{"id":5644,"date":"2020-12-23T14:53:26","date_gmt":"2020-12-23T14:53:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/"},"modified":"2024-02-15T17:10:57","modified_gmt":"2024-02-15T17:10:57","slug":"walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/","title":{"rendered":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#8217;r teithiau lleol a golygfaol hyn"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Nadolig yn dymor i dreulio amser gydag anwyliaid, rhannu anrhegion a &#8230; bwyta gormod? Wel, wrth gwrs \u2013 ac mae&#8217;r holl fwyd chwaethus hwnnw&#8217;n cymryd ei doll!<\/p>\n<p>Y rhan gwaethaf o orwneud pethau yw teimlo&#8217;n swrth. Does neb eisiau cwympo i gysgu ar y soffa a cholli allan ar amser mor braf o&#8217;r flwyddyn!<\/p>\n<p>Un awgrym felly, fyddai magu traed yn lle magu bol, a mynd am dro i dreulio&#8217;ch cinio. Does dim rhaid mynd yn bell o Reilffordd Dyffryn Conwy i ddod o hyd i deithiau cerdded hardd a hawdd. Cymerwch anadl ddofn o awyr iach gogledd Cymru i glirio\u2019ch pen a miniogi&#8217;ch ymennydd unwaith eto i chi gael chwarae gemau gyda&#8217;r nos.<\/p>\n<p>Felly bachwch <a href=\"https:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/cy\">docyn diwrnod rhad<\/a> ar gyfer lein Dyffryn Conwy a gadewch i ni fynd am dro Nadoligaidd.<\/p>\n<h2>Cylchdro\u2019r Gogarth, Llandudno<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-746 size-full\" src=\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\" alt=\"\" width=\"640\" height=\"480\" \/><\/p>\n<p>\u2019Dan ni&#8217;n eich herio i feddwl am daith pedair milltir fwy ysblennydd yn y wlad na&#8217;r cylchdro o amgylch y Gogarth.<\/p>\n<p>Uwch eich pennau, mae\u2019r clogwyni calchfaen 320 miliwn mlwydd oed yn adlewyrchu haul gwantan y gaeaf, tra bod y m\u00f4r yn berwi cannoedd o droedfeddi oddi tanoch. Er mai ffordd gyhoeddus ydi hi, mae llwybr troed yr holl ffordd o\u2019i chwmpas, gyda digon o feinciau i stopio a gorffwys, ac wrth gwrs &#8211; gyda gofal &#8211; digonedd o lefydd i archwilio.<\/p>\n<p>Os \u2019dach chi&#8217;n teimlo&#8217;n egn\u00efol, cymerwch dro i fyny at Eglwys Sant Tudno, addoldy sydd \u00e2&#8217;r gwynt yn ysgubo drosto, a chael cipolwg o\u2019i chwmpas. Hon oedd eglwys wreiddiol Llandudno, ac mae\u2019n sefyll ar safle eglwys gynharach a adeiladwyd yn y chweched ganrif.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l ar Marine Drive mi fyddwch chi\u2019n pasio goleudy (sy bellach yn llety gwely a brecwast), ac ychydig ymhellach ymlaen fe welwch Ffynnon Gaseg yn cysgodi mewn wal. Adeiladwyd y ffynnon i ddarparu d\u0175r i geffylau wrth adeiladu&#8217;r ffordd.<\/p>\n<p>Gan droi yn \u00f4l tuag at Ben Morfa fe gewch fwynhau\u2019r golygfeydd gwych hyd at Ynys M\u00f4n, Ynys Seiriol a mynyddoedd y Carneddau ac Eryri, cyn i chi ddychwelyd i Landudno wedi eich adfywio ac, a feiddiwn ni ei ddweud, yn ffansio mins pei arall?<\/p>\n<h2>Llyn Elsi, uwchben Betws-y-Coed<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1042 size-full\" src=\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/1aa01460fea2432c998f79f31e68e9e2.jpeg\" alt=\"\" width=\"580\" height=\"387\" \/><\/p>\n<p>Byddwch yn sicr o adfer unrhyw orwneud Nadoligaidd gyda&#8217;r daith gerdded bedair milltir hon! O&#8217;r orsaf drenau ym mhentref alpaidd Betws-y-Coed, anelwch am yr eglwys yng nghanol y pentref. Cerddwch i fyny un o\u2019r ffyrdd wrth ei hochr, a thu \u00f4l i&#8217;r iddi fe ddewch o hyd i gi\u00e2t a bwrdd gwybodaeth sy\u2019n arwyddo cychwyn y daith.<\/p>\n<p>Cymerwch anadl ddofn, oherwydd mae\u2019r darn gyntaf yn serth, ond mae yna fainc hanner ffordd i fyny os oes angen gorffwys arnoch chi. Cyn bo hir, mi fydd y llwybr caregog yn gwastat\u00e1u cyn plethu ei ffordd trwy gonwydd tal Coedwig Gwydir, gan ddod allan ar lannau llonydd Llyn Elsi. Gwerthfawrogwch y foment honno pan gyrhaeddwch y lan, pan na allwch weld dim ond d\u0175r, coed a mynyddoedd. Bendigedig!<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i chi grwydro o gwmpas yr olygfan gyda&#8217;i graig fawr, gallwch ddewis un ai cerdded o amgylch y llyn yn glocwedd, neu gerdded yn erbyn y cloc. Os ydych chi\u2019r math o gerddwr sy&#8217;n colli\u2019ch ffordd yn hawdd, mae\u2019r llwybr ychydig yn well i\u2019w ddilyn os cerddwch o amgylch y llyn i gyfeiriad gwrthglocwedd. Mae&#8217;r llwybr yn glir iawn, felly byddai&#8217;n rhaid gwneud ymdrech mawr i fynd ar goll!