{"id":5360,"date":"2023-07-24T15:18:46","date_gmt":"2023-07-24T14:18:46","guid":{"rendered":"http:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/"},"modified":"2024-02-14T19:55:50","modified_gmt":"2024-02-14T19:55:50","slug":"alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/","title":{"rendered":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn"},"content":{"rendered":"<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i\u2019n cymdogion ar y cyfandir, sy\u2019n bwyta ac yn yfed yn yr awyr agored gydol y flwyddyn bron, bydd tywydd anwadal ein hynys yn aml yn penderfynu a ydym yn mwynhau diodydd yn yr ardd ynteu swper ar hambwrdd o flaen y teledu!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os ydych chi\u2019n bwriadu dod i Ogledd Cymru yn ystod yr haf ac yn mwynhau bwyta allan, mae gwledd yn eich aros! Mae\u2019r ardal yn llawn tafarnau a bwytai braf sy\u2019n cynnig y cyfuniad perffaith o leoliadau deniadol yn yr awyr agored a phrydau bwyd blasus i\u2019w mwynhau. O dafarnau cefn gwlad hynafol i fwytai ffasiynol ar yr arfordir, mae rhywbeth i blesio pob chwaeth. Ac, yn well byth, mae rhai o\u2019r mannau bwyta gorau o fewn pellter cerdded hawdd neu siwrnai fer mewn tacsi o\u2019r orsaf \u2013 ni fydd yn rhaid i neb wirfoddoli i yrru!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn y blog hwn, mi ydym yn cyflwyno ein hoff dafarnau lle cewch fwyta yn yr awyr agored \u2013 os ydych yn chwilio am rywle sy\u2019n addas i\u2019r teulu cyfan, rhywle sy\u2019n croesawu c\u0175n neu bryd rhamantus i ddau, rydych yn si\u0175r o ddod o hyd i\u2019r lle perffaith i fwynhau gwledda yn ystod yr haf.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r tafarnau a\u2019r bwytai rydym wedi\u2019u dewis i gyd yn agos at naill ai Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. Cofiwch wirio\u2019r amserlen ar <\/span><a href=\"blank\"><span style=\"font-weight: 400;\">Traveline Cymru<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> cyn cychwyn, i wneud yn si\u0175r bod gennych ffordd o gyrraedd adref!<\/span><\/p>\n<h2><strong>The Cottage Loaf &#8211; <em>Llandudno\u00a0<\/em><\/strong><\/h2>\n<figure id=\"attachment_2529\" aria-describedby=\"caption-attachment-2529\" style=\"width: 2000px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2529 size-full\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\" alt=\"\" width=\"2000\" height=\"1333\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2529\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9 The Cottage Loaf<\/figcaption><\/figure>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Fel un o\u2019r tafarnau hynaf yn nhref glan m\u00f4r Llandudno, mae\u2019r <\/span><a href=\"https:\/\/the-cottageloaf.co.uk\"><span style=\"font-weight: 400;\">Cottage Loaf<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0yn dafarn glyd sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei hawyrgylch cynnes a chroesawgar drwy gydol y flwyddyn. Ond yn yr haf mae\u2019r dafarn guddiedig hon yn dod i\u2019w bri. Gyda\u2019i libart caeedig yn y cefn a theras eang llawn blodau yn y ffrynt, mi fydd gennych ddigon o ddewis wrth benderfynu lle rydych am eistedd i ddal yr haul. Os bydd yr awel yn fain, mi allwch ddewis o blith y mannau bwyta dan do; ac mae drysau sy\u2019n agor i\u2019r libart i gael y gorau o\u2019r ddau fyd!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Rydym wrth ein bodd \u00e2\u2019r Cottage Loaf am ei bod yn dafarn ddelfrydol ar gyfer pob achlysur. Mae\u2019n croesawu teuluoedd <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">a <\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">ch\u0175n tu allan, ac mi ydych yn si\u0175r o gael croeso cynnes gyda digon o bobl i sgwrsio \u00e2 hwy \u2013 yn bobl leol ac ymwelwyr. Ond, os mai diod fach dawel \u00e2 rhywun arbennig sy\u2019n mynd \u00e2\u2019ch bryd, mae digon o gilfachau bach tawel lle gallwch ymlacio a mwynhau\u2019r awyrgylch.\u00a0<\/span><\/p>\n<h2><\/h2>\n<h2><strong>Tal-y-Cafn &#8211; <em>Tal-y-Cafn<\/em><\/strong><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os ydych yn chwilio am dafarn sy\u2019n agos at orsaf, dyma\u2019r un i chi! Mae y drws nesaf i blatfform gorsaf Tal-y-Cafn, ac mae\u2019r dafarn o\u2019r un enw yn gyrchfan boblogaidd yn Nyffryn Conwy. Mae\u2019r dafarn yn ymfalch\u00efo yn ei dec haul sydd yn llygad yr haul, ac mi fydd yn anodd llusgo eich hun oddi yno pan fydd yr haul yn machlud ar draws y dyffryn \u2013 mae\u2019r golygfeydd yn anfarwol! Ac yn goron ar y cyfan? Mae bar awyr agored yn golygu na fydd yn rhaid i chi fynd ymhell i ail-lenwi eich gwydr.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Fel y Cottage Loaf, mae <\/span><a href=\"https:\/\/www.talycafn.wales\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">Tal-y-Cafn<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> yn croesawu teuluoedd, c\u0175n a chyplau. I bobl, mae\u2019r fwydlen yn gymysgedd flasus o glasuron tafarn a phrydau modern a, rhag ofn eu bod yn teimlo eu bod yn cael cam, mae bwydlen bwrpasol i\u2019r c\u0175n hefyd. Os ydych wedi mwynhau gwydraid yn ormod, mae help ar gael. Mae gan y dafarn nifer o ystafelloedd chwaethus lle gallwch aros os ydych wedi colli\u2019r tr\u00ean olaf adref!