Amdanom ni

Rheilffyrdd Cymunedol

Croeso i Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru.

Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad llawr gwlad sy’n tyfu ac mae’n cynnwys partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau ar draws Prydain. Trwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn helpu pobl i gael y budd gorau o’u rheilffyrdd, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lles cymunedol, datblygiad economaidd a theithio cynaliadwy. Maent hefyd yn cydweithio â gweithredwyr trenau i wella a rhoi bywyd newydd i orsafoedd.

Mae’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol / Community Rail Network yn cynnig cymorth a chyngor i aelodau’r mudiad rheilffyrdd cymunedol. Mae’n rhannu arfer da ac yn dod â phartneriaethau a grwpiau rheilffyrdd cymunedol ynghyd, gan weithio gyda’r llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd, a’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach i hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol. (Ffynhonnell Community Rail Network).

Mae ein cynllun gweithgareddau busnes yn cael ei gyflawni gan holl aelodau ein Partneriaeth, o dan arweiniad y Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol. Mae ein cynllun yn bodloni pedair prif elfen Strategaeth Ddatblygu’r Rheilffyrdd Cymunedol:

  • rhoi llais i’r gymuned
  • hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
  • dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
  • cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Bodorgan railway station

Y bartneriaeth

Rydym yn falch o fod yn Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol achrededig. Mae hyn yn golygu bod yr Adran dros Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn ffurfiol bod y Bartneriaeth yn gweithredu i safon uchel a bod y llywodraeth yn cefnogi ei hamcanion a’i gweithgareddau. Gweinyddir y system achredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol / Community Rail Network ac mae’n gymwys i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

Mae Mr Philip Evans, Cadeirydd, a Haf Jones, Is-gadeirydd y Bartneriaeth, yn eich croesawu i’r wefan hon sy’n tynnu sylw at ein gwaith i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd. Mae aelodau eraill ein Partneriaeth yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Avanti West Coast, Groundwork North Wales, Network Rail, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Snowdonia Hospitality & Leisure, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a Community Rail Network.

Adroddiad Blynyddol Diweddaraf
Groundworks logo

Groundwork Gogledd Cymru

Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Groundwork Gogledd Cymru.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn rhoi cymorth i bobl sy’n wynebu heriau niferus, sy’n byw mewn unigedd, sydd â phroblemau iechyd sylweddol, rhagolygon cyfyngedig o ran swyddi ac sy’n agored i niwed oherwydd ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol ein cymdeithas heddiw. Rydym yn gwneud hyn drwy greu gwell lleoedd, gwella rhagolygon pobl a thrwy annog dewisiadau mwy gwyrdd drwy ein dewis eang o brosiectau a gwasanaethau.

Creu effeithiau cadarnhaol gyda’n gilydd ar gyfer ein Pobl, ein LLeodedd a’r Blaned.

Darganfod mwy
Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction