliwyd adloniant o bob math. Mae naws arbennig yn y Fach hyd heddiw ac er nad oes unrhyw sioeau yn cael eu cynnal yno bellach, mae’n llecyn hyfryd i ymlacio ar ddiwedd eich diwrnod allan. Cadwch lygad am: y cylch o gerrig ar y glaswellt – nid heneb yw’r cylch hwn, ond yn hytrach cylch gorsedd y beirdd a gafodd ei osod yma pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963! Codwyd y gofeb i’r Frenhines Victoria i nodi jiwbilî’r frenhines ac i ddathlu cyflwyno gerddi’r Fach i bobl Llandudno gan y tirfeddiannwr lleol, yr Arglwydd Mostyn.

People enjoying a sunny day in a green park with trees, overlooking a serene blue sea with a pier extending into the water.

Whiw! Bydd yn rhaid i chi drefnu ymweliad arall â Llandudno, mae cymaint o bethau i’w gweld!

3. Betws-y-Coed

Ar gyfer ein diwrnod allan olaf am ddim i’r teulu, rydyn ni’n teithio o’r arfordir i mewn i’r tir ac yn ymweld â chyrchfan boblogaidd arall a ddaeth yn enwog yn ystod oes Fictoria. Daeth pentref hardd Betws-y-coed yn gyrchfan i artistiaid Fictoraidd a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt a garw ar gyfer eu paentiadau rhamantaidd. Cafodd y llethrau tywyll coediog, y bryniau garw a’r afonydd byrlymus sy’n amgylchynu’r pentref hardd hwn ddylanwad mawr ar bobl oes Fictoria ac ar ddatblygiad Rheilffordd Dyffryn Conwy. Heddiw, Betws-y-coed yw’r orsaf brysuraf ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy. Natur wyllt yr ardal sy’n dal i ddenu ymwelwyr yma yn eu miloedd. Heddiw, mae’r pentref yn ganolfan bwysig i gerddwyr, dringwyr a beicwyr sy’n aros yma cyn teithio yn eu blaenau i ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond mae’r pentref hefyd yn denu teuluoedd ac ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd i fwynhau’r golygfeydd godidog, y naws Gymreig a’r lleoliad hygyrch. Bydd eich diwrnod allan yma yn gyfle i chi fwyhau’r elfennau hyn hefyd: byddwn yn dangos un o’r llecynnau prydferthaf yn y pentref i chi, ac yn eich cyflwyno i’r natur wyllt, a bydd y cyfan yn dechrau ar y trên!

Wrth i chi gyrraedd Betws-y-coed, byddwch eisoes wedi mwynhau un o’r teithiau trên harddaf yn y wlad. Mae’r daith ar hyd Dyffryn Conwy, o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog yn ddiwrnod allan gwych ynddi ei hun – ac rydym yn argymell yn fawr eich bod yn mentro ar hyd y daith! Wrth i chi deithio o’r arfodir i lawr y dyffryn mae’r golygfeydd o’r mynyddoedd yn wirioneddol wych, byddwch yn deall yn iawn sut roedd artistiaid cynnar oes Fictoria yn teimlo.

Dewch oddi ar y trên a cherdded i mewn i bentref Betws-y-coed. Mae dewis gwych o siopau, caffis a bwytai yma felly gallwch fwynhau’r cyfan sydd ar gael ac o bosibl prynu rhywbeth bach i gofio am eich ymweliad; gallwch bob amser gefnogi busnesau lleol heb wario fawr ddim! Wrth i chi gerdded ar hyd y brif stryd byddwch yn mynd heibio Eglwys y Santes Fair a Gwesty’r Royal Oak, lle’r arferai’r goets fawr aros ar ei thaith o Lundain i Gaergybi. Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd pen eich taith, sef Pont y Pair, a godwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y bont ar gyfer ceffylau pwn yn wreiddiol ond cafodd ei lledu yn ddiweddarach ar gyfer traffig mwy o faint – wedi dweud hynny, mae’n gul iawn ac un cerbyd yn unig all groesi ar y tro! Mae’r bont yn croesi afon Llugwy sy’n llifo o fynyddoedd y Carneddau, rai milltiroedd i ffwrdd. Gall yr afon fod fel pair gwyllt ar adegau, oherwydd glawiad trwm a’r dŵr eira yn Eryri, a gall fyrlymu dros y creigiau mewn ffordd drawiadol iawn. Ar adegau eraill, pan fydd y dŵr yn isel, mae’n llifo’n araf dros y creigiau, gan wahodd ymwelwyr i wlychu eu traed a hamddena ar y glannau *. Byddwch yn siŵr o gael eich cyfareddu gan y llecyn arbennig iawn hwn, ni waeth pryd y byddwch yn ymweld ag ef.

Two individuals waving by a rocky river under an old stone arch bridge with trees and greenery in the background.
© Hawlfraint y Goron / © Crown Copyright (2024) Cymru Wales

Croeswch y bont unwaith yn rhagor wrth i ni fynd am dro fyny fry ac ymweld ag un o ryfeddodau cudd Betws-y-coed. Dilynwch y ffordd sy’n dolennu y tu ôl i Eglwys y Santes Fair ac yna dilynwch y llwybr sy’n arwain drwy’r goedwig at Lyn Elsi, cronfa ddŵr fechan yng nghanol Coedwig Gwydir. Er bod y llwybr yn serth iawn mewn mannau, mae’n dilyn ffyrdd drwy’r goedwig yr holl ffordd, felly mae’n ffordd hwylus i fwynhau natur wyllt Betws-y-coed. Peidiwch â phoeni, gallwch eistedd ar y fainc gyfleus os oes angen i chi gael eich anadl! Mwynhewch dawelwch a llonyddwch y goedwig gan ymgolli yng ngolygfeydd a sain byd natur o’ch cwmpas, mae’n anodd credu eich bod dafliad carreg o brysurdeb y pentref. Ar ôl i chi gyrraedd y llyn gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Eryri a’r Carneddau, neu beth am gerdded o amgylch y llyn drwy ddilyn y saethau gwyn ar yr arwyddion. Gan fod hon yn daith mor braf, fyddwch chi ddim eisiau brysio. Bydd yn cymryd tua dwy awr i chi gerdded i fyny ac i lawr, neu’n hirach o bosibl os oes gennych blant ifanc. Dylech ganiatáu digon o amser i gwblhau’r daith nôl i’r pentref, wedi’r cyfan, dydych chi ddim eisiau colli’r trên!

*Sylwer: mae glan yr afon yn greigiog iawn ac mae’n bosibl nad yw’n addas i blant ifanc iawn, a gall fod yn llithrig pan fydd yr afon yn uchel.

Gobeithio ein bod wedi eich annog i fentro ar y trên i fwynhau diwrnod allan gyda’r teulu. Beth am roi cynnig ar rai o’n teithiau yn ystod y gwyliau ysgol? Byddem wrth ein bodd yn clywed sut hwyl gawsoch chi. Does dim rhaid gwario ffortiwn i greu atgofion, a gan fod cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud am ddim yng ngogledd Cymru mae’n werth chweil mentro weithiau!