Mae gwaith celf sy’n dathlu hanes y rheilffordd yn Shotton ar Arfordir Gogledd Cymru wedi cael ei ddadorchuddio yn yr orsaf reilffordd ar blatfform isaf yr arfordir.
Ariannwyd y prosiect gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, a daeth â phreswylwyr Llys Eleanor, ClwydAlyn, a disgyblion Ysgol Tŷ Ffynnon at ei gilydd. O dan arweiniad yr artist Sharon Wagstaff, nod y prosiect cydweithredol oedd creu cysylltiad rhwng y cenedlaethau drwy gelf a hanes lleol.

Fel rhan o Rheilffordd 200 – dathliad cenedlaethol yn nodi 200 mlynedd ers geni rheilffyrdd modern – roedd y fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc a phreswylwyr hŷn rannu straeon ac atgofion am y rheilffordd a’i rôl yn y gymuned.
Dros gyfnod o rai misoedd, bu’r disgyblion yn ymweld â Llys Eleanor am sesiynau wythnosol, a gwelwyd y sgyrsiau a’r cyfeillgarwch yn datblygu. O dan arweiniad arbenigol Sharon Wagstaff, cafodd y profiadau cyffredin hyn eu trawsnewid yn gyfres o weithiau celf i adlewyrchu safbwyntiau a chreadigrwydd y ddwy genhedlaeth.
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru: “Roedd hwn yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono. Fe wnaeth y preswylwyr hŷn rannu llawer o atgofion a straeon gyda’r plant ifanc ac roeddent wrth eu bodd yn gwrando ar yr hanesion difyr.
“Roedd yn braf iawn gweld y berthynas rhwng y cenedlaethau yn datblygu o wythnos i wythnos a’r ddwy genhedlaeth yn dysgu gwahanol sgiliau dros gyfnod o fisoedd. Maen nhw wedi creu darnau celf arbennig iawn, ac rydyn ni’n ffodus iawn ein bod yn gallu rhannu’r gweithiau hyn gyda chymuned Shotton yn yr orsaf reilffordd.”
Dywedodd Mrs Nia Goldsmith, Pennaeth Ysgol Tŷ Ffynnon: “Ers ein cyfarfod cyntaf gyda phreswylwyr Llys Eleanor rydyn ni wedi creu cysylltiad gwych rhwng y cenedlaethau. Dros amser, rwyf wedi gweld plant Ysgol Tŷ Ffynnon yn dod yn fwy hyderus, ac mae eu hunanhyder a’u lles wedi gwella wrth ryngweithio a chreu cysylltiadau â’r preswylwyr.
“Yn ogystal â hyn, mae cael cyfle i weithio a dysgu gan yr artist Sharon Wagstaff ar brosiect celf Rheilffordd 200 ochr yn ochr â’r preswylwyr wedi cryfhau’r cysylltiad hwn. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o brosiect mor wych sydd wedi arwain at ragor o gydweithio rhwng y cenedlaethau i gynhyrchu gweithiau celf a fydd yn cael eu harddangos yng Ngorsaf Reilffordd Shotton lle gall pawb eu gweld a’u hedmygu.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae gorsafoedd yn byrth pwysig i gymunedau ar hyd y Lein, ac mae’r prosiect celf hwn rhwng y cenedlaethau wedi bod yn gyfle arbennig i rannu atgofion difyr pobl am Shotton. Mae’r prosiect cydweithredol gwych wedi ychwanegu lliw i’r orsaf, ac wedi annog sgyrsiau a chreu cysylltiadau ymhlith y teithwyr”.

Mae Rheilffordd 200 yn nodi agor Rheilffordd Stockton a Darlington yn 1825, digwyddiad tyngedfennol a wnaeth drawsnewid teithio a diwydiant. Mae’r prosiect hwn yn un o blith nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod y flwyddyn i anrhydeddu’r waddol honno ac annog cymunedau i edrych tua’r dyfodol.