Mwynhewch olygfeydd godidog o’r drên drwy gydol y flwyddyn

Mae’n bosibl nad ydym yn hollol ddiduedd, ond credwn fod gan Reilffordd Dyffryn Conwy rai o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol a welwyd erioed.

Ble arall allwch chi weld arfordir arbennig, bryniau ysblennydd, llethrau llechweddog, coedwigoedd cyfareddol, afonydd byrlymus a henebion anrhydeddus i gyd ar yr un siwrnai?

O’r eiliad mae’r trên yn gadael Llandudno, mae byd llawn tirluniau yn gwibio heibio’r ffenestr – does dim yn ddiflas am y daith hon! Gyda chymaint o olygfeydd arbennig i ddewis ohonynt, nid oedd eu dethol yn dasg hawdd, ond dyma restr fer o bedwar o’n ffefrynnau.

Ni waeth os mai hwn yw eich taith gyntaf neu os ydych yn deithiwr rheolaidd ar y lein, rhaid i chi beidio â cholli’r golygfeydd syfrdanol hyn.

Yn nyddiau cynnar Rheilffordd Dyffryn Conwy, roedd trenau’n tynnu cerbydau gwydr a oedd yn rhoi golygfeydd 360° o gysur eich sedd. Maent bellach wedi hen ddiflannu ac mae cerbydau arferol yn eu lle, ond mae’r harddwch sydd i’w weld tu hwnt i’r ffenestri yn dal i fod yno, os ydych yn gwybod lle i edrych.

Er mwyn gael y gorau o’ch taith rydym yn argymell eistedd ar ochr dde’r cerbyd wrth wynebu’r blaen, tra’n teithio o Landudno i Flaenau. Trowch o gwmpas am y daith yn ôl!

1. Castell Conwy, wrth i chi adael gorsaf Deganwy

Pe byddech chi’n gofyn i blentyn dynnu llun o gastell, siawns go dda y cewch chi lun sydd rywbeth tebyg iawn i Gastell Conwy.

Saif y castell o’r drydedd ganrif ar ddeg fel gwarcheidwad wrth geg Afon Conwy, man a ddewiswyd oherwydd ei bwysigrwydd strategol.

Gerllaw mae un o’r trefi caerog canoloesol mwyaf cyflawn yn Ewrop, sydd bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ynddi’i hun.

Wrth i’r trên adael gorsaf Deganwy, cadwch lygaid allan ar draws yr afon am y castell a’r dref sydd wedi’u fframio’n ddramatig gan y Carneddau, ar odre Parc Cenedlaethol Eryri.

I ymweld â’r castell a thref hanesyddol Conwy, mae gennych ddewis: gallwch naill ai gadael y trên yng Nghyffordd Llandudno a cherdded dros y bont ffordd, neu deithio’n syth i ganol Conwy (gwiriwch rhag ofn y bydd angen newid trenau yng Nghyffordd Llandudno).

2. Yr Afon Conwy, o Lan Conwy hyd at Fetws-y-Coed

Mae’r olygfa hon yn ddiorffen, gan barhau’r holl ffordd i Fetws-y-Coed, felly mae digon o amser i eistedd yn ôl a phrofi’r cyfan wrth eich pwysau.

Ceir tirlun wahanol ar gyfer pob tymor, ac mae’r daith i fyny Dyffryn Conwy yn newid i adlewyrchu’r tymhorau, gyda’i lliwiau’n syth o balet arlunydd.

Ceir enfys o flodau’r gwanwyn, fel rhododendron a chennin pedr, yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn. Gyda’r haf daw gwyrddni arbennig y coed a’r glaswellt ar lannau’r afon yn tyfu’n dal ac yn ymestyn tuag at yr awyr las.

Mae’r hydref yn denu torfeydd o ymwelwyr i weld y dail yn newid a gorchuddio’r dyffryn gyda mantell fflamgoch. Ac yn y gaeaf, gweler ysblennydd y mynyddoedd rhewllyd, a’r eira’n wynlas ddisglair ar eu cribau a chopaon.

3. Dolwyddelan a Moel Siabod y tu hwnt

Mae’r rhan hon o’r daith ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy yn dod â chi at Ddyffryn Lledr, ardal hyfryd a thawel sydd, serch ei harddwch, yn aml yn cael eu hesgeuluso gan ymwelwyr.

Mae pentref Dolwyddelan yn berl cudd yng nghanol y dyffryn. Tua milltir allan o’r pentref mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll tywysogion Gwynedd, un o’r ychydig gestyll yng Nghymru a adeiladwyd gan y Cymry. Saif yn uchel am ben bryn, gan fwrw ei gysgod mawreddog dros y dyffryn, a gyda Moel Siabod yn sefyll yn awdurdodol yn y cefndir, ychydig iawn y mae’r olygfa wedi newid dros y canrifoedd.

Beth am archwilio ymhellach i Ddyffryn Lledr? Rhowch dro ar lwybr Cwm Penamnen – taith gerdded gylchol o 5 milltir, hyd goedwigoedd a heibio rhaeadrau ac adfeilion hynafol. A gorau oll, mae’r daith yn cychwyn o faes parcio’r orsaf reilffordd.

4. Trên bach ’Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog

A oeddech chi’n gwybod fod trên byd-enwog Rheilffordd Ffestiniog yn gadael am Borthmadog o’r un orsaf ac y mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ei gyrraedd? Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i chi dreulio’r diwrnod cyfan allan ar y trên, gan brofi’r rheilffyrdd stêm a dîsl gorau yng ngogledd Cymru!

Mae cyrraedd Blaenau Ffestiniog fel cam yn ôl mewn hanes at anterth y diwydiant llechi. Dydy’r orsaf wedi newid fawr ddim ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond y tirwedd sydd o’ch cwmpas sydd fwyaf trawiadol.

Mae clogwyni llechi o’ch cwmpas yn estyn am yr awyr; mae’n llwyd cyn belled ag y gellid gweld ond nid yw’n llwm. Mae’n atgof parhaus o’r dyddiau pan roedd Blaenau’n bentref ‘a roddodd do am y byd’ gyda’r deunydd unigryw hwn. Mae llechi Cymreig yn cael eu hystyried fel y gorau yn y byd; mae’n ddiddos, gall wrthsefyll amrywiadau mawr mewn tymheredd, ac yn para’n hynod o hir.

Beth yw eich hoff olygfeydd o Reilffordd Dyffryn Conwy?

Byddem wrth ein boddau i chi rannu’ch rhai chi ar ein tudalennau Facebook a Trydar.