\u00a0<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2541 size-full\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/IMG_2281-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"2560\" height=\"1578\" \/><\/p>\n<h2><strong>Y Stablau, Gwesty\u2019r Royal Oak &#8211; <em>Betws-y-coed<\/em><\/strong><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Fel un o\u2019r adeiladau enwocaf yng nghanol Betws-y-coed, dechreuodd Gwesty\u2019r Royal Oak fel gwesty ar gyfer y goets fawr a deithiai o Lundain i Gaergybi. Roedd yn fan aros poblogaidd i bobl oes Fictoria a oedd yn awyddus i brofi\u2019r golygfeydd alpaidd ac mae poblogrwydd y pentref yn parhau hyd heddiw. Mi allwch chwithau hefyd fwynhau awyr iach y mynyddoedd yn <\/span><a href=\"http:\/\/www.ystablau.com\"><span style=\"font-weight: 400;\">Y Stablau<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">, y bar bistro ffyniannus sy\u2019n rhan o\u2019r gwesty. Llai na phum munud o gerdded o\u2019r orsaf, mae gan Y Stablau deras mawr, dan do, gyda goleuadau lliwgar, dodrefn pren cadarn a gwresogyddion patio, sy\u2019n golygu y gallwch fod yn yr awyr agored gydol y flwyddyn heb boeni am y tywydd anwadal!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Er bod peth o awyrgylch y caban sg\u00efo yma, mae\u2019n dafarn Gymreig draddodiadol sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei chroeso Cymreig cynnes; mi allwch ddisgwyl llond pl\u00e2t o fwyd a dewis helaeth o ddiodydd. Mae\u2019n lle bywiog o fore tan nos, ond heb ymdeimlad ffuantus sy\u2019n golygu bod pawb yn ymlacio, sy\u2019n ei gwneud yn ddewis da i deuluoedd a chyplau. Ac mae croeso i g\u0175n hefyd!<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2542 size-full\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/IMG_2091-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"2560\" height=\"1920\" \/><\/p>\n<h2><strong>The Mulberry &#8211; <em>Conwy\u00a0<\/em><\/strong><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae tref ganoloesol Conwy yn gyrchfan sydd i\u2019w mwynhau orau ar droed ac mae ein taith gerdded i\u2019n tafarn nesaf yn sicr yn werth yr ymdrech. Wedi\u2019i lleoli ychydig y tu allan i furiau\u2019r dref ac yn edrych draw am Farina Conwy, mae\u2019r <\/span><a href=\"https:\/\/mulberryconwy.pub\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">Mulberry<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> yn cynnig y profiad bwyta arfordirol perffaith. Mae dec haul helaeth y dafarn yn ein hatgoffa o lefydd ffasiynol yn Ibiza ond gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Aber Afon Conwy a Phen y Gogarth \u2013 mae\u2019n hynod drawiadol, yn enwedig pan fydd yr haul yn machlud.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ond mae hon yn dafarn sy\u2019n croesawu\u2019r teulu cyfan \u2013 fel y gwelir yn y man chwarae awyr agored sydd ar thema m\u00f4r ladron a\u2019r fwydlen arbennig i blant. Yn naturiol, mae croeso i g\u0175n ar y dec haul ond, os bydd y tywydd yn troi, mae rhan fechan o du mewn y dafarn wedi\u2019i neilltuo i\u2019n ffrindiau pedair coes.\u00a0<\/span><\/p>\n<h2><strong>The Gazelle Hotel &#8211; <em>Porthaethwy<\/em>\u00a0<\/strong><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wedi\u2019i lleoli ar lan y Fenai, mae\u2019r <\/span><span style=\"font-weight: 400;\"><a href=\"https:\/\/www.robinsonsbrewery.com\/pubs\/gazelle-hotel-menai-bridge\/\">Gazelle Hotel<\/a> <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyta yn yr awyr agored, ac mi fydd dewisiadau di-ben-draw pan fydd yr haul yn tywynnu. O\u2019r gerddi teras braf, i\u2019r dec ar lan y d\u0175r, mi all yfwyr a bwytawyr ddilyn yr haul drwy\u2019r dydd. Rydym wrth ein bodd \u00e2 lleoliad y dafarn hon, ond a wyddoch chi fod ganddi ei thraeth bach ei hun hefyd? Mi fydd plant bach (a mawr) yn mwynhau\u2019r cyfle i ddilyn yr arfordir tra bydd gweddill y teulu\u2019n ymlacio \u00e2 diod braf gerllaw.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r fwydlen yn un fechan ond mae rhywbeth at ddant pawb ac mae\u2019n cynnwys hen ffefrynnau fel prydau ysgafn a chinio dydd Sul. Gyda cherddoriaeth fyw, barbeciws a digwyddiadau ar benwythnosau yn ystod yr haf, mae\u2019r dafarn yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr \u2013 ac mae hynny\u2019n cyfrannu at yr awyrgylch. Os ydych yn rhy fodlon eich byd i adael i ddal y tr\u00ean, mae gan y Gazelle sawl ystafell i westeion ar thema\u2019r arfordir (ac mae croeso i g\u0175n mewn tair ohonynt).\u00a0<\/span><\/p>\n<h2><strong>The Valley Hotel &#8211; <i>Y Fali<\/i><\/strong><\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400;\">Dim ond taith gerdded fer o\u2019r orsaf, mae <a href=\"https:\/\/valleyanglesey.co.uk\/\">Valley Hotel<\/a> yn cynnig croeso cynnes Cymreig a bwyd tafarn calonogol mewn bar a bwyty sydd wedi\u2019u hadnewyddu\u2019n ddiweddar. A phan mae\u2019r tywydd yn braf, pluen yn het y tafarn hwn yw\u2019r ardal awyr agored eang. Gydag ardal chwarae wych i blant, a digonedd o le i g\u0175n (mae croeso mawr iddyn nhw hefyd, wrth gwrs), gallwch fwynhau\u2019r haul ar y lawnt neu ymlacio ger Bar yr Ardd ar y teras hyfryd. Cewch ddewis o blith glasuron bwyd tafarn oddi ar Brif Fwydlen y Fali, neu dewiswch rywbeth ysgafnach o Fwydlen yr Ardd, chi biau\u2019r dewis!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400;\">Gyda 19 o ystafelloedd sydd hefyd wedi eu hadnewyddu\u2019n ddiweddar, mae Gwesty&#8217;r Fali hefyd yn fan cychwyn perffaith i chi grwydro\u2019r ynys. Mae ei leoliad yng nghanol Ynys M\u00f4n yn golygu fod holl atyniadau\u2019r ynys yn hawdd eu cyrraedd ar drenau neu drafnidiaeth gyhoeddus arall.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i\u2019n cymdogion ar y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"cybocfi_hide_featured_image":"","footnotes":""},"categories":[461],"tags":[510,511,512,485,513,474,514,465,515,516,517,493,497,518],"class_list":["post-5360","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","tag-alfresco-dining-cy","tag-alfresco-dining-wales-cy","tag-betws-y-coed-cy","tag-conwy-cy","tag-eat-north-wales-cy","tag-llandudno-cy","tag-menai-bridge-cy","tag-north-wales-cy","tag-outdoor-dining-cy","tag-outdoor-dining-in-wales-cy","tag-rhosneiger-cy","tag-tal-y-cafn-cy","tag-transport-for-wales-cy","tag-welsh-food-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i\u2019n cymdogion ar y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-07-24T14:18:46+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-14T19:55:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\"},\"author\":{\"name\":\"Karen Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\"},\"headline\":\"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn\",\"datePublished\":\"2023-07-24T14:18:46+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T19:55:50+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\"},\"wordCount\":1429,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"keywords\":[\"alfresco dining\",\"alfresco dining wales\",\"Betws y Coed\",\"Conwy\",\"eat north wales\",\"llandudno\",\"menai bridge\",\"North Wales\",\"outdoor dining\",\"outdoor dining in wales\",\"rhosneiger\",\"Tal y Cafn\",\"Transport for Wales\",\"welsh food\"],\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\",\"name\":\"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"datePublished\":\"2023-07-24T14:18:46+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T19:55:50+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\",\"name\":\"Karen Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i\u2019n cymdogion ar y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_published_time":"2023-07-24T14:18:46+00:00","article_modified_time":"2024-02-14T19:55:50+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg"}],"author":"Karen Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Williams","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/"},"author":{"name":"Karen Williams","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61"},"headline":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn","datePublished":"2023-07-24T14:18:46+00:00","dateModified":"2024-02-14T19:55:50+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/"},"wordCount":1429,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg","keywords":["alfresco dining","alfresco dining wales","Betws y Coed","Conwy","eat north wales","llandudno","menai bridge","North Wales","outdoor dining","outdoor dining in wales","rhosneiger","Tal y Cafn","Transport for Wales","welsh food"],"articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/","name":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg","datePublished":"2023-07-24T14:18:46+00:00","dateModified":"2024-02-14T19:55:50+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/The-Cottage-Loaf.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/07\/24\/alfresco-adventures-our-guide-to-eating-outdoors-this-summer\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Anturiaethau alfresco \u2013 cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61","name":"Karen Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Williams"},"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5360","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5360"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5360\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5361,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5360\/revisions\/5361"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5360"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5360"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5360"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}