Anturiaethau alfresco – cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn

Gyda’r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau’n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o’n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i’n cymdogion ar y cyfandir, sy’n bwyta ac yn yfed yn yr awyr agored gydol y flwyddyn bron, bydd tywydd anwadal ein hynys yn aml yn penderfynu a ydym yn mwynhau diodydd yn yr ardd ynteu swper ar hambwrdd o flaen y teledu!

Os ydych chi’n bwriadu dod i Ogledd Cymru yn ystod yr haf ac yn mwynhau bwyta allan, mae gwledd yn eich aros! Mae’r ardal yn llawn tafarnau a bwytai braf sy’n cynnig y cyfuniad perffaith o leoliadau deniadol yn yr awyr agored a phrydau bwyd blasus i’w mwynhau. O dafarnau cefn gwlad hynafol i fwytai ffasiynol ar yr arfordir, mae rhywbeth i blesio pob chwaeth. Ac, yn well byth, mae rhai o’r mannau bwyta gorau o fewn pellter cerdded hawdd neu siwrnai fer mewn tacsi o’r orsaf – ni fydd yn rhaid i neb wirfoddoli i yrru!

Yn y blog hwn, mi ydym yn cyflwyno ein hoff dafarnau lle cewch fwyta yn yr awyr agored – os ydych yn chwilio am rywle sy’n addas i’r teulu cyfan, rhywle sy’n croesawu cŵn neu bryd rhamantus i ddau, rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r lle perffaith i fwynhau gwledda yn ystod yr haf.

Mae’r tafarnau a’r bwytai rydym wedi’u dewis i gyd yn agos at naill ai Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. Cofiwch wirio’r amserlen ar Traveline Cymru cyn cychwyn, i wneud yn siŵr bod gennych ffordd o gyrraedd adref!

The Cottage Loaf – Llandudno 

© The Cottage Loaf

Fel un o’r tafarnau hynaf yn nhref glan môr Llandudno, mae’r Cottage Loaf yn dafarn glyd sy’n ymfalchïo yn ei hawyrgylch cynnes a chroesawgar drwy gydol y flwyddyn. Ond yn yr haf mae’r dafarn guddiedig hon yn dod i’w bri. Gyda’i libart caeedig yn y cefn a theras eang llawn blodau yn y ffrynt, mi fydd gennych ddigon o ddewis wrth benderfynu lle rydych am eistedd i ddal yr haul. Os bydd yr awel yn fain, mi allwch ddewis o blith y mannau bwyta dan do; ac mae drysau sy’n agor i’r libart i gael y gorau o’r ddau fyd!

Rydym wrth ein bodd â’r Cottage Loaf am ei bod yn dafarn ddelfrydol ar gyfer pob achlysur. Mae’n croesawu teuluoedd a chŵn tu allan, ac mi ydych yn siŵr o gael croeso cynnes gyda digon o bobl i sgwrsio â hwy – yn bobl leol ac ymwelwyr. Ond, os mai diod fach dawel â rhywun arbennig sy’n mynd â’ch bryd, mae digon o gilfachau bach tawel lle gallwch ymlacio a mwynhau’r awyrgylch. 

Tal-y-Cafn – Tal-y-Cafn

Os ydych yn chwilio am dafarn sy’n agos at orsaf, dyma’r un i chi! Mae y drws nesaf i blatfform gorsaf Tal-y-Cafn, ac mae’r dafarn o’r un enw yn gyrchfan boblogaidd yn Nyffryn Conwy. Mae’r dafarn yn ymfalchïo yn ei dec haul sydd yn llygad yr haul, ac mi fydd yn anodd llusgo eich hun oddi yno pan fydd yr haul yn machlud ar draws y dyffryn – mae’r golygfeydd yn anfarwol! Ac yn goron ar y cyfan? Mae bar awyr agored yn golygu na fydd yn rhaid i chi fynd ymhell i ail-lenwi eich gwydr.

Fel y Cottage Loaf, mae Tal-y-Cafn yn croesawu teuluoedd, cŵn a chyplau. I bobl, mae’r fwydlen yn gymysgedd flasus o glasuron tafarn a phrydau modern a, rhag ofn eu bod yn teimlo eu bod yn cael cam, mae bwydlen bwrpasol i’r cŵn hefyd. Os ydych wedi mwynhau gwydraid yn ormod, mae help ar gael. Mae gan y dafarn nifer o ystafelloedd chwaethus lle gallwch aros os ydych wedi colli’r trên olaf adref! 

