Adroddiad Blynyddol Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru 2021/2022

Unwaith eto, mae blwyddyn arall wedi mynd heibio gan ddod â newidiadau sylweddol i’r bartneriaeth mewn nifer o ffyrdd.

Mae ein Swyddog Rheilffordd Cymunedol newydd, Karen Williams, bellach wedi ymgartrefu yn ei swydd, ac wedi creu argraff dda ar bawb gyda’i brwdfrydedd wrth adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Melanie Lawton. Rydym wedi gweld estyniad i ardal gweithredu’r Bartneriaeth i gynnwys rhan o’r lein o Gyffordd Llandudno i Gaergybi, sydd wedi golygu sefydlu cysylltiadau newydd ac asesu anghenion a dyheadau’r gwahanol gymunedau ar hyd ei llwybr. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynyddu ein cydweithrediad gydag Avanti West Coast ac rydym yn ddiolchgar i’r gweithredwr hwnnw am eu cefnogaeth.

Mae’r trefniadau cynnal newydd gyda Chreu Menter wedi gwreiddio’n llwyddiannus ac yn gweithio’n dda. Rydym wedi gweld lansiad Hwb Cymunedol newydd yng Llandudno, ac fe’i hagorwyd gan Lesley Griffiths AS. Mae’r hwb wedi dod ac ardal wag o’r orsaf, a oedd gynt yn cynnwys Swyddfa Docynnau ac Ystafell Parseli, yn ôl i ddefnydd. Mae sefydlu’r Hwb wedi creu cyfleuster cymdeithasol gwerthfawr, ac mae ei ddatblygiad yn ganlyniad o gydweithio cadarnhaol rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chartrefi Conwy.

Mae perthnasau cadarn wedi cael eu sefydlu rhyngom ni a sefydliadau megis Mind a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, sydd wedi arwain at gynnal gweithgareddau yn yr awyr agored a nifer o gyfleoedd cymdeithasol cynhwysol mewn cysylltiad â’r rheilffordd. Yn sgil y cydweithio hynny rhwng y bartneriaeth rheilffordd, Mind a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, crëwyd y prosiect ‘Cerdded er Lles’, a roddodd gyfle i bobl leol fynychu teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar. Cyrhaeddodd y prosiect y rhestr fer yng ngwobrau’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, ac fe enillodd y 3ydd safle yn y categori “Ymgysylltu Gorau â’r Gymuned”. Mae ein gwaith yn parhau i geisio canfod sefydliadau tebyg a fyddai’n elwa o gydweithio gyda’i gilydd ar hyd ein rhannau o’r rheilffordd. I’r perwyl hwn, rydym yn awyddus i ehangu ein haelodaeth er mwyn cynnwys mwy o sefydliadau trydydd sector sydd hefyd ar waith yn y maes. O ran gweithredu mae Covid-19 wrth gwrs, wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant trafnidiaeth rheilffyrdd.

Mae amserlenni dros dro wedi bod mewn defnydd ers peth amser, a’r gobaith yw y bydd gweithredwyr yn cyflwyno gwasanaethau mwy cynhwysfawr yn y dyfodol agos. Mae gogledd Cymru yn dibynnu’n fawr ar y sectorau hamdden a thwristiaeth, ac mae’r gallu pobl i deithio i’r ardal, yn enwedig o ardaloedd y canolbarth a gogledd-orllewin Lloegr, yn rhywbeth sydd angen ei wella.

Rwyf yn ddiolchgar tu hwnt i Karen am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd i’m his-gadeirydd, Annwen Daniels, sydd wedi bod yn gyswllt cymunedol gwerthfawr gyda Blaenau Ffestiniog. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â phartneriaid amrywiol yn y diwydiant a sefydliadau eraill.

Philip C Evans JP FIoL

Partneriaeth Rheilffordd munedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru