Tocyn 1Bws ar gyfer Gogledd Cymru gyfan wedi’i ymestyn

Mae’r tocyn 1Bws ar gyfer gwasanaethau bysiau ar draws Gogledd Cymru bellach yn cynnig tocyn wythnosol un pris yn ogystal â thocyn dyddiol.

Mae’r tocyn 1Bws yn brosiect ar y cyd rhwng y chwe awdurdod lleol a 27 o weithredwyr bysiau lleol, ac mae’n cynnig cyfle i gwsmeriaid dalu un pris a theithio ar bron i 200 o lwybrau ar draws Gogledd Cymru, gan ddefnyddio technoleg tapio ymlaen / tapio i ffwrdd neu brynu tocyn ar y bws.

Y mis hwn, i ddathlu ‘mis dal y bws’, mae TrC a’i bartneriaid wedi ymestyn y cynnig fel y gall cwsmeriaid nawr dalu un pris a theithio am wythnos.

Cost tocyn wythnosol 1Bws yw £28 i oedolion ac £19 i blant a deiliaid tocynnau rhatach.  Cost tocyn oedolyn dyddiol yw £6.50, tocyn plentyn (neu berson ifanc gyda Fy Mhas Teithio) yw £4.50 ac mae deiliaid tocynnau bws rhatach yn Lloegr a’r Alban hefyd yn talu £4.50.  Mae tocyn teulu dyddiol ar gael am £14.20 yn unig.

Mae tocynnau dyddiol neu wythnosol 1Bws yn galluogi cwsmeriaid i deithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gan ddefnyddio nifer o weithredwyr bysiau.     

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr TrC Canolbarth, Gogledd a Chefn Gwlad Cymru:

“Yn TrC rydym yn gweithio’n galed i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a hoffem annog pobl i adael eu ceir a dewis defnyddio math o deithio sy’n fwy cynaliadwy.

“Mae prosiect 1Bws yn gydweithrediad rhwng TrC, gweithredwyr bysiau lleol ac awdurdodau lleol ac mae’n rhoi cyfle i gwsmeriaid dalu un pris a defnyddio cymaint o fysiau ag sydd eu hangen arnynt i deithio ledled Gogledd Cymru.  Rydym yn gyffrous ynghylch y ffaith ein bod bellach yn cynnig opsiwn tocynnau wythnosol yn ogystal â dyddiol, sy’n darparu gwerth am arian ac yn opsiwn arall rhagorol rhag gorfod defnyddio’r car preifat.”

Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint.  Hefyd, nid yw’n ddilys ar wasanaethau twristiaeth a weithredir gan fysiau to agored, gwasanaethau bysiau National Express na  gwasanaethau parcio a theithio.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i   Defnyddiwch y tocyn 1Bws yng Ngogledd Cymru – Trafnidiaeth Cymru (traws.cymru)