Ni fydd neb yn tresmasu ar y rheilffyrdd yng Nghonwy wrth i fyfyrwyr Ysgol Aberconwy weithio gydag Andy Birch (Dime One North Wales Graffiti Art Murals), i drawsnewid y gysgodfan yn ddarn o gelf sy’n pwysleisio neges bwysig iawn o ran diogelwch ar y rheilffyrdd.
Nod y prosiect, mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac a ariennir gan Bartneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru, yw ceisio lleihau tresmasu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd rheilffordd. Ymgysylltodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Cymru â disgyblion yr ysgol, ac ymwelodd Suzanne Hall, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, â’r ysgol i egluro’r prosiect ac i drafod peryglon tresmasu ar y rheilffordd gyda myfyrwyr.
Dywedodd Suzanne Hall, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu: “Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys tresmasu gan bobl ifanc, wedi dod yn duedd sy’n peri pryder yn ardal Conwy. I geisio atal ymddygiad gwael, rydym wedi defnyddio ein perthynas gadarnhaol ag Ysgol Aberconwy, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru, Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru a’r artist Andy Birch, i ymgysylltu â rhai o fyfyrwyr Ysgol Aberconwy. Gan gydweithio ag Andy, mae 22 o ddisgyblion wedi creu neges bwysig iawn am reilffyrdd yng nghysgodfan gorsaf drenau Conwy.”
Ar ôl dysgu sut i greu llythrennau a dyluniadau ar ffurf graffiti gan Andy, bu’r myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i greu dyluniad ar gyfer murlun. Cafodd y murlun bywiog, trawiadol ei baentio â chwistrell yn y gysgodfan yng ngorsaf reilffordd Conwy gan Andy Birch a’r myfyrwyr, gyda Mrs Bethan Russell, athrawes Celf a Dylunio, a Suzanne Hall, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, hefyd yn cael tro gyda’r paent chwistrell! Mwynhaodd y myfyrwyr y profiad yn fawr ac maen nhw’n falch iawn o’r canlyniad terfynol. Rydym ninnau hefyd o’r farn bod y dyluniad gorffenedig yn ardderchog!
Dywedodd Andy baker, Rheolwr Gorsaf (Gogledd Orllewin Cymru) Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n bwysig ymgysylltu âphobl ifanc mewn ffordd y maen nhw’n ei ddeall, ac roedd y prosiect hwn yn ffordd hyfryd o ymgysylltu â disgyblion Ysgol Aberconwy a rhannu pwysigrwydd cynnal diogelwch ger rheilffyrdd. Mae’n ddarn gwych o gelf. Gwnaeth disgyblion Ysgol Aberconwy argraff fawr arnaf, eu hymrwymiad a’r ffordd y gwnaethant feddwl yn ddwys am y pwnc. Roedden nhw’n gwrtais ac yn gyfeillgar, yn gredyd i’w rhieni ac i’r ysgol.”
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffordd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru: “Yn dilyn adroddiadau o dresmasu yng Nghonwy, daeth y rheolwr gorsaf Andy Baker ataf i nodi cyfle i weithio gyda disgyblion o Ysgol Aberconwy, yn dilyn llwyddiant ysgubol prosiectau celf blaenorol mewn gorsafoedd lleol eraill gyda disgyblion ysgolion uwchradd eraill. Ar ôl i Dime One gytuno i fod yn rhan o’r prosiect, roedd hi’n bosib i ni wneud ymdrech aruthrol er mwyn cael effaith fawr trwy rannu’r neges hollbwysig hon gyda’r byd. Mae’r dyluniad gorffenedig yn edrych yn ardderchog ac, yn sicr, mae’n rhannu’r neges yn effeithiol. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y gwaith, sy’n enghraifft ardderchog arall o gydweithredu.”
Dywedodd Mr Gerrard, pennaeth yr ysgol: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu a diolch am eich holl waith caled. Fel ysgol, roeddem ni’n falch iawn o gael gwahoddiad i gyfrannu at fenter mor bwysig a allai helpu i achub bywydau.”