Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol a Trafnidiaeth Cymru yn dyfarnu dros £10,000 o gymorth ariannol i sefydliadau cymunedol yng ngogledd Cymru

Ym mis Medi 2022, lansiodd Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru a Trafnidiaeth Cymru ail rownd o gymorth ariannol grantiau cymunedol, gyda’r nod o gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau cymunedol. Roedd cymorth ariannol gwerth hyd at £1,000 ar gael i grwpiau cymunedol wedi’u lleoli o fewn radiws o bum milltir oddi wrth y gorsafoedd ar hyd y rheilffordd o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno i Gaergybi. Ystyriwyd ceisiadau ar gyfer ystod eang o weithgareddau a allai ddangos eu heffaith ar y gymuned a sut y bydd y cyllid yn eu cynnal yn y dyfodol ac yn cadw gwasanaethau i fynd. Gweinyddwyd y gronfa gan Mantell Gwynedd ac, ym mis Rhagfyr 2022, dyfarnwyd cyfanswm o £10,878.38 i’r mudiadau cymunedol canlynol.

Gweithgareddau Byddar Sir Conwy

Grŵp cymdeithasol a chymunedol yw Gweithgareddau Byddar Sir Conwy sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos i siarad am eu pryderon ac i gael cymorth oddi wrth ei gilydd i edrych ar ôl eu llesiant. Llwyddodd y grŵp i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i gefnogi Boreau Coffi’r Gymuned Fyddar. Defnyddir y Boreau Coffi fel clinig galw heibio ar gyfer y rheini sydd angen cymorth ym mhob maes, megis llenwi ffurflenni a gwneud apwyntiadau. Bydd y cyllid grant yn ei gwneud hi’n bosibl i Gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fynychu’r sesiynau hyn a chynorthwyo’r Gymuned Fyddar. Yn ogystal, bydd y grant yn galluogi Cyfieithydd BSL i fynychu digwyddiadau a gwibdeithiau lle na ddarperir cyfieithwyr BSL.

Clwb y tu Allan i Oriau Ysgol Deganwy

Mae Clwb y tu Allan i Oriau Ysgol Deganwy yn elusen gofrestredig sy’n darparu gofal plant, cyfleoedd chwarae i blant a chymorth i deuluoedd sydd mewn gwaith, rhieni sengl a’r rheini sydd mewn addysg neu hyfforddiant. Llwyddodd y clwb i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol ar gyfer prosiect Get Up And Go a fydd yn cefnogi gweithdai yoga i annog gweithgareddau corfforol sy’n hyrwyddo iechyd a llesiant ymhlith plant a staff. Yn ogystal, bydd y grant yn ariannu prynu teganau ac offer allanol a fydd yn rhoi cyfle i blant gryfhau eu sgiliau echddygol, chwarae ar y cyd, magu hyder a gwella sgiliau cyfathrebu.

Ymddiriedolaeth Jon Egging (YJE)

Mae YJE yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl go iawn o adael byd addysg i adfer a gwireddu eu potensial llawn trwy raglenni sy’n cael eu hysbrydoli gan STEM. Llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i sicrhau £923 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i ddarparu diwrnodau dysgu seiliedig ar weithgareddau fel rhan o’r rhaglen ‘Awyr Las’. Bydd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Caergybi sydd wedi cofrestru ar gyfer rhaglen ‘Awyr Las’ yn cael y cyfle i feithrin sgiliau gweithio mewn tîm trwy sesiwn ddringo yng Nghanolfan Ddringo Beacon yng Nghaernarfon, a datblygu sgiliau arwain trwy ymweld â’r Wyddfa am ddiwrnod, o dan oruchwyliaeth hyfforddwr awyr agored lleol.

Clwb Pêl-droed Tref Llanfairfechan

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Tref Llanfairfechan yn wreiddiol ym 1870 ac mae wedi darparu cyfleoedd llesiant corfforol a meddyliol i’r gymuned ers canrif a hanner. Mae timau’r clwb yn gynyddol boblogaidd ymhlith chwaraewyr, gyda’r caeau a’r offer yn cael eu defnyddio fwy-fwy. Llwyddodd y Clwb i sicrhau £968.42 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol a fydd yn ei alluogi i osod peiriant Verti-Drain i atal dŵr rhag eistedd ar wyneb y caeau yn ystod yr hydref a’r gaeaf, gan sicrhau bod modd chwarae gemau yn ystod y misoedd gwlypach. O fod mor agos at y rheilffordd a’r traeth, mae peli yn aml yn cael eu difrodi yn ystod gemau a sesiynau hyfforddi, a bydd y cymorth ariannol yn galluogi’r clwb i brynu peli newydd.

MaesG Showzone

Grŵp celfyddydau perfformio cymunedol a redir gan wirfoddolwyr yw MaesG Showzone, i blant a phobl ifanc o flwyddyn 3 i fyny. Gan gwrdd ddwywaith yr wythnos, mae aelodau’r grŵp yn gweithio ar brosiectau amrywiol megis ffilmiau byrion, cyngherddau, pantomeimiau a sioeau. Llwyddodd MaesG Showzone i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol a fydd yn galluogi’r grŵp i gynnal pantomeim llawn yn neuadd yr eglwys ym Maesgeirchen, lle cynhelir y sesiynau wythnosol. Bydd y pantomeim yn rhoi cyfle i aelodau newydd berfformio o flaen cynulleidfa am y tro cyntaf, ac yn rhoi cyfle i aelodau presennol ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Bydd pob un o’r 48 aelod yn perfformio yn y pantomeim ar draws tair sioe, yn dilyn wythnosau lu o ymarferion, gan roi hwb i hyder a hunan-werth wrth ddod â’r gymuned ynghyd a chodi ysbryd pobl.

