Llinell Dyffryn Conwy

Ysgrifennwn i roi gwybod ichi y byddwn yn gwneud rhagor o waith cydnerthedd hanfodol cyn bo hir

ar linell reilffordd Dyffryn Conwy. Er mwyn gwneud y gwaith hwn mewn modd diogel ac effeithiolbydd y llinell, sy’n rhedeg rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ar gau o 21:30 ar nos Wener 22 Tachwedd i 10.30 ar fore Sul 15 Rhagfyr. Hoffem hefyd eich gwahodd i ddod i’r digwyddiadaugalw heibio y byddwn yn eu cynnal i roi diweddariad ichi am y gwaith hwn.

Fel y gwyddoch, o bosibl, cafwyd llifogydd difrifol yn y gwanwyn a achosodd ddifrod sylweddol.Roedd y llinell reilffordd ar gau er mwyn inni allu gwneud atgyweiriadau helaeth i chwe milltir o’rtrac, deg croesfan wastad, naw cwlfert a gorsaf Dolgarrog, a chafodd ei hailagor yn yr haf cyn yr Eisteddfod.

Mae arolygon wedi datgelu bod angen rhagor o waith cydnerthedd er mwyn lleihau ymhellach y perygl y bydd yn rhaid cau’r llinell reilffordd hanfodol hon eto yn y dyfodol. Tra bydd y llinell ar gau dros dro bydd ein peirianwyr yn gweithio dydd a nos i osod mwy na 600 o folltau craig yn Nhwnnel Ffestiniog, gosod sliperi newydd yn lle rhai hen ar hyd y llinell a chwblhau gwaith hanfodol i reoli llystyfiant.

Rydym hefyd yn parhau i wneud gwaith i adnewyddu’r platfform a ddifrodwyd gan y llifogydd yngngorsaf Dolgarrog, a fydd yn dal i fod ar gau hyd nes y bydd y gwaith hanfodol hwn wedi’i gwblhau. Bydd y gwaith yn yr orsaf yn cynnwys stancio, sy’n golygu gyrru stanciau dur i’r ddaear ganddefnyddio cerbydau ffyrdd/rheilffyrdd sydd â gyrdd ynghlwm wrthynt. Gweithgaredd swnllyd yw stancio a byddwn yn gwneud ein gorau glas i leihau sŵn diangen gymaint ag sy’n bosibl ac i gwblhau pob stanc cyn gynted ag y gallwn. Hoffem ddiolch ichi ymlaen llaw am eich amynedd yn ystod y gwaith hanfodol hwn.

Eisiau gwybod mwy?

Hoffem eich gwahodd i’n digwyddiadau galw heibio ar:

  • ddydd Mawrth 5 Tachwedd yn Neuadd Gynadledda a Chyfarfod Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF o 15:00 i 18:30.
  • dydd Mercher 6 Tachwedd yn swyddfa Cyngor Tref Ffestiniog, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES, o 15:00 i 18:00.Bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac nid oes angen gwneud apwyntiad.

    Network Rail Infrastructure Limited

    Registered office: 1 Eversholt Street, London, NW1 2DN Registered in England and Wales No. 2904587

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefanwww.networkrail.co.uk/communities/living-by-the-railway/, ffoniwch ein Llinell Gymorth Genedlaethol 24 awr ar 03457 11 41 41 neu anfonwch neges e-bost at crwales@networkrail.co.uk.

A fydd effaith ar wasanaethau rheilffordd?

Mae Network Rail yn gweithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied odarfu ag sy’n bosibl yn ystod y gwaith hwn a bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau. Cynghorir teithwyr i wirio eu taith cyn cychwyn arni ar www.nationalrail.co.uk

Rwy’n gobeithio bod y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ac yn diolch ichi am fod yn amyneddgar gydani wrth inni adeiladu rheilffordd well i Gymru a’r Gororau.

Yn gywir

Rebecca Heeley
Rheolwr Cysylltiadau Cymunedol Network Rail Cymru a’r Gororau