Lansio Grant Cydnerthedd Cymunedol 

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru wedi lansio Grant Cydnerthedd Cymunedol er mwyn galluogi sefydliadau cymunedol ar hyd y lein i wella cydnerthedd a chynaliadwyedd eu prosiectau presennol neu fentrau newydd. 

Mae’r cynllun yn cynnig grantiau hyd at £1,000 i sefydliadau cymunedol, elusennau, a chwmnïau buddiant cymunedol (CICs) sydd o fewn 5 milltir (8km) i orsaf ar hyd y lein yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Mae cyfanswm o £20,000 ar gael a’r nod yw cefnogi prosiectau sy’n targedu unigedd cymdeithasol, yn helpu i newid ymddygiad gan greu cysylltiad â gweithgareddau iach a lllesiant, ac sy’n annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus lle bo’n bosibl. 

Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr ar gyfer rownd nesaf y grant hwn ac i weld pwy fydd yn derbyn cymorth gan y Bartneriaeth eleni. Rydyn ni wedi creu sawl perthynas gadarn yn ystod ein rownd diwethaf o geisiadau, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn creu rhagor o gyfleoedd newydd eleni.”

Dywedodd Joanna Buckley, Rheolwr Cymunedol Avanti West Coast: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi cyfrannu at y cynllun hwn, gan fod cefnogi achosion sydd o bwys i’r bobl a’r lleoedd rydyn ni’n eu gwasanaethu yn bwysig i ni. 

“Rydyn ni’n dathlu 200 mlwyddiant rheilffyrdd yn y DU eleni, felly mae’r grant yn gyfle gwych i’r gymuned ymwneud â rhwydwaith y rheilffyrdd yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal â dangos sut gall cysylltu pobl â grwpiau a gweithgareddau lleol wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w llesiant.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd i gyflawni prosiect sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn nodi 200 mlynedd o’r rheilffordd fodern.”

Gellir defnyddio’r grant i gefnogi prosiectau llawr gwlad yn ogystal â chostau cynnal, gan gynnwys staff, rhent, cynnal, neu gyfleustodau, os na ellir talu am y rhain drwy ddulliau eraill ac os byddant yn helpu’r sefydliad i fod yn weithgar ac yn gynaliadwy. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddangos sut bydd y grant yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned, yn lleihau unigedd cymdeithasol ac yn gwella iechyd a llesiant.

Rhaid i grwpiau cymwys fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Bod o fewn 5 milltir i orsaf reilffordd ar y lein rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a’r lein rhwng Caergybi a Shotton (neu ddangos budd i gymuned sydd ar y lein)
  • Bod â chyfrif banc gyda dau lofnodydd nad ydynt yn perthyn i’w gilydd
  • Yn gallu dangos tystiolaeth bod angen am brosiect o’r fath a bod â record dda am ddarparu prosiectau

Mae’r cynllun hwn yn bosibl diolch i arian gan Avanti West Coast ac arian cyfatebol gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru. Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CVSC), a bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o fwrdd y bartneriaeth rheilffordd, cynrychiolwyr y sector gwirfoddol, ac aelodau o Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast.

Dywedodd Phil Jones, Swyddog Cyllido CVSC: “Mae’n anrhydedd bod yn gyfrifol am weinyddu’r gronfa hon, rydyn ni ymrwymo’n llawn i gynnal y safonau uchaf o ran tryloywder. Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gronfa yn dal i gael effaith barhaus ar ei rhanddeiliaid ac yn cefnogi twf cynaliadwy yn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Awst 2025. Sywer, mae CVSC yn cadw’r hawl i roi’r gorau i dderbyn ceisiadau cyn y dyddiad cau os bydd y galw yn fwy na’r grant sydd ar gael, felly rydym yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau yn fuan. Rhaid cwblhau’r prosiectau llwyddiannus erbyn 31 Mawrth 2026, a chyflwyno adroddiadau terfynol erbyn 30 Ebrill 2026. Anfonwch bob cais wedi’i gwblhau drwy e-bost i grants@cvsc.org.uk

Gall sefydliadau sydd â diddordeb gael cymorth gan eu Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Os oes gennych gwestiynau am y grant ei hun, mae croeso i chi gysylltu â karen@conwyvalleynorthwalescoast.com neu philipjones@cvsc.org.uk.