Bydd amserlenni rheilffyrdd ar dyddiau Sul yng Nghymru yn cael eu gweddnewid fis Rhagfyr eleni gyda chynnydd o 40% mewn gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, cam sylweddol tuag at greu rheilffordd 7-diwrnod yr wythnos go iawn.
Bydd 186 o wasanaethau ychwanegol ar y Sul yn creu hwb economaidd ledled y wlad, gan ddarparu cysylltiadau hanfodol rhwng dinasoedd, trefi a phentrefi. Bydd teithwyr ar y rheilffordd yn gweld cyflwyno gwasanaeth ar y Sul i Maesteg am y tro cyntaf erioed, bydd gwasanaethau’n dyblu rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, bydd gwasanaethau tymhorol ychwanegol bellach yn rhedeg gydol y flwyddyn ar hyd Arfordir Gogledd Cymru a bydd trenau’n rhedeg yn amlach ar reilffyrdd y cymoedd.
Gan ddisgwyl y bydd hyn yn hybu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, bydd TrC yn creu gwasanaethau newydd ar y Sul rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog gan greu gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn. Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiadau hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.
Bydd lein Arfordir y Cambrian hefyd yn cael budd mawr, gan newid o un gwasanaeth y dydd ar y Sul i’r ddau gyfeiriad rhwng Machynlleth a Phwllheli i bum gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae Trafnidiaeth yn sylfaenol i lwyddiant ein heconomi yng Nghymru, a bydd y cynnydd dramatig hwn yn nifer y gwasanaethau ar y Sul yn cynyddu cysylltiadau rhwng ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi, gan ddarparu hwb i fusnesau lleol a helpu i wella bywydau pobl ar draws Cymru.
“Bydd y gwasanaethau hyn yn gwella mynediad ar gyfer cyfleoedd cymdeithasol, hamdden ac addysgol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth. Bydd gwasanaethau hwyrach hefyd yn cynyddu opsiynau i bobl allu mynychu digwyddiadau’n hwyr y nos ledled y wlad.”
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i roi i gwsmeriaid y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu ar ddydd Sul ac rydym yn falch iawn o allu gwneud y gwelliannau hyn. Bydd rhai llinellau, na fu ganddynt wasanaeth ar y Sul erioed o’r blaen, bellach yn cael eu cysylltu, gan roi mwy o fanteision hamdden ac economaidd i lawer iawn o ardaloedd.
“Mae llawer iawn o waith caled wedi mynd i mewn i ddatblygu’r amserlen hon ar gyfer ein cwsmeriaid ac rydym yn hynod falch ein bod wedi ei chwblhau. Rydyn ni wedi gweld cydweithio gwych gyda’n partneriaid yn Network Rail i sicrhau mynediad ar gyfer gwasanaethau cynharach yn y bore a hwyrach yn y nos, drwy symud amseroedd gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd, a hoffwn ddiolch i bawb cysylltiedig am eu gwaith caled.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Mae’r cynnydd sylweddol hwn mewn gwasanaethau ar y Sul yn ymrwymiad pwysig a wnaed gennym wrth lansio ein gwasanaeth rheilffyrdd newydd dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n dilyn lansiad llwyddiannus ein hamserlen ym Mai 2019, pryd y cyflwynwyd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Wrecsam am y tro cyntaf mewn degawdau. Rydym yn gobeithio y bydd ein cwsmeriaid a’n darpar-gwsmeriaid yn croesawu’r gwasanaethau hyn fel cam pwysig yn y gwaith o adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn wirioneddol falch ohono.”
Ychwanegodd Philip Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy:
“Mae’n newyddion gwych bod Trafnidiaeth Cymru wedi dangos eu hymrwymiad i Ddyffryn Conwy drwy gyflwyno gwasanaethau trên ar ddydd Sul yn ystod y gaeaf, yn ogystal â chysylltiad rheolaidd o Landudno i’r rhwydwaith bob diwrnod. Mae’r newid hwn yn ateb gofynion lleol ac yn cydnabod effaith yr hyn sy’n cael ei gynnig i dwristiaid yn yr ardal drwy gydol y flwyddyn.”
Mae cadarnhau y gwasanaethau ychwanegol ar ddydd Sul yn dilyn cyhoeddiad TrC am gynyddu capasiti ar gyfer gwasanaethau ar ddyddiau’r wythnos y mis Rhagfyr hwn, sy’n cynnwys:
- Bydd rheilffyrdd y Cymoedd yn gweld mwy o drenau â phedwar cerbyd ar y gwasanaethau prysur, ynghyd â newidiadau eraill i’r cerbydau, gan greu lle i hyd at 6,500 yn fwy o gymudwyr bob wythnos.
- Bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy yn cael y fantais o ddefnyddio trenau modern Dosbarth 170 sydd â rhagor o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, system awyru, Wi-Fi a socedi pŵer.
- Bydd teithwyr sy’n teithio’n bell ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern ‘Mark 4 intercity’.
Gwelliannau allweddol
Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau
- • Gwasanaeth newydd Maesteg ar y Sul am y tro cyntaf erioed
- Gwasanaeth newydd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, sef y tro cyntaf erioed i’r rheilffordd hon weld gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn. Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiad newydd hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.
- Dyblu nifer y gwasanaethau ar y Sul rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, gan gynyddu o 14 o wasanaethau rhwng y ddwy ddinas i 29.
- Bydd gwasanaethau o Gaerdydd i Gaerloyw yn dechrau ddwy awr yn gynharach nac yn ystod amserlen Rhagfyr 18
- Ar y rhan fwyaf o wasanaethau’r Gororau, rhoddir y gorau stopio mewn gorsafoedd rhwng yr Amwythig a Crewe (yn lle hynny darperir gwasanaeth gwennol lleol o’r Amwythig i Crewe). Mae hyn yn golygu teithiau uniongyrchol cyflymach
- Yn ogystal, bydd gwasanaethau siopa ychwanegol rhwng Crewe a’r Amwythig yn rhoi nifer sylweddol o wasanaethau newydd i bobl yn Swydd Amwythig a Swydd Gaer wrth deithio ar ddydd Sul. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cynyddu o 9 gwasanaeth y dydd i 16.
- Ar hyn o bryd, nid yw TrC yn rhedeg ond un gwasanaeth ar y Sul rhwng Pwllheli a Machynlleth. Mae TrC yn cynyddu hyn i bum gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad, gan roi mwy o opsiynau i bobl nac erioed o’r blaen
- Mae gwell gwasanaeth rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn golygu cynnydd o 16 gwasanaeth i 21
- Mae’r gwasanaeth haf cyfredol rhwng Caer a Crewe yn troi’n wasanaeth gydol y flwyddyn
- Gydol y flwyddyn o Landudno i Gyffordd Llandudno. Ni fu gwasanaeth ar y Sul yn ystod y gaeaf ar y llwybr hwn o’r blaen, gan olygu y bu’n rhaid i unrhyw un a oedd yn dymuno ymweld â’r dref rhwng Rhagfyr a Mai ddefnyddio Cyffordd Llandudno. Fis Rhagfyr eleni, bydd 32 gwasanaeth newydd sbon rhwng y ddau le yn cael eu cyflwyno
Rheilffyrdd y Cymoedd
- Gwasanaeth llawer helaethach ar ddydd Sul ar reilffordd Rhymni, gyda 7 o wasanaethau ychwanegol rhwng Rhymni a Chaerdydd, yn ogystal â bron â threblu’r gwasanaethau i/o Gaerffili – 16 bob dydd Sul nawr, ac yna 45 o fis Rhagfyr ymlaen.
- Gwasanaeth bob awr rhwng Treherbert a Chaerdydd, gan gynyddu cyfanswm y gwasanaethau dydd Sul o 15 nawr i 28.
- Gwasanaeth gwell ar ddydd Sul i Ynys y Barri (tebyg i’r amserlen haf gyfredol, yn rhedeg gydol y flwyddyn)
- Bydd y gwasanaeth gwennol o Gaerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd yn cynyddu o 100 o wasanaethau ar ddydd Sul i 130, a bydd yn rhedeg tan 22:00, i roi mwy fyth o ddewisiadau i bobl allu mwynhau ardal y Bae ar nos Sul cyn dod yn ôl ar gyfer cysylltiadau ymlaen. O’r blaen, roedd y gwasanaethau’n dod i ben am 19:00 ar nos Sul – sy’n golygu y bydd tair awr yn ychwanegol o wasanaeth i gwsmeriaid.
- Gwasanaeth newydd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, sef y tro cyntaf erioed i’r rheilffordd hon weld gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn. Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiad newydd hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.
- Arfordir Gogledd Cymru – bydd trenau ychwanegol sy’n rhedeg dros yr haf bellach ar waith gydol y flwyddyn, gan roi mwy o gysondeb i gwsmeriaid o ran gwasanaeth