Y Stablau, Gwesty’r Royal Oak – Betws-y-coed

Fel un o’r adeiladau enwocaf yng nghanol Betws-y-coed, dechreuodd Gwesty’r Royal Oak fel gwesty ar gyfer y goets fawr a deithiai o Lundain i Gaergybi. Roedd yn fan aros poblogaidd i bobl oes Fictoria a oedd yn awyddus i brofi’r golygfeydd alpaidd ac mae poblogrwydd y pentref yn parhau hyd heddiw. Mi allwch chwithau hefyd fwynhau awyr iach y mynyddoedd yn Y Stablau, y bar bistro ffyniannus sy’n rhan o’r gwesty. Llai na phum munud o gerdded o’r orsaf, mae gan Y Stablau deras mawr, dan do, gyda goleuadau lliwgar, dodrefn pren cadarn a gwresogyddion patio, sy’n golygu y gallwch fod yn yr awyr agored gydol y flwyddyn heb boeni am y tywydd anwadal!

Er bod peth o awyrgylch y caban sgïo yma, mae’n dafarn Gymreig draddodiadol sy’n ymfalchïo yn ei chroeso Cymreig cynnes; mi allwch ddisgwyl llond plât o fwyd a dewis helaeth o ddiodydd. Mae’n lle bywiog o fore tan nos, ond heb ymdeimlad ffuantus sy’n golygu bod pawb yn ymlacio, sy’n ei gwneud yn ddewis da i deuluoedd a chyplau. Ac mae croeso i gŵn hefyd!

The Mulberry – Conwy 

Mae tref ganoloesol Conwy yn gyrchfan sydd i’w mwynhau orau ar droed ac mae ein taith gerdded i’n tafarn nesaf yn sicr yn werth yr ymdrech. Wedi’i lleoli ychydig y tu allan i furiau’r dref ac yn edrych draw am Farina Conwy, mae’r Mulberry yn cynnig y profiad bwyta arfordirol perffaith. Mae dec haul helaeth y dafarn yn ein hatgoffa o lefydd ffasiynol yn Ibiza ond gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Aber Afon Conwy a Phen y Gogarth – mae’n hynod drawiadol, yn enwedig pan fydd yr haul yn machlud.

Ond mae hon yn dafarn sy’n croesawu’r teulu cyfan – fel y gwelir yn y man chwarae awyr agored sydd ar thema môr ladron a’r fwydlen arbennig i blant. Yn naturiol, mae croeso i gŵn ar y dec haul ond, os bydd y tywydd yn troi, mae rhan fechan o du mewn y dafarn wedi’i neilltuo i’n ffrindiau pedair coes. 

The Gazelle Hotel – Porthaethwy 

Wedi’i lleoli ar lan y Fenai, mae’r Gazelle Hotel yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyta yn yr awyr agored, ac mi fydd dewisiadau di-ben-draw pan fydd yr haul yn tywynnu. O’r gerddi teras braf, i’r dec ar lan y dŵr, mi all yfwyr a bwytawyr ddilyn yr haul drwy’r dydd. Rydym wrth ein bodd â lleoliad y dafarn hon, ond a wyddoch chi fod ganddi ei thraeth bach ei hun hefyd? Mi fydd plant bach (a mawr) yn mwynhau’r cyfle i ddilyn yr arfordir tra bydd gweddill y teulu’n ymlacio â diod braf gerllaw.

Mae’r fwydlen yn un fechan ond mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’n cynnwys hen ffefrynnau fel prydau ysgafn a chinio dydd Sul. Gyda cherddoriaeth fyw, barbeciws a digwyddiadau ar benwythnosau yn ystod yr haf, mae’r dafarn yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr – ac mae hynny’n cyfrannu at yr awyrgylch. Os ydych yn rhy fodlon eich byd i adael i ddal y trên, mae gan y Gazelle sawl ystafell i westeion ar thema’r arfordir (ac mae croeso i gŵn mewn tair ohonynt). 

The Valley Hotel – Y Fali

Dim ond taith gerdded fer o’r orsaf, mae Valley Hotel yn cynnig croeso cynnes Cymreig a bwyd tafarn calonogol mewn bar a bwyty sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar. A phan mae’r tywydd yn braf, pluen yn het y tafarn hwn yw’r ardal awyr agored eang. Gydag ardal chwarae wych i blant, a digonedd o le i gŵn (mae croeso mawr iddyn nhw hefyd, wrth gwrs), gallwch fwynhau’r haul ar y lawnt neu ymlacio ger Bar yr Ardd ar y teras hyfryd. Cewch ddewis o blith glasuron bwyd tafarn oddi ar Brif Fwydlen y Fali, neu dewiswch rywbeth ysgafnach o Fwydlen yr Ardd, chi biau’r dewis!

Gyda 19 o ystafelloedd sydd hefyd wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar, mae Gwesty’r Fali hefyd yn fan cychwyn perffaith i chi grwydro’r ynys. Mae ei leoliad yng nghanol Ynys Môn yn golygu fod holl atyniadau’r ynys yn hawdd eu cyrraedd ar drenau neu drafnidiaeth gyhoeddus arall.