Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru wedi rhoi £20,000 i grwpiau cymunedol ledled Gogledd Cymru drwy ei Grant Gwydnwch Cymunedol, er mwyn cefnogi prosiectau sy’n gwella llesiant, lleihau unigedd ac yn annog defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy.
Lansiwyd y grant yn gynharach eleni, diolch i arian gan Avanti West Coast ac arian cyfatebol gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn derbyn ei chyllid craidd gan Trafnidiaeth Cymru, ac yn cael ei gweinyddu gan Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CVSC).
Roedd y cynllun grant yn agored i sefydliadau cymunedol, elusennau, a chwmnïau buddiant cymunedol sydd o fewn pum milltir i orsaf ar hyd y rheilffyrdd rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a rhwng Chaergybi a Shotton, ac roedd yn cynnig hyd at £1,000 i bob sefydliad i wella gwydnwch a chynaliadwyedd.
Eleni mae 26 o sefydliadau wedi elwa ar y cynllun, gan gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ledled Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, a Sir y Fflint.
Bydd un o’r ymgeiswyr llwyddiannus, Stepping Stones North Wales, yn defnyddio’r grant i ddarparu sesiynau therapi celf proffesiynol i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod, gan eu helpu i fynegi eu trawma drwy greadigrwydd a gwella eu llesiant meddyliol.
Bydd JuncYard CIC yn prynu’r offer angenrheidiol ar gyfer Prosiect Parc Sglefrio Victoria yng Nghyffordd Llandudno, ac yn darparu gwersi ‘dysgu sglefrfyrddio’ am ddim i wella gweithgarwch corfforol, meithrin hyder a chreu cysylltiadau cymdeithasol mewn lleoliad cymunedol diogel a chynhwysol.
Yn y cyfamser, bydd Shotton Steel RFC yn sicrhau bod pob chwaraewr ifanc o’r tîm dan 9 oed i’r tîm dan 15 oed yn derbyn pryd poeth ar ôl gemau cartref drwy gydol y tymor – i rai chwarewyr, mae’n bosibl mai dyma eu hunig bryd poeth y diwrnod hwnnw, a bydd yn hybu maeth a chynhwysiant.
Ymhlith y prosiectau llwyddiannus eraill mae corau cymunedol i bobl sy’n byw gyda dementia, gwelliannau cynhwysol i fannau cyhoeddus a mentrau sy’n rhoi cyfleoedd i drigolion hŷn.
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru:
“Mae’n braf gallu cynnig help llaw i grwpiau cymunedol ar adeg pan mae llai o gefnogaeth ariannol ar gael iddynt bob blwyddyn. Mae’r rowndiau diwethaf o grantiau wedi arwain at greu sawl cyfeillgarwch arbennig ac wedi cynnig cyfleoedd anhygoel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld hyn yn parhau gyda’r partneriaethau newydd.”
Dywedodd Joanna Buckley, Rheolwr Cymunedol Avanti West Coast:
“Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi gallu cyfrannu tuag at ariannu’r prosiectau hyn ar hyd ein llwybr yng Ngogledd Cymru.
“Mae’r rheilffyrdd yn hanfodol ar gyfer cysylltiadau a chynaliadwyedd – ac mae hyn yn cefnogi nod yr arian grant hwn yn uniongyrchol. Bydd yr effaith gadarnhaol ar y cymunedau lleol rydyn ni’n eu gwasanaethu yn werthfawr iawn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa ar y grant i wella llesiant yn eu hardaloedd.”
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd a darparu prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad gan gael effaith gadarnhaol ar gymunedau, lleihau unigedd cymdeithasol a gwella iechyd a llesiant. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo gyda’u ceisiadau.”
Dywedodd Phil Jones, Swyddog Ariannu CVSC:
“Mae CVSC yn falch o weinyddu’r gronfa hon. Mae ein hymrwymiad i ariannu grwpiau lleol yn adlewyrchu ein cred bod newid gwirioneddol yn dechrau yn y cymunedau eu hunain. Llongyfarchiadau i bob un o’r grwpiau.”
Mae’r Grant Gwydnwch Cymunedol yn rhan o ymrwymiad parhaus y Bartneriaeth i hybu lleisiau cymunedau lleol, annog dulliau teithio cynaliadwy a hygyrch, cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant a meithrin datblygiad cymdeithasol ac economaidd ledled y rhanbarth.


