Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i’r teulu cyfan eu mwynhau

Mae’n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae’r gaeaf a’r Nadolig ar y ffordd!

Mae’n bosibl nad ydych wedi dechrau eich siopa Nadolig eto, ond dyma’r amser perffaith i groesawu ysbryd yr ŵyl a chynllunio diwrnod braf allan. Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, does dim rhaid i chi ddioddef teithiau hir yn y car i ganol dinasoedd prysur i fwynhau hud y Nadolig. Mae dewis gwych o ffeiriau a marchnadoedd Nadolig yma yng Ngogledd Cymru!

Dewch i chwilio am anrhegion unigryw i’ch anwyliaid, darganfod addurniadau hardd ar gyfer eich cartref, neu brynu bwyd a diodydd tymhorol. Mae marchnadoedd Nadolig yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, a dyma grynodeb o’r goreuon ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Pan fyddwch yn cynllunio eich diwrnod allan ar y trên, cofiwch edrych ar wefan Traveline Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi adael.

Strafagansa Nadolig Llandudno, Llandudno – 16-19 Tachwedd

Eich gorsaf agosaf: Llandudno

Dewch i ymweld â thref glan-môr adnabyddus Gogledd Cymru i fwynhau’r Strafagansa Nadolig blynyddol, digwyddiad pwysig yng nghalendr y dref. Bydd cyfle i fwynhau adloniant traddodiadol yr ŵyl, canu carolau ac ymweld â groto Siôn Corn, tra’n crwydro o amgylch yr holl stondinau bwyd, celf a chrefft. Mae’r dewis o stondinau cystal â nifer o’r marchnadoedd mwyaf dros y ffin – gallwch brynu popeth o ddanteithion blasus i anrhegion a nwyddau cartref unigryw – ac mae’n ddiwrnod allan gwych i’r teulu hefyd gan fod mynediad am ddim.

Bydd Siôn a Siân Corn yma i sgwrsio â’r plant fel arfer, ond cofiwch drefnu apwyntiad ymlaen llaw! Ac os bydd y tywydd yn amharu ar yr hwyl, beth am logi iglŵ? Ie, dyna chi, iglŵ!

I weld rhestr lawn o’r gwerthwyr, trefnu ymweliad â Siôn Corn neu logi iglŵ, a chael amserlen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau, cliciwch yma.

Ffair Nadolig Hosbis Dewi Sant – 25 Tachwedd

Eich gorsaf agosaf: Llandudno

Cynhelir y ffair eleni yn Arena Venue Cymru ac mae’n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed. Gyda dros 75 o stondinwyr lleol yn arddangos bwyd, diodydd, anrhegion, a nwyddau cartref gwych, ynghyd â gemau a stondinau gan yr hosbis, dyma’r cyfle delfrydol i wneud eich siopa Nadolig.

Ar ôl gwario, gallwch ymlacio a mwynhau perfformiadau byw gan fandiau, corau a chantorion lleol.

Bydd cyfle i weld Siôn Corn yn ei groto, ynghyd â gwesteion arbennig, drwy gydol y diwrnod. Bydd y groto ar agor rhwng 12pm a 3pm a chodir tâl o £2 y plentyn. Bydd plant yn derbyn anrheg fach ac yn cael cyfle i dynnu llun a sgwrsio â’r dyn ei hun.

Os hoffech chi gefnogi’r elusen wych hon dros gyfnod y Nadolig, mae rhagor o wybodaeth yma.

Nadolig Traddodiadol yng Nghastell Penrhyn, Bangor – 25 Tachwedd – 1 Ionawr

Eich gorsaf agosaf: Bangor

Eleni bydd Castell Penrhyn, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dathlu’r Nadolig drwy gynnig gweithgareddau a gemau sy’n dod â theuluoedd at ei gilydd dros dymor y gwyliau. Boed hynny’n chwarae gemau bwrdd neu bobi danteithion tymhorol, mae’r castell yn eich gwahodd i rannu’r amser arbennig hwn gyda’ch gilydd.

Mae’r ceginau Fictoraidd ysblennydd yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig, ac mae ardaloedd cyhoeddus y castell yn cael eu haddurno â choed ac addurniadau hardd. Ar ôl crwydro’r plasty, beth am fynd am dro yn y gerddi lle gallwch fwynhau gogoniant byd natur ar y llwybr i’r cuddfan adar ger afon Ogwen, a rhyfeddu at y golygfeydd gaeafol gwych.

A chofiwch, rhan bwysig o bob ymweliad tymhorol â Phenrhyn yw cael tynnu eich llun fel grŵp o flaen y goeden Nadolig enfawr sy’n cael y lle blaenaf yn y Neuadd Fawr!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Castell Penrhyn ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Nadolig ym Mhlas Newydd, Ynys Môn – 2 Rhagfyr – 1 Ionawr

Eich gorsaf agosaf: Llanfair Pwllgwyngyll

Dewch i ymgolli yn ysbryd yr ŵyl ym Mhlas Newydd y Nadolig hwn. Bydd y goleuadau llachar a’r neuaddau addurnedig yn estyn croeso cynnes i Blas Newydd dros gyfnod y Nadolig, gyda digonedd o hwyl yr ŵyl.

