Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer Rheilffordd Dyffryn Conwy a Gogledd-orllewin Cymru

Mae Claire Williams wedi cael ei phenodi’n Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru.

Fel Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, bydd Claire yn ymgysylltu â chymunedau ar draws y rhwydwaith o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno i Gaergybi. Bydd y swydd yn cysylltu pobl yng Ngogledd Cymru â’u rheilffyrdd, gan sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy a theithio hygyrch i bobl leol ac ymwelwyr.

Claire Williams, New Community Rail Officer for the Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership

Dywedodd Claire Williams, sy’n frwd dros ddechrau’r swydd newydd: “Drwy gysylltu a hybu cydweithrediad rhwng busnesau a sefydliadau mewn cymunedau lleol, gallwn rymuso’r cymunedau hynny i gydweithio’n well ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth.

“Rydw i wedi bod yn gweithio yn y gymuned leol ers blynyddoedd lawer, gyda’r Strafagansa yn Llandudno. Rwy’n edrych ymlaen at ddod â’m profiad mewn digwyddiadau, ymgysylltu â’r gymuned a gweithio ar y cyd â sefydliadau allanol i’r swydd.”

Ychwanegodd Philip Evans, cadeirydd y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Rwy’n falch iawn bod Claire yn ymuno â’r tîm.  Mae ganddi hanes ardderchog o reoli digwyddiadau’n lleol a bydd yn sicr yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan ei rhagflaenwyr.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ariannu Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru yn rhannol er mwyn cyflawni ei weledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol.  Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Creu Menter, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.

Claire Williams and Melanie Lawton, Transport for Wales Community Rail Manager (North)

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Rydw i wrth fy modd yn croesawu Claire i’r teulu Rheilffyrdd Cymunedol. Rydyn ni’n gwybod bod Rheilffyrdd Cymunedol yn gallu sbarduno newid go iawn er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan helpu i wneud teithio ar y rheilffyrdd yn fwy hygyrch a chynhwysol, sydd, yn ei dro, yn creu gwir fudd economaidd a chyfle, yn ystod y cyfnod anodd hwn, i gefnogi iechyd a llesiant meddyliol pobl yn y cymunedau hyn.  Mae Claire eisoes wedi cael effaith ar ddigwyddiadau lleol ac ar weithio gyda’r ysgol.”