Blaenau Youth Shedz

Elusen pobl ifanc yw Blaenau Youth Shedz sy’n darparu gofod diogel a modelau rôl cadarnhaol, sy’n galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol. Llwyddodd yr elusen i sicrhau £995 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i greu ‘Pecynnau Cadw’n Gynnes yn y Gaeaf’ i ymateb i’r argyfwng costau byw y mae cynifer o bobl yn ei brofi eleni. Bydd y pecynnau’n cynnwys eitemau a fydd yn helpu i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn ac yn caniatáu i arian gael ei ryddhau ar gyfer anghenion sylfaenol eraill megis prynu bwyd. Bydd hyn yn helpu i leihau straen a gwella iechyd meddwl. Bydd y Pecynnau Cadw’n Gynnes yn y Gaeaf yn cael eu rhoi i 25 o bobl ifanc bregus sy’n mynychu Youth Shedz. Ar ben hynny, bydd y cymorth ariannol yn prynu blancedi cynnes i bobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Gofal Canser Tenovus

Tenovus yw prif elusen ganser Cymru, sy’n cefnogi unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ganser, mewn cymunedau ledled y wlad. Llwyddodd yr elusen i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i gefnogi corau ‘Sing With Us’ ym Mangor a Llandudno. Mae Sing With Us yn darparu cymorth, cyfeillgarwch a hwyl mewn gweithgaredd wythnosol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

 

Cylch Meithrin Parc y Bont

Mae Cylch Meithrin Parc y Bont yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ar safle Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel. Llwyddodd yr grŵp i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i gyfrannu at y gost o brynu ‘ffensys’ pwrpasol er mwyn darparu maes chwarae awyr agored dros dro ymroddedig i blant y Cylch Meithrin. Hyd nes y gellir nodi man allanol parhaol, bydd y ‘ffensys’ yn darparu man diogel i blant chwarae yn annibynnol.

 

Cyngor Ysgol Llanfairpwllgwyngyll

Mae cyngor Ysgol Llanfairpwll yn cynnwys disgyblion o’r ysgol sydd wedi cael eu hethol gan eu cyfoedion i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd y Cyngor Ysgol, i drafod ffyrdd gwahanol o wella’r ysgol ac i drefnu digwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn. Llwyddodd y cyngor i sicrhau £1,000 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i gynnal gweithdy adrodd stori ac i brynu llyfrau Cymraeg ar gyfer disgyblion yr ysgol. Bydd y gweithdy’n darparu profiad amhrisiadwy a fydd yn ysbrydoli’r plant i ddarllen, i greu ac i ysgrifennu.

 

 

Seren Ffestiniog Cyf

Mae Seren, sydd wedi’i lleoli ym Mlaenau Ffestiniog, yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys cynlluniau byw â chymorth, i oedolion ag anableddau dysgu. Mae Seren yn datblygu nifer o weithdai crefft newydd a sesiynau hyfforddi ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys therapi cerdd a drama. Llwyddodd Seren i sicrhau £991.66 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol i brynu offerynnau cerdd i’w defnyddio yn ystod y sesiynau hyn, a’u hehangu, o bosibl, i gynnwys aelodau hŷn y gymuned. Bwriad y sesiynau yw codi hunanhyder a hunan-barch ymhlith eu hunigolion, ond hefyd dysgu sgiliau deheurwydd a rhythm wrth iddynt glywed patrymau sain sy’n canolbwyntio ar gryfhau’r synhwyrau.

Cronfa Grantiau Cymunedol Cymunedau Gwyrddach

Sicrhawyd bod cyllid ychwanegol gan Trafnidiaeth Cymru ar gael i grwpiau cymunedol o fewn radiws o filltir oddi wrth y gorsafoedd ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru a oedd â phwyslais ar ‘Brosiectau Gwyrdd’. Gallai grwpiau wneud cais am hyd at £500 i gyflawni prosiectau â phwyslais gwyrddach, e.e. creu cynefinoedd, tai trychfilod a rhandiroedd.

Partneriaeth Maesgeirchen Partnership

Grŵp cymunedol, di-elw, yw Partneriaeth Maesgeirchen, sy’n ymwneud â nifer o brosiectau yn, neu’n agos at, Ward Marchog, Bangor. Llwyddodd y grŵp i sicrhau £500 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol Cymunedau Gwyrddach er mwyn prynu bylbiau a chynnyrch garddio arall i wella delwedd ardal Ffordd y Traeth ym Mangor.Bydd tîm o wirfoddolwyr yn plannu bylbiau, coed a phlanhigion eraill, yn ogystal â phaentio’r cynwysyddion, ac yn gobeithio gweithio gydag ysgolion cynradd lleol er mwyn gwella delwedd y dref i groesawu pobl i Fangor.

Seren Ffestiniog Cyf

Mae Seren, sydd wedi’i lleoli ym Mlaenau Ffestiniog, yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys cynlluniau byw â chymorth, i oedolion ag anableddau dysgu. Llwyddodd Seren i sicrhau £500 trwy ein Cronfa Grantiau Cymunedol Cymunedau Gwyrddach er mwyn talu am offer garddio a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella ac ehangu gwasanaethau i Erddi Stiniog, mynwent Llan Ffestiniog a gerddi’r gwesty. Hoffai’r sefydliad ddatblygu gwasanaeth ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu gofalu am feddau eu teulu, boed hynny oherwydd analluogrwydd corfforol neu bellter. Bydd hyn o fudd i’w defnyddwyr gwasanaeth ac yn meithrin hyder a datblygu eu sgiliau.