Eich cyffroi a difyrru yn nyfroedd gogledd Cymru

Heb amheuaeth, gwlad y dŵr yw Cymru. Gyda’i holl lynnoedd, afonydd, rhaeadrau a milltiroedd o arfordir, mae ein tirwedd drawiadol wedi’i ffurfio gan y dyfrffyrdd a’r llanwau. Wrth grwydro’r ardal ar drên, mi gewch gyfle i brofi grym dŵr ar deithiau ar Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Gogledd Orllewin Cymru. Mae un lein yn dilyn afon fyd enwog yng nghalon Eryri, ac mae’r llall yn dilyn Môr Iwerddon ac yn diweddu yn un o borthladdoedd morol prysuraf y DU. Neidiwch ar y trên ac mi fydd dŵr i’w weld ble bynnag yr edrychwch. 

A ble bynnag y bydd dŵr, mi fydd chwaraeon dŵr – ac mae digonedd ohonynt yma yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi’n cynllunio ymweliad ac yn barod i wlychu eich traed, mi fyddwch yn falch o glywed bod modd cyrraedd lleoliad rhai o chwaraeon dŵr mwyaf cyffrous Gogledd Cymru ar drên. Felly, i ffwrdd â ni a gadewch inni edrych ar rai o’n hoff chwaraeon dŵr sydd o fewn cyrraedd gorsafoedd trên ar hyd Rheilffordd Gogledd Orllewin Cymru a Rheilffordd Dyffryn Conwy.

Noder: Mae’r wybodaeth a roddir isod yn nodi’r orsaf fwyaf cyfleus ar gyfer pob atyniad a’r ffordd orau i gyrraedd yr atyniad o’r orsaf. Fodd bynnag, mi all amseroedd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus amrywio, felly rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio Traveline Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Syrffio mewndirol yn Adventure Parc Snowdonia, Dolgarrog

Gorsaf agosaf: Llandudno, Rheilffordd Dyffryn Conwy. Neidiwch ar fws rhif 19, sy’n teithio’n rheolaidd o’r orsaf i’r Parc Antur yn Nolgarrog.

© Hawlfraint y Goron

Yn ddi-os, mae Adventure Parc Snowdonia – ynghyd â ZipWorld – wedi sicrhau lle i Ogledd Cymru fel prif gyrchfan Antur y DU. Mae’r atyniad hwn sy’n addas i’r teulu cyfan yn denu syrffwyr profiadol a newydd o bob rhan o’r byd i’w ardd donnau arloesol – lagŵn syrffio mewndirol anferth. Gall syrffwyr profiadol brofi eu sgiliau yn erbyn tonnau sy’n amrywio mewn maint, ac mi all dechreuwyr fwynhau sesiynau blasu gyda hyfforddwyr cymwysedig. Mae Adventure Parc Snowdonia hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau antur dan do ac awyr agored, sy’n ei wneud yn gyrchfan bob tywydd, gydol i flwyddyn i’r sawl sy’n awchu am gyffro. 

Am ragor o wybodaeth am wersi syrffio Adventure Parc Snowdonia a gweithgareddau eraill, cliciwch yma.

Cychod modur gyda RibRide, Porthaethwy

Gorsaf agosaf: Bangor, Rheilffordd Gogledd Orllewin Cymru. Cymerwch fws X4, 62 neu 63 ar gyfer y siwrnai fer i’r ganolfan cychod modur – gall y gwasanaeth amrywio ar benwythnosau.

© Hawlfraint y Goron

Mae RibRide yn cynnig teithiau cwch cyffrous ar y Fenai a thu hwnt. Os ydych chi am fordaith hamddenol i fwynhau’r golygfeydd neu antur yn gwibio drwy’r dŵr, mi allant gynnig y profiad perffaith i chi. Neidiwch ar Gwch Rigid Inflatable (RIB) i archwilio ynysoedd a baeau arfordir Môn. Gyda chyflymderau sy’n cyrraedd 45 mya, byddwch yn barod am fordaith gyffrous, ychydig yn anghyfforddus, efallai, ac yn sicr yn wlyb! Gyda theithiau sy’n amrywio o 40 munud i sawl awr, mi fyddwch yn mynd heibio rhai o fannau mwyaf adnabyddus yr ardal ar eich taith. Byddwch yn barod â’ch camera i dynnu lluniau o Gastell Caernarfon, Ynys Seiriol, Biwmares a phont grog enwog Thomas Telford (bydd y mannau a welwch yn dibynnu ar y fordaith a ddewisir).

Am ragor o wybodaeth am deithiau RibRide, cliciwch yma.

Rhowch gynnig ar geufadu gyda Sea Kayaking Wales, Bodorgan

Gorsaf agosaf: Bodorgan, Rheilffordd Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r ganolfan ceufadau daith gerdded fer yn unig o’r orsaf.

© Hawlfraint y Goron

Mae Ynys Môn, sy’n nodedig am ei harddwch naturiol, yn cynnig gwedd gwbl unigryw o’i gweld o’r dŵr. Ac nid oes ffordd well o brofi golygfeydd arbennig Môn nag o geufad. Mae Sea Kayaking Wales, sydd wedi’u lleoli’n gyfleus ger gorsaf Bodorgan, yn cynnig y cyfle perffaith i archwilio rhyfeddodau arfordirol yr ynys.