<\/p>\n<p>Hyd yn oed wrth fynd yn hamddenol, a chymryd eich amser i fwynhau&#8217;r golygfeydd, mae&#8217;n daith gerdded na ddylai gymryd mwy na dwy awr i\u2019w cwblhau. Adref mewn hen bryd felly i glywed araith y Cw\u00een.<\/p>\n<h2>Dyffryn Lledr, ger Dolwyddelan<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-439 size-full\" src=\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/05\/Conwy-Valley-Railway-271.jpg\" alt=\"\" width=\"4608\" height=\"3456\" \/><\/p>\n<p>Mae lein Dyffryn Conwy yn crwydro drwy Ddyffryn Lledr ar \u00f4l aros ym Metws-y-Coed, ac mae\u2019n lle hyfryd o dawel. Mae\u2019n dilyn nentydd a rhaeadrau Afon Lledr cyn cyrraedd pentref distaw Dolwyddelan, yng nghalon y dyffryn. Os gadewch y tr\u00ean yma, fe gewch deithiau cerdded gwych i bob cyfeiriad.<\/p>\n<p>Mae ein taith ni yn gadael Dyffryn Lledr mewn gwirionedd, gan fynd i&#8217;r de at Gwm Penamnen. Yn llai na dwy filltir o hyd, mae&#8217;r daith gwastad hon yn pasio man picnic tawel ar lan yr afon &#8211; er mai bwyd fyddai&#8217;r peth olaf ar eich meddyliau &#8211; ac adfeilion annedd hynafol. Mi fyddwch yn crwydro trwy goedwig, gweld rhaeadrau hyfryd, ac yn annhebygol iawn o gwrdd \u00e2 dim un enaid arall.<\/p>\n<p>O faes parcio&#8217;r orsaf trowch i&#8217;r chwith at y ffordd, i&#8217;r chwith eto dros y bont, wedyn unwaith eto i&#8217;r chwith nesaf. Dilynwch y llwybr goedwig ar eich llaw dde er mwyn gadael y pentref. Yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd fforch &#8211; cadwch i&#8217;r dde a pharhewch i lawr tuag at yr afon. Trowch i&#8217;r dde eto oddi ar y prif lwybr ac yna ewch i lawr llwybr naturiol at yr afon. Croeswch y bont droed i&#8217;r man picnic.<\/p>\n<p>Wedyn trowch i&#8217;r dde i&#8217;r l\u00f4n, gan basio adfeilion Tai Penamnen. Mae&#8217;n anodd credu bod hwn, ar un adeg, wedi bod yn gartref mawreddog i Maredudd ab Ieuan, sylfaenydd llinach bwerus y Wyniaid, a oedd yn berchen ar ran fwyaf o dir yr ardal yn y 15fed ganrif.<\/p>\n<p>Cariwch ymlaen ar hyd y l\u00f4n yn \u00f4l at y pentref. Cadwch lygad allan am fwy o raeadrau wrth i&#8217;r afon disgyn i lawr tuag at Ddolwyddelan.<\/p>\n<h2>Taith Rhaeadr a Llyn, Blaenau Ffestiniog<\/h2>\n<p>Yn cuddio y tu \u00f4l i dai teras llechi Blaenau mae llynnoedd a rhaeadrau na chlywyd amdanynt gan lawer o ymwelwyr.<\/p>\n<p>O&#8217;r orsaf, anelwch am y stryd fawr a throwch i&#8217;r dde. Wedyn cerddwch am tua hanner milltir i bentref Bethania, heibio i dafarn Y Manod. Pasiwch droad ar y dde ger blwch postio, wedyn ar ochr chwith y ffordd fe welwch drac yn arwain at gamfa y tu \u00f4l i&#8217;r tai. Mae&#8217;r gamfa yn dod \u00e2 chi at drac lle byddwch chi&#8217;n troi i&#8217;r chwith.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r trac hwn yn troelli i&#8217;r dde, ac yn dringo i fyny dros raeadr Afon Du-Bach, sy&#8217;n weladwy o wahanol bwyntiau ar hyd y daith. Mae\u2019n bosib crwydro ychydig oddi ar y llwybr yma, gan adael y trac ychydig cyn arglawdd creigiog, i gael cipolwg agosach ar y rhaeadr.<\/p>\n<p>Yna mae&#8217;r trac yn troi i&#8217;r dde i ddringo heibio tomenni llechi at gronfeydd Llyn Dwr-oer. Ychydig cyn eu cyrraedd, mae\u2019r llwybr yn troi i&#8217;r dde eto, gan basio inclein rhwng y cronfeydd d\u0175r, cyn troi n\u00f4l i&#8217;r chwith i ddringo i fyny at lyn diarffordd Llyn y Manod, a diwedd y daith. Cymerwch saib bach yma, \u2019dach chi wir yn ei haeddu!<\/p>\n<p>Nawr, does dim ond i chi olrhain eich camau yn \u00f4l at Flaenau, a mwynhau&#8217;r golygfeydd wrth i chi fynd am adref.<\/p>\n<p>Rhannwch eich hoff deithiau cerdded gaeafol gyda ni ar <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\">Facebook<\/a> neu <a href=\"https:\/\/twitter.com\/LeinDconwyVLine\">Twitter<\/a> \u2013 \u2018dan ni wastad yn chwilio am ein hantur nesaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Nadolig yn dymor i dreulio amser gydag anwyliaid, rhannu anrhegion a &#8230; bwyta gormod? Wel, wrth gwrs \u2013 ac mae&#8217;r holl fwyd chwaethus hwnnw&#8217;n cymryd ei doll! Y rhan gwaethaf o orwneud pethau yw teimlo&#8217;n swrth. Does neb eisiau cwympo i gysgu ar y soffa a cholli allan ar amser mor braf o&#8217;r flwyddyn! [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"cybocfi_hide_featured_image":"","footnotes":""},"categories":[461],"tags":[],"class_list":["post-5644","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#039;r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#039;r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#8217;r Nadolig yn dymor i dreulio amser gydag anwyliaid, rhannu anrhegion a &#8230; bwyta gormod? Wel, wrth gwrs \u2013 ac mae&#8217;r holl fwyd chwaethus hwnnw&#8217;n cymryd ei doll! Y rhan gwaethaf o orwneud pethau yw teimlo&#8217;n swrth. Does neb eisiau cwympo i gysgu ar y soffa a cholli allan ar amser mor braf o&#8217;r flwyddyn! [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-23T14:53:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-15T17:10:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\"},\"author\":{\"name\":\"Karen Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\"},\"headline\":\"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#8217;r teithiau lleol a golygfaol hyn\",\"datePublished\":\"2020-12-23T14:53:26+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-15T17:10:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\"},\"wordCount\":1155,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\",\"name\":\"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda'r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\",\"datePublished\":\"2020-12-23T14:53:26+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-15T17:10:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#8217;r teithiau lleol a golygfaol hyn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\",\"name\":\"Karen Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda'r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda'r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Mae&#8217;r Nadolig yn dymor i dreulio amser gydag anwyliaid, rhannu anrhegion a &#8230; bwyta gormod? Wel, wrth gwrs \u2013 ac mae&#8217;r holl fwyd chwaethus hwnnw&#8217;n cymryd ei doll! Y rhan gwaethaf o orwneud pethau yw teimlo&#8217;n swrth. Does neb eisiau cwympo i gysgu ar y soffa a cholli allan ar amser mor braf o&#8217;r flwyddyn! [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_published_time":"2020-12-23T14:53:26+00:00","article_modified_time":"2024-02-15T17:10:57+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg"}],"author":"Karen Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Williams","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/"},"author":{"name":"Karen Williams","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61"},"headline":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#8217;r teithiau lleol a golygfaol hyn","datePublished":"2020-12-23T14:53:26+00:00","dateModified":"2024-02-15T17:10:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/"},"wordCount":1155,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/","name":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda'r teithiau lleol a golygfaol hyn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg","datePublished":"2020-12-23T14:53:26+00:00","dateModified":"2024-02-15T17:10:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg","contentUrl":"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/IMG_2025.jpeg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2020\/12\/23\/walk-off-christmas-dinner-with-these-scenic-local-strolls\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cerddwch eich cinio Nadolig i ffwrdd gyda&#8217;r teithiau lleol a golygfaol hyn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61","name":"Karen Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Williams"},"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5644","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5644"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5644\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5645,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5644\/revisions\/5645"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5644"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5644"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5644"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}