TrawsCymru
Mae TrawsCymru yn rhwydwaith o wasanaethau bws pellter-hir ac yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig Cymru.
Mae bysiau TrawsCymru yn cysylltu pentrefi, trefi, dinasoedd a chymunedau ar draws y wlad, gan gynnig dolen gyswllt trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i bobl leol ac ymwelwyr. Nod y gwasanaethau yw gwella mynediad i wahanol ardaloedd yng Nghymru, a’i gwneud yn haws i bobl deithio i’w gwaith, ar gyfer hamdden, neu unrhyw reswm arall heb ddibynnu ar gerbydau preifat. Mae bysiau TrawsCymru yn ddewis cost-effeithiol ac eco-gyfeillgar o deithio.
Fflecsi
Mae Fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd, cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â’ch gweithredwyr bysiau lleol.
Mae gwasanaeth Dyffryn Conwy ar gael chwe diwrnod yr wythnos, rhwng 06.30am a 7pm. Mae angen i chi archebu i gael eich casglu neu eich gollwng yn unrhyw le yn ardal y gwasanaeth.
Traveline Cymru
Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Trwy’r wefan a’r ap, mae’n darparu gwybodaeth gynhwysfawr a chywir am drafnidiaeth gyhoeddus i hwyluso teithio ar draws Cymru. Mae Traveline Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol i gynnig dewisiadau trefnidiaeth gyhoeddus ar fysiau a threnau ar draws Cymru, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.
Mae Traveline Cymru yn adnodd dibynadwy i gael gwybodaeth am deithio, gan sicrhau y gall teithwyr ddarganfod trysorau diwylliannol, rhyfeddodau naturiol, ac atyniadau trefol Cymru, a chael ymweliad i’w gofio.
Sherpa’r Wyddfa
Mae Sherpa’r Wyddfa yn rhwydwaith o wasanaethau bysiau sy’n teithio o amgylch godre’r Wyddfa gan aros mewn sawl lleoliad ger y llwybrau i’r copa, yn ogystal â phentrefi, cyrchfannau twristaidd a’r prif feysydd parcio.
Mae’r bysiau wedi’u cynllunio i apelio at gerddwyr ac ymwelwyr, gan ei gwneud yn haws iddynt gyrraedd man cychwyn y llwybrau o amgylch yr Wyddfa. Mae’r gwasanaethau hyn yn boblogaidd iawn ymhlith y rhai sydd am grwydro tirweddau a llwybrau godidog Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Sherpa’r Wyddfa yn helpu cerddwyr a thwristiaid i fwynhau harddwch naturiol yr ardal heb ddefnyddio car, gan gyfrannu at deithio cynaliadwy.
Ein newyddion diweddaraf
Detholiad o’n postiadau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf – Yr holl newyddion
Remembering Laurence John (Larry) Davies
We are deeply saddened by the news of former Community Rail Officer Laurence John…
Dadorchuddio Gwaith Celf Newydd am Ddiogelwch ar y Rheilffyrdd yng Ngorsaf y Rhyl
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn falch iawn o…
Have you seen the station transformation at Flint Railway Station?
Transport for Wales Trafnidiaeth Cymru invite you to join the Commercial Team and Community Rail…