Hwyl ar Ddwy Olwyn: beicio yn Nyffryn Conwy

Fel arfer wrth feddwl am ogledd Cymru mae pobl yn dychmygu’r holl leoedd hyfryd sydd gennym i gerdded a heicio. Wedi’r cyfan dyma gartref Eryri sy’n baradwys i gerddwyr a mynyddwyr.

Yn aml nid yw pobl yn sylweddoli fod gan ogledd Cymru, yn arbennig Dyffryn Conwy, lwybrau anhygoel ar gyfer beiciau hefyd.

Os ydych yn ystyried archwilio’r ardal ar ddwy olwyn, beth am adael eich beic gartref a llogi un yn lle?

Mae’n arbed y drafferth o orfod pacio beic a’i gludo ac mae’n lleihau’r risg o ddifrodi’ch annwyl feic eich hun. Mae hefyd yn gyfle gwych i roi cynnig ar feic newydd, beic hollol wahanol i’r un yr ydych wedi arfer ag o!

Os nad oes gennych feic ond yn dymuno gweld gogledd Cymru o bersbectif gwahanol, mae llogi beic yn gyfle gwych i roi cynnig ar weithgaredd sy’n addas i’r teulu cyfan.

Mae siop llogi beiciau Llandudno ger y promenâd yng nghanol tref Llandudno ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae amrywiaeth o feiciau ar gael i’w llogi, gan gynnwys beiciau arferol, beiciau plant, trelars a beiciau trydan. Ia wir – beiciau trydan!

Os nad ydych wedi bod ar gefn beic trydan o’r blaen, neu os yw beicio yn beth newydd i chi, beth am roi cynnig ar un? Mae’n debyg iawn i feic arferol, ond mae’n dod gyda batri a modur. Mae’n hwyl ac os ydych chi eisiau mynd yn bell yn gyflym fe allan nhw fod yn ddefnyddiol – mae’n haws mynd i fyny ac i lawr elltydd!

Felly, ewch draw i siop llogi beiciau Llandudno a gadewch i’r tîm cyfeillgar dan arweiniad Debbie ddarparu’r cyfan sydd ei angen arnoch i weld yr ardal ar ddwy olwyn. Mae’r prisiau’n amrywio o un diwrnod i sawl diwrnod ac mae helmedau a chloeon yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.

Mae Debbie wrth ei bod yn gweld i ble mae ei beiciau yn mynd am dro felly cofiwch rannu’ch anturiaethau gyda hi ar Twitter neu Facebook

Gallwch fynd â’ch beic ar Reilffordd Dyffryn Conwy am ddim a beicio o unrhyw un o’r gorsafoedd. I’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch rhyddid ar ddwy olwyn rydym wedi dod o hyd i dri llwybr beicio gwych yn Nyffryn Conwy a’r cylch.

Llwybr beicio ffyrdd Dyffryn Conwy

Mae’r llwybr hwn <http://www.cycleroutesuk.com/cycle-route/wales/conwy-harbour-to-betwsy-y-coed.html%22%20/t%20%22_blank> yn rhedeg gyferbyn â’r rheilffordd ar hyd glannau Afon Conwy, o Gonwy i Fetws-y-Coed, gan fynd drwy bentrefi prydferth ar hyd y ffordd.

Mae’r llwybr tua 15 milltir bob ffordd, ond os gwelwch eich hun yn blino, bydd gorsaf drenau wastad yn agos lle gallwch ddal trên yn ôl.

Mae cwpl o elltydd eithaf serth ar ddechrau a diwedd y llwybr – efallai y byddai beic trydan yn well ar gyfer hyn!

Bydd raid i chi wneud siwrnai fer o orsaf Cyffordd Llandudno i Gonwy i ddechrau’r daith hon sy’n llawn golygfeydd hardd.

Taith Dyffryn Ogwen

Mae un o hoff deithiau beicio Debbie, Llwybr Dyffryn Ogwen, yn mynd drwy galon Eryri rhwng mynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau. Disgwyliwch amgylchedd dramatig: clogwyni serth, rhostir digysgod, rhaeadrau a nentydd byrlymog.

Dyma’r Gymru wyllt ac nid oes raid i chi fynd i uchelfannau’r mynyddoedd i’w mwynhau, gallwch feicio ar hyd ffordd yr A5 ar hyd gwaelod y dyffryn.

Mae dau ddewis ar gael i chi. Gallwch ddod oddi ar y trên ym Metws y Coed a mynd ar eich beic i Fwthyn Ogwen yna dychwelyd yr un ffordd i ddal y tren yn ôl i Landudno (taith gylch 21 milltir).

Os oes gennych gwpwl o oriau i sbario, beth am gerdded i fyny Cwm Idwal ac ymgolli yn chwedl drasig y tywysog a gollodd ei fywyd yma.

Fel arall, beiciwch am 22 milltir ar hyd Dyffryn Ogwen ac i mewn i ddinas Bangor. Gallwch neidio ar y trên yma a dychwelyd i Landudno (bydd angen tocyn gwahanol arnoch chi).

Os ydych yn dewis gwneud hyn, gallwch fynd oddi ar y ffordd am ychydig a beicio rhan o Lwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ôl Bwthyn Ogwen.

Llwybr Arfordir Cymru

Dafliad carreg o’r siop mae Promenâd Llandudno sy’n lle delfrydol i ymuno â’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Llwybr 5) ar Lwybr Arfordir Cymru.

O’r fan hon gallwch archwilio morlin hardd yr ardal ar gefn eich beic – ar ddiwrnod braf mae hwn yn llwybr diguro.

Rydym wrth ein boddau â’r daith gylch 24 milltir o Landudno i Lanfairfechan. Mae bron yn hollol ddi-draffig ac mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan sy’n edrych allan ar rai o olygfeydd harddaf y rhan hon o ogledd Cymru.

Ar hyd y ffordd fe welwch Y Gogarth, Aber Conwy, Mynyddoedd y Carneddau, Dyffryn Conwy ac, wrth gwrs, tref hudolus Conwy a’i chastell.

Ar eich beic!

O feicio gyda’r teulu i ddringfeydd heriol, mae gan ogledd Cymru lwybrau beicio sy’n addas i bobl ar bob lefel profiad a gallu.

Soniwch wrthym am eich hoff lwybrau beicio yn Nyffryn Conwy ac efallai y gallwn eu cynnwys mewn blog yn y dyfodol! Rhannwch eich awgrymiadau ar ein tudalennau Facebook neu Twitter.