Yng nghwmni hyfforddwr Sea Kayaking Wales, byddwch yn mentro allan i’r dŵr agored ac yn mordwyo eich ffordd drwy gildraethau a baeau bach cysgodol – llefydd na all neb ar droed eu cyrraedd! Wrth badlo cadwch olwg am y bywyd gwyllt lleol sy’n cartrefu yn y baradwys arfordirol hon – mae arfordiroedd Môn a Gogledd Cymru’n gartref i fathau unigryw o fywyd gwyllt, gan gynnwys dolffiniaid, adar môr prin, a morloi.

Felly os ydych chi’n clywed galwad y môr, cysylltwch â Sea Kayaking Wales i drefnu eich taith.

Syrffio’r tonnau gyda Funsport, Rhosneigr

Gorsaf agosaf: Rhosneigr, Rheilffordd Gogledd Orllewin Cymru. Mae canol y pentref yn daith gerdded ugain munud braf o’r orsaf. Neu, gallwch ddal y bws (gwasanaeth 45 neu 25) o’r safle bws y tu allan i’r orsaf – gall gwasanaethau amrywio ar benwythnosau.

Woman carrying surfboard on beach Surfing Rhosneigr Anglesey North Activities And Sports
© Hawlfraint y Goron

Efallai nad yw Môn mor adnabyddus â Dyfnaint a Chernyw fel cyrchfan i syrffwyr, ond mae rhai amodau da ar gael i’r sawl sy’n gwybod ble i chwilio. Gyda dewis o draethau tywodlyd, gwastad braf – Traeth Llydan a Thraeth Crigyll – mae Rhosneigr yn cael ei gydnabod fel prif gyrchfan syrffwyr Môn. Mae’r ganolfan glan môr fywiog hon yn lle perffaith i ddal y tonnau, yn enwedig i ddechreuwyr sydd am ‘brofi’r dŵr’. Mae holl arfordir Môn yn gyrchfan chwaraeon dŵr, a Funsport yn Rhosneigr yw’r lle i fynd ar gyfer offer padlfyrddio, barcudfyrddio, syrffio a thonfyrddio. Mae Funsport hefyd yn cynnig hyfforddiant gan arbenigwyr, sy’n golygu bod Rhosneigr yn gyrchfan i brofi rhai o donnau gorau’r DU yn ddiogel. 

I archebu sesiwn gyda Funsport, cliciwch yma.

Arforgampau gydag Active Cymru, Trearddur

Gorsaf agosaf: Y Fali, Rheilffordd Gogledd Orllewin Cymru. Gellir cyrraedd Trearddur mewn 10 munud â bws o’r orsaf – daliwch fws 4 neu 4R – gall y gwasanaeth amrywio ar benwythnosau. Mae’r man ymgynnull ar gyfer arforgampau daith gerdded fer yn unig o’r safle bws wrth y Trearddur Bay Hotel.

Coasteering in Wales Person jumping off a rock into the sea
© Hawlfraint y Goron

Beth yw arforgampau? Wel, dychmygwch hyn: neidio oddi ar greigiau, sgramblo, a cherdded drwy ddŵr i archwilio ogofâu, môr-greigio a rhoi eich traed ar draethau lle nad oes llawer o bobl yn eu cyrraedd. Dyna yw arforgampau.

Gyda hyfforddiant gan hyfforddwyr profiadol Active Cymru, mi allwch fwynhau’r gweithgarwch hwn sy’n garedig wrth yr amgylchedd yn ddiogel, a gweld golygfeydd arfordirol trawiadol nad oes fawr neb arall yn eu gweld. 

Ewch draw i wefan Active Cymru i ddysgu mwy am arforgampau ac i drefnu eich antur arfordirol.

Cadw’n ddiogel ar y dŵr

Pa bynnag fath o chwaraeon dŵr y byddwch yn eu dewis, mi gewch bob gofal gan hyfforddwr cymwysedig, ond mae’n werth cyfarwyddo’ch hun ymlaen llaw â’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddiogel ar y dŵr. Mae’r tywydd, y llanw a llethr y traeth yn rai o’r ffactorau a all ddylanwadu ar eich diogelwch yn y dŵr ar unrhyw ddiwrnod. Mi all yr holl bethau hyn newid mewn eiliad felly er ei bod yn ddiwrnod llonydd a heulog pan fyddwch yn cychwyn, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yn dal felly mewn awr. Mae’r wefan Adventure Smart UK yn adnodd rhagorol i gadw’n ddiogel yn yr Awyr Iach ac mae’n cynnwys adrannau defnyddiol iawn ar chwaraeon dŵr. Mae’n werth cael golwg arni yma

A ydym wedi llwyddo i godi awydd arnoch i gael hwyl yn y dŵr yr haf yma?  Gyda’r holl chwaraeon dŵr hyn a mwy o fewn cyrraedd ar drên, mi allwch fod yn syrffio yn Nolgarrog ar ddydd Llun ac yn gwneud arforgampau ym Môn ar ddydd Mawrth – mae mor hawdd a chyfleus â hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus!