Peirianwyr benyw yng Nghymru’n annog menywod a merched i ystyried gyrfaoedd ym maes peirianneg

Mae peirianwyr benyw yng Nghymru o bob rhan o’r diwydiant rheilffyrdd yn galw ar i fwy o fenywod a merched ystyried gyrfaoedd ym maes peirianneg cyn Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ar 23 Mehefin.

Mae Alison Thompson, cyfarwyddwr nawdd llwybr Network Rail yng Nghymru a’r Gororau, yn gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd ers mwy na 28 mlynedd, ar ôl hyfforddi fel peiriannydd yn y brifysgol.

Meddai Alison: “A finnau’n beiriannydd sifil, gallaf addo nad yw peirianneg i ddynion a bechgyn yn unig. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant i annog mwy o fenywod a merched i ddod i weithio i’r rheilffyrdd. Mae’r cyfleoedd i gael profiad a chyfrifoldeb yn enfawr, o ran dylunio, adeiladu, gwaith safle, gwaith swyddfa ac ymgysylltu ag amrywiaeth fawr iawn o randdeiliaid.

“Mae’n adeg gyffrous iawn i ddod i mewn i’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau, ar ôl i werth £5 biliwn o fuddsoddiad gael ei gyhoeddi’n ddiweddar fel rhan o’r fasnachfraint newydd. I gyflawni dros ein teithwyr a’n cymunedau, mae angen inni adeiladu ar y gweithlu talentog, mentrus a brwdfrydig sydd gennym ni eisoes, er mwyn sicrhau bod ein pobl yn cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Ar ôl hyfforddi fel peiriannydd, mae Alison wedi cael gyrfa sydd wedi cynnwys rheoli prosiectau, peirianneg dylunio ac arwain y gwaith o gyflawni prosiectau signalau. Yn ei swydd bresennol mae’n cefnogi prosiectau trwy gyfnod eu datblygu a’u cyflawni, boed ailadeiladu pont neu orsaf reilffordd newydd. Mae Alison a’i thîm yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y cleient, y cyllidwr a’r peirianwyr sy’n gweithio ar y prosiect, gan gydweithio’n agos â’r holl dimau sy’n rhan o’r gwaith, er mwyn sicrhau y caiff y prosiect ei gyflawni’n llwyddiannus.

Mae Louise Bungay-Azman yn beiriannydd asedau i Network Rail yng Nghymru a’r Gororau. Mae  Louise yn gweithio o Gaerdydd ac yn gyfrifol am gynnal a chadw holl strwythurau Network Rail yng nghanolbarth a dwyrain Cymru. Astudiodd beirianneg sifil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Louise: “Fy nghyngor i ferched ifanc yw  – ewch amdani. Peidiwch â gadael i neb ddweud na allwch chi. Mae cynifer o wahanol gyfleoedd ar gael ichi mewn gyrfa ym maes peirianneg, ewch allan a mynnwch wybod beth sydd orau i chi. Dwi’n gwybod nad ydw i’n ddiduedd ond mae hon yn swydd wirioneddol wych.

“Peiriannydd priffyrdd oedd fy nhad a dwi’n cofio’n blentyn bydden ni’n gyrru ar hyd ffordd a byddai’n dweud ‘Fi ddyluniodd hon’. Roeddwn i wrth fy modd â’r syniad y gallech chi, fel peiriannydd, fod â pherchnogaeth ar rywbeth a chael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, er gwell.”

Mae Louise, ynghyd â thîm o beirianwyr asedau eraill, yn gyfrifol am gynnal a chadw strwythurau Network Rail fel pontydd, traphontydd, waliau, twneli ac amddiffynfeydd rhag y môr. Mae ei swydd yn golygu edrych ar ôl yr asedau o’r adeg y cânt eu gosod, gan wneud gwaith cynnal a chadw pan fo angen.

A hithau hefyd yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, roedd gan Tina Rees, rheolwr diogelwch fflyd Trenau Arriva Cymru sylwadau i’w gwneud ar werth annog menywod i weithio ym maes y rheilffyrdd. Meddai Tina: “Mae prentisiaid benyw’n hanfodol i gynllunio ar gyfer olyniaeth yn ein busnes ni ac mae’n hynod o bwysig inni ddenu’r ymgeiswyr iawn. Mae ein prentisiaid benyw wedi dangos nad yw rhywedd yn rhwystr ac mae un o’n prentisiaid, Chloe Thomas, wedi ennill un o wobrau cenedlaethol Prentis y Flwyddyn.

“Rydyn ni’n falch o’n rhaglen prentisiaid fflyd ac yn gobeithio y bydd llawer mwy o fenywod yn gwneud cais am swyddi gyda’r fflyd yn y dyfodol, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o weddnewid y rheilffyrdd yng Nghymru.”

1311NRheads98-Edit

1311NRheads98-Edit

Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Mae Chwarae Teg yn gweithio gyda menywod a merched i ddangos iddyn nhw na ddylai eu huchelgais byth gael ei gyfyngu gan eu rhywedd. Mae’r sector peirianyddol yn cynnig rhai o’r swyddi mwyaf diogel â chyflogau mawr, ac ni ddylai menywod deimlo eu bod yn cael eu cau allan o’r cyfleoedd hyn.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n wynebu bwlch sgiliau enfawr yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, a honnir bod angen i nifer y graddedigion peirianneg ddyblu erbyn 2020 er mwyn bodloni’r galw. Ar hyn o bryd dim ond 11% o’r gweithlu peirianyddol sy’n fenywod – felly mae cronfa anferth o dalent bosibl ar gael, a gall mwy o beirianwyr benyw helpu i gau’r bwlch hwn. Mae Chwarae Teg yn gweithio gyda’r sector i wneud swyddi peirianyddol yn fwy hygyrch i fenywod yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd, dim ond rhyw 11% o gwmnïau peirianyddol sy’n cynnig gweithio hyblyg, ac mae angen i hyn newid.

“Mae ein rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ddatblygu arferion gweithio modern sydd o fudd i’r holl weithwyr ac sy’n gwella amrywiaeth fel y gall pawb wireddu ei botensial.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r chwyldro ar y rheilffyrdd yng Nghymru edrych ar wefannau Network Rail a Threnau Arriva Cymru, lle mae toreth o gyfleoedd, o brentisiaethau a chynlluniau i raddedigion i brofiad gwaith – ewch i https://www.networkrail.co.uk/careers/ a https://www.comeaboard.co.uk/jobs