Newyddion da i Landudno! Gorsaf drenau i ddod yn gartref newydd i bartneriaeth reilffordd a menter gymunedol arloesol

Mae gweledigaethau Trafnidiaeth i Gymru yn mynd rhagddynt! Mewn datblygiad cyffrous, mae’r cwmni trenau wedi cychwyn gwaith i ailfywiogi gorsaf reilffordd Llandudno, a sicrhau ei dyfodol fel cartref i fenter gymunedol leol.

Mae Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth i Gymru yn brosiect sy’n tynnu sylw at fannau gwag mewn gorsafoedd y gellir eu datblygu a’u defnyddio ar gyfer mentrau a dibenion cymunedol.

Gorsaf Fictoraidd fawreddog Llandudno fydd un o’r cyntaf i dderbyn y gwelliannau hyn, ac fe fydd yn ychwanegiad gwych i’r dref lan môr boblogaidd.

Fel rhan o’u cynlluniau ar gyfer yr orsaf, bydd ystafell wag yn yr adeilad yn cael ei hadnewyddu i ddatblygu lle ar gyfer Creu Menter, sefydliad dielw sy’n gweithio tuag at gefnogi pobl leol a hybu mentrau cyflogaeth.

Bydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy hefyd yn gwneud ei gartref yma, gan ymestyn ei gyrhaeddiad hyd at Ynys Môn, a chreu cysylltiadau gyda llawer mwy o gymunedau gwledig yng Nghymru, i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae’r bartneriaeth rheilffordd gymunedol eisoes yn gofalu am ddeuddeg gorsaf sy’n rhedeg ar hyd Dyffryn Conwy; y lein hanesyddol sy’n ymestyn rhyw saith milltir ar hugain o Landudno i Flaenau Ffestiniog. Mae’r bartneriaeth am ychwanegu deg gorsaf arall i’w portffolio wrth iddi fabwysiadu’r gorsafoedd ar hyd yr arfordir gorllewinol, o Gonwy hyd at Gaergybi.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma. https://news.tfwrail.wales/news/work-begins-to-transform-llandudno-railway-station