Sesiynau e-feicio am ddim yn ardal Cyffordd Llandudno!

Ar y cyd â Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mae Tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy yn cynnal cyfres o sesiynau e-feicio AM DDIM yn ardal Cyffordd Llandudno. Ariennir y prosiect cyffrous hwn gan Avanti West Coast.

Mae beiciau trydan, neu e-feiciau, wedi dod yn hynod o boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny am reswm da. Maen nhw’n cynnig cyfuniad unigryw o ymarfer corff ardrawiad isel ac effeithlon, gan olygu eu bod yn ddewis delfrydol ar gyfer teithio am resymau hamdden neu waith. Nod y prosiect yw sicrhau y gall pawb elwa ar y manteision hyn, gan hybu ffordd o fyw iach a lleihau ein hôl-troed carbon.

Mae’r sesiynau e-feicio am ddim yn ardal Cyffordd Llandudno ar gael i bawb yn y gymuned. Ni waeth a ydych chi’n feiciwr profiadol neu’n ddechreuwr, mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer gwahanol lefelau o sgiliau. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw galw heibio’r lleoliadau dynodedig yn ystod yr amseroedd sydd wedi’u nodi, a bydd tîm cyfeillgar Ffit Conwy ar gael i gynnig arweiniad, cyngor ar ddiogelwch, ac wrth gwrs, e-feiciau.

Gwybodaeth Allweddol:

  • Bydd pob sesiwn yn cynnwys taith dywys o dan arweiniad hyfforddwyr cymwysedig a phrofiadol.
  • Mae’r sesiynau ar gael i bobl o bob lefel ffitrwydd.
  • Rhaid i unigolion fod yn 14 oed a throsodd.
  • Darperir helmedau a rhaid eu gwisgo.
  • Mae’r sesiynau yn 2 awr o hyd.
  • Rhaid archebu ymlaen llaw gan y bydd angen cynnal asesiad o anghenion ymlaen llaw. Ni fydd yn bosibl i chi gymryd rhan os nad ydych wedi archebu.
  • Gallwch archebu faint bynnag o sesiynau ag y dymunwch.

Y Teithiau:

  • Bydd yr holl sesiynau yn dechrau ym Modlondeb (ger y cae criced)
  • Byddwch yn cael eich asesu yn ôl eich gallu ac a fyddech yn fwy addas ar gyfer y sesiynau Dechreuwyr neu Canolradd pan fyddwch yn archebu eich lle.
  • Sesiynau Dechreuwyr – taith 11 milltir o hyd o Fodlondeb i Benmaenmawr ac yn ôl ar hyd y llwybr beicio.
  • Sesiynau Canolradd – taith 12 milltir o hyd o Fodlondeb i gyfeiriad Ro-wen a Henryd ac yn ôl ar hyd ffyrdd gwledig.

*Gall llwybrau’r teithiau amrywio rhywfaint bob wythnos.

**Efallai y bydd sesiynau yn cael eu canslo os bydd rhybuddion tywydd.

Amserlen y Sesiynau E-feicio:

Dydd Llun PM Dydd Iau AM Dydd Iau PM
1pm – 3pm (Dechreuwyr) 10am – 12pm (Canolradd) 1pm – 3pm (Dechreuwyr)
5 Chwefror 8 Chwefror 8 Chwefror
12 Chwefror 15 Chwefror 15 Chwefror
19 Chwefror 22 Chwefror
26 Chwefror 29 Chwefror 29 Chwefror
4 Mawrth 7 Mawrth
11 Mawrth 14 Mawrth 14 Mawrth
18 Mawrth 21 Mawrth

Gwybodaeth Archebu:

Rhaid archebu ymlaen llaw.

Cysylltwch â Tim Ballam, Swyddog Hamdden Gwledig Datblygu Hamdden Ffit Conwy:

E-bost: tim.ballam@conwy.gov.uk

Ffôn: 01492 575556

Ffôn symudol: 07717 543698

Canolfan Alwadau: 0300 4569525