Tafarndai Clyd – Tafarnau cysurus lle gallwch lochesu o flaen y tân ynddynt yr hydref hwn

Wrth i’r dyddiau byrhau a’r nosweithiau dechrau oeri, does dim byd gwell na chysuro’ch hun mewn tafarn cynnes gyda thân agored wedi diwrnod prysur o deithio. Lapiwch eich cotiau mawr amdanoch a dewch i drafeilio gogledd Cymru yn ei holl ogoniant hydrefol, cyn cynhesu’ch calonnau gyda pheint blasus neu bryd o fwyd swmpus yn un o’r tafarndai croesawgar hyn.

King’s Head – gorsaf drenau Llandudno

Y tafarndy hynaf yn Llandudno, mae’r King’s Head yn ymfalchïo yn ei groeso cynnes a hirhoedlog. Mae tanllwyth o dân yn y prif far yn ychwanegu at yr awyrgylch a hyd yn oed wedi sbarduno ambell i rownd o ganu ar nosweithiau oer! Wedi ei leoli wrth droed y Gogarth, ger gorsaf y dramffordd, mae’n lle perffaith i ymlacio wedi treulio diwrnod prysur ym ‘mrenhines cyrchfannau glan môr Cymru’. P’un a ydych wedi bod yn gwneud eich siopa ’dolig ar Stryd Mostyn neu’n crwydro o amgylch y Gogarth drwy’r dydd – mae’r King’s Head yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan gynnwys cŵn!

Tal y Cafn – gorsaf drenau Tal y Cafn

Yn union wrth ymyl yr orsaf drenau, mae tŷ tafarn wedi sefyll wrth y groesfan afon bwysig hon ers dros ddwy ganrif, er mae bydoedd o wahaniaeth rhwng y bwyty deniadol sydd yma heddiw a cherbytai’r gorffennol. Yng nghalon y dafarn mae clamp o dân ar aelwyd ddwyochrog; canolbwynt gwresog sy’n cadw pawb yn gynnes a chlyd ym mhob rhan o’r dafarn. Gyda bwyd o’r radd flaenaf a dewis rhagorol o gwrw a gwirodydd, gyda phwyslais ar fragdai lleol a distyllfeydd arbenigol, mae’r tŷ tafarn hwn wastad yn gwneud argraff dda.

Cofiwch ddangos eich tocyn trên i fwynhau gostyngiad o 10% ar eich pryd bwyd!

Y Gwydyr – gorsaf drenau Dolwyddelan

Ym mhentref atyniadol Dolwyddelan, mae’r Gwydyr yn glasur o dafarn gwledig yng nghalon Dyffryn Lledr. Adeg yr hydref mae melynu dail coed yr ardal yn cynnig gwledd o liw heb ei ail – bydd golygfa wych i’w gweld o’r trên yn sicr! Dewch â’ch ci i swatio dan gysgod y tân, llymeitian gyda thrigolion yr ardal, a mwynhau pryd o fwyd blasus. Yn ein barn ni, Y Gwydyr yw’r lle delfrydol i ymlacio a chynhesu’ch traed ar ôl crwydro yn harddwch yr hydref yn Nyffryn Lledr.

Gwesty’r Bull – gorsaf drenau Llanfairpwll

Adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol tref farchnad brysur Llangefni yw Gwesty’r Bull, ac fe ddaeth o dan berchnogaeth newydd ym mis Ebrill eleni. Gyda thân coed cysurus yn y bar ac yn y lolfa, mae croeso cynnes ar gael i bawb ym mhob cornel o’r dafarn. Ac i lenwi’ch boliau mae’r dafarn yn cynnig amrywiaeth wych o gwrw lleol a bwyd tafarn traddodiadol. Mae’r perl hanesyddol o dafarn gyda llawer o’i nodweddion gwreiddiol o hyd, gan gynnwys ei ffasâd carreg ysblennydd, cerbyty a blociau stablau. Wrth fwynhau diod yma, rydych bron yn teimlo eich bod wedi camu i mewn i nofel o’r ddeunawfed ganrif! I’w gyrraedd cymerwch daith bws fer o Lanfairpwll; mae’r safle bysiau i’w ganfod ar Ffordd Caergybi tu allan i’r orsaf reilffordd.

The Oyster Catcher – gorsaf drenau Rhosneigr

Ger arfordir hyfryd Rhosneigr, mae tafarn yr Oyster Catcher yn hynod boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn enwog am ei leoliad hardd yn y twyni tywod ar lan y môr, mae’r lle tân mawr yn y bar yn olygfa galonogol i’r holl ymwelwyr sydd wedi bod allan yn crwydro’r traethau gwyntog. Mae’r fwydlen yn llawn prydau tymhorol temtlyd sy’n ymdrechu i ddefnyddio cynhwysion lleol lle bo modd. Rhaid sôn hefyd fod yr Oyster Catcher yn rhoi croeso mawr i gŵn – mor fawr a dweud y gwir, mae gan y cŵn eu bwydlen eu hunain!

The Victoria Inn – gorsaf drenau Caergybi

Mae’r Victoria Inn yn dafarn traddodiadol yng Nghaergybi gyda golygfeydd godidog o Fynydd Twr. Wedi ei leoli ar lan y môr ym Môn, mae ynddo lle tân hyfryd sy’n ychwanegu at yr awyrgylch cysurus, ac yn ei wneud yn lle delfrydol i ymlacio wedi anturio o amgylch yr ynys. Gyda digonedd o ddewis o gwrw da ar y bar ac amrywiaeth arbennig o jin, rydych yn sicr o ddod o hyd i’r ddiod berffaith yma. Ac os oes eisiau bwyd arnoch chi, mae bwydlen y Victoria yn llawn clasuron bwyd tafarn.

P’un a ydych yn teithio ar lein Dyffryn Conwy neu Arfordir Gogledd Cymru, mae digonedd o dafarndai hyfryd  ar draws yr ardal i’ch croesawu’r hydref hwn. Dim ond detholiad byr o’n ffefrynnau ni yw hwn, ac mae’n siŵr y bydd gennych chi rai eich hun hefyd – byddem wrth ein boddau’n clywed amdanynt, lleoedd tân ai peidio!

Rhag ofn eich bod angen eich darbwyllo ymhellach, ac er bod gogledd Cymru yn lle braf drwy gydol y flwyddyn, mae tymor yr hydref yn eithriadol o dda. O liwiau hydrefol hyfryd Dyffryn Lledr i dlysni traethau Ynys Môn, mae digonedd i’w mwynhau – ac mae’n llawer iawn tawelach yn ystod yr hydref a gaeaf. Beth am ddod i weld drosoch eich hun? Cynlluniwch eich taith nesaf yma gyda Traveline Cymru.