Cyhoeddi tref hanesyddol yng Ngogledd Cymru fel y lleoliad ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018

Mae’r Gweinidog Amddiffyn Earl Howe wedi cyhoeddi y bydd degfed digwyddiad cenedlaethol Armed Forces Day yn cael ei gynnal yn ac o amgylch tref Llandudno ym mwrdeistref sirol Conwy, Gogledd Cymru

Cefnogir y digwyddiad yn y dref hanesyddol arfordirol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ynghyd â Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru

Fe ddaw’r cyhoeddiad wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ledled y DU i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan gynnwys digwyddiad cenedlaethol eleni sy’n cael ei gynnal yn Ninas Lerpwl. Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymuno â Phrif Arglwydd y Morlys â miloedd o bobl yn nathliadau De Cymru yng Nghaerffili i anrhydeddu gwaith ac ymroddiad ein Milwyr dewr sy’n gweithio ym mhob cwr o’r byd.

Arriva Trains Wales

Diwrnod y Lluoedd Arfog

25 June 2018

Diwrnod y Lluoedd Arfog: ArmedForcesDay

Mae Trenau Arriva Cymru’n cynghori pobl sydd eisiau mynd i ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno ar 30 Mehefin i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw ac i ddisgwyl i’r trenau i’r dref fod yn brysur iawn.

Mae Trenau Arriva Cymru’n cynghori pobl sydd eisiau mynd i ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno ar 30 Mehefin i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw ac i ddisgwyl i’r trenau i’r dref fod yn brysur iawn.

Disgwylir i filoedd o bobl fynd i Landudno yn ddiweddarach y mis hwn pan fydd y dref yn croesawu dathliadau Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig i dalu teyrnged i aelodau o’r lluoedd arfog ddoe a heddiw.

Mae’r gwaith o gynllunio’r digwyddiad yn mynd rhagddo ers misoedd a chan hynny mae gwasanaethau rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno wedi cael eu hatgyfnerthu. Ond disgwylir i fwy na 100,000 o bobl fod yn bresennol ac felly bydd y trenau’n brysur iawn, yn enwedig oherwydd y cynhelir Rasys Caer ar yr un diwrnod.

Dylai ein cwsmeriaid ddisgwyl y bydd ciwiau a diolchwn iddynt am eu hamynedd.

ArmedForcesDay2

ArmedForcesDay2

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru, Bethan Jelfs: “Ddylen ni byth anghofio ymroddiad ein lluoedd arfog i ni ac i ddiogelu ein rhyddid. Felly rydyn ni’n falch iawn y cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno. Dylai cwsmeriaid sy’n dod i fod yn rhan o’r diwrnod gynllunio eu taith yn ofalus. Er ein bod wedi atgyfnerthu gwasanaethau cymaint ag sy’n bosibl, bydd yn dal i fod yn ddiwrnod prysur iawn a diolchwn i chi am eich amynedd.”

Bydd mesurau rheoli torfeydd ar waith yn Llandudno a gorsafoedd allweddol eraill wrth i Drenau Arriva Cymru weithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail i symud pobl yn ddiogel.

Bydd gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (British Transport Police) fwy o bresenoldeb yn Llandudno a’r tu hwnt er mwyn rhwystro, darganfod a tharfu ar droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Cleland: “Ar ôl misoedd o waith cynllunio manwl rydyn ni’n gyffrous bod Diwrnod y Lluoedd Arfog bron â chyrraedd. Mae’n bosibl y bydd hyd at 100,000 o ymwelwyr yn cyrraedd dydd Sadwrn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiad prysur a chyffrous.

“Oherwydd y torfeydd mawr, gall pobl ddisgwyl gweld mwy o waith plismona. Bydd swyddogion yr heddlu yn amlwg iawn yn y gorsafoedd ac ar drenau a byddan nhw wrth law i gynnig help i gael teithwyr i ac o’r digwyddiad yn ddiogel.

“Efallai y bydd ymwelwyr yn gweld swyddogion ag arfau tanio yn patrolio, a gobeithio y bydd hynny’n tawelu eu meddyliau. Dwi’n pwysleisio nad yw hyn yn ymateb i unrhyw gudd-wybodaeth; yn hytrach rydyn ni’n sicrhau y gall ein swyddogion ymateb yn gyflym ac yn benderfynol i unrhyw ddigwyddiad – beth bynnag y bo.

“Gall teithwyr chwarae eu rhan hefyd. Chi yw llygaid a chlustiau’r rhwydwaith rheilffyrdd ac wrth i filoedd lawer o bobl ychwanegol deithio i Landudno, dwi’n pwyso arnoch chi i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus neu droseddol.

“Ni ddylid ystyried unrhyw beth yn rhy ddibwys – rhowch wybod i ni am eich pryderon a bydd ein swyddogion heddlu arbenigol yn ymchwilio.”

 

LlandudnoJunction&Conwy2018.05.17-16

LlandudnoJunction&Conwy2018.05.17-16

Meddai Tim Ball, prif swyddog gweithredu dros dro Network Rail yng Nghymru a’r Gororau: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Trenau Arriva Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i baratoi ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog ar 30 Mehefin, ac rydyn ni’n falch i chwarae ein rhan wrth groesawu miloedd o ymwelwyr i Landudno ar gyfer y digwyddiad hwn.

“Rydyn ni’n pwyso ar deithwyr i gynllunio eu teithiau digon ymlaen llaw, gan ganiatáu amser teithio ychwanegol oherwydd disgwylir i’r trenau a’r gorsafoedd, yn ogystal â mathau eraill o drafnidiaeth, fod yn brysur iawn yn Llandudno a’r cyffiniau.”

Gall unrhyw un roi gwybod am drosedd neu ymddygiad amheus, yn syml ac yn gyfrinachgar, i’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig trwy anfon neges destun i 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.