Mae’r ystafelloedd moethus yn lle gwych i gynnal disgo tawel! Dilynwch yn ôl-troed y 5ed Ardalydd, a wnaeth gynnal sawl parti crand yma! Gwisgwch eich esgidiau dawnsio a dewch i ddangos eich doniau yn yr Ystafell Gerdd!

Yng Nghaffi’r Hen Laethdy, gallwch gynhesu gyda diod boeth neu fwynhau cinio 3-chwrs tymhorol (rhaid archebu ymlaen llaw). Neu, beth am fynd am dro gaeafol yn yr ardd a mwynhau’r 150 acer o erddi, coetiroedd a pharcdir.

I gael rhagor o wybodaeth am Blas Newydd dros gyfnod y Nadolig, cliciwch yma.

Marchnad Nadolig Crefftwyr Bae Colwyn, Bae Colwyn – 9 Rhagfyr

Eich gorsaf agosaf: Bae Colwyn

Dewch i ymweld â Marchnad Nadolig Crefftwyr Bae Colwyn, y dechrau perffaith i’ch siopa Nadolig. Mae’r farchnad flynyddol hon yn denu amrywiaeth eang o stondinau sy’n gwerthu popeth o ddanteithion deli cyfandirol a chwrw crefft, i grefftau a gemwaith hardd – lle gwych i ddod o hyd i anrhegion unigryw i’ch ffrindiau a’r teulu.

Bydd cyfle i fwynhau diod o’r bar pop-up wrth i chi grwydro o amgylch y stondinau traddodiadol sy’n gwerthu eitemau celf a chrefft, anrhegion wedi’u gwneud â llaw, a danteithion blasus. Yn ogystal â hyn, bydd y gerddoriaeth fyw a’r adloniant stryd tymhorol yn apelio at bobl o bob oed. Cofiwch gadw llygad am Siôn Corn, bydd yn hapus iawn i gael tynnu ei lun a sgwrsio â’r plant.

Gŵyl y Gaeaf Conwy, Conwy – 9 Rhagfyr

Eich gorsaf agosaf: Conwy

Dewch i ymgolli yn yr awyrgylch canoloesol a dathlu naws y Nadolig saith can mlynedd yn ôl. Mae Gŵyl y Gaeaf Conwy yn cynnig perfformiadau stryd hanesyddol, gwerthwyr cnau castan, cerddorion, Morys-ddawnswyr a marchogion, a bydd y siopau ar agor yn hwyr. Uchafbwynt y noson wych fydd gorymdaith fawr wrth olau ffaglau drwy’r dref – profiad gwirioneddol hudolus!

Bydd Siôn Corn yn ymweld â Thŵr y Digrifwas (Jester’s Tower) yn ystod Gŵyl y Gaeaf (yn ogystal â sawl dyddiad arall dros gyfnod y Nadolig) ond rhaid archebu ymlaen llaw gan ei fod yn ddyn poblogaidd iawn! Gallwch archebu yma.

I gael rhagor o fanylion am Ŵyl y Gaeaf, gan gynnwys amser dechrau’r orymdaith fawr cliciwch yma.

Marchnad ‘Cracer Nadolig’ Bangor – 10 Rhagfyr

Eich gorsaf agosaf: Bangor

Dyma gyfle i weld dinas Bangor mewn golau newydd a mwynhau’r Farchnad Crefftwyr Nadolig arbennig a fydd yn gweddnewid y ddinas yn wlad hud aeafol. Mae cymaint o bethau i’w mwynhau yma: sglefrio ar y rhew, mynd ar daith ar drên Siôn Corn, ymweld â Siôn Corn a chyfarfod y ceirw, a mwynhau reid yn y ffair Nadolig.

Ac os nad yw hynny’n ddigon, bydd carolau Nadolig, bwyd a diodydd tymhorol ac arddangosfa tân gwyllt yn creu awyrgylch Nadoligaidd wrth i chi grwydro o amgylch y stondinau a mwynhau diod o’r bar gwyliau.

Mae rhywbeth i bawb y Nadolig hwn

Ni waeth a ydych chi’n bwriadu ymweld â Siôn Corn i gael sgwrs bwysig cyn y diwrnod mawr, neu’n chwilio am anrhegion Nadolig munud olaf, mae rhywbeth i bawb, yr hen a’r ifanc, ei fwynhau ar hyd arfordir Gogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Gyda phentrefi tlws yn cynnig siopau bach unigryw a bwytai, trefi sy’n gartref i’r siopau mawr, a chanolfannau garddio sy’n llawn goleuadau ac addurniadau lliwgar, dyma gyrchfan gwych ar gyfer taith dymhorol y gaeaf hwn. Felly, beth amdani? Lapiwch yn gynnes a dewch ar daith ar Reilffordd Arfordir Gogledd-orllewin Cymru a Dyffryn Conwy i fwynhau Nadolig llawen iawn!