Grŵp celfyddydau perfformio’n cyflwyno perfformiad cofiadwy diolch i gymorth ariannol gan y Bartneriaeth Rheilffordd Cymunedol a Trafnidiaeth Cymru

Cyflwynodd plant o’r grŵp celfyddydau perfformio, Maes-G ShowZone, bantomeim Nadolig hudolus yn neuadd eglwys Maesgeirchen, Bangor, diolch i gymorth ariannol a dderbyniwyd gan Bartneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

Ym mis Medi 2022, lansiodd Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru a Trafnidiaeth Cymru Gronfa Grantiau Cymunedol, gyda’r nod o gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau cymunedol. Roedd cymorth ariannol gwerth hyd at £1,000 ar gael i grwpiau cymunedol wedi’u lleoli o fewn radiws o bum milltir oddi wrth y gorsafoedd ar hyd y rheilffordd o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno i Gaergybi.

Gan adeiladu ar lwyddiant y pantomeim a’r cyngerdd carolau a werthwyd allan yn 2021, llwyddodd Maes-G ShowZone gyda chais i’r Gronfa Grantiau Cymunedol i’w haelodau berfformio Panto Pandemonium; sioe egnïol gyda 12 cân a llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa.

Cafodd y grŵp celfyddydau perfformio cymunedol a redir gan wirfoddolwyr, Maes-G ShowZone, ei sefydlu yn 2020, o dan arweiniad Steffie ac Eirian Williams Roberts a Naomi Crane. Mae’r grŵp yn dibynnu’n llwyr ar gyllid grant a gweithgareddau codi arian i sicrhau nad oes unrhyw faich ariannol yn cael ei drosglwyddo i deuluoedd eu haelodau ac na chaiff unrhyw berson ifanc ei eithrio o’r grŵp ar sail amgylchiadau teuluol.

Gan siarad am y perfformiad, dywedodd Steffie:

“Rydym mor ddiolchgar am y cyllid hwn a’n galluogodd i ddod â’r pantomeim hwn yn fyw. Perfformiodd yr aelodau dair sioe dros ddau ddiwrnod i dros 250 o bobl a bu’n llwyddiant ysgubol gydag un rhiant, sydd wedi bod gyda ni ar gyfer pob sioe, yn dweud: “Hon oedd yr un orau eto!””

Dywedodd y Swyddog Rheilffordd Cymunedol, Claire Williams, a fynychodd y perfformiad: “Cefais y pleser o fynychu un o’r sioeau gyda fy mhlant fy hun ac roeddem wrth ein boddau. Roedd yn amlwg bod pob plentyn a gymerodd ran yn y sioe wedi gweithio’n galed iawn. Roedd llawer o ryngweithio gyda’r gynulleidfa a stori wych. Da iawn i bawb a gymerodd ran.”

Parhaodd Claire: “Diolch i’n partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru rydym wedi gallu cynnig y cyllid grant hwn unwaith eto eleni i gefnogi cymaint o sefydliadau fel Maes-G ShowZone i gadw gwasanaethau i fynd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau.”

Perfformiwyd Panto Pandemonium deirgwaith ym mis Rhagfyr 2022 yn Eglwys y Groes, Maesgeirchen, gyda phob un o’r 48 aelod yn cymryd rhan. Bellach, mae’r grŵp wedi dechrau ymarfer ar gyfer Sioe Adloniant Fawr ym mis Gorffennaf.