{"id":5348,"date":"2023-09-25T12:26:39","date_gmt":"2023-09-25T11:26:39","guid":{"rendered":"http:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/"},"modified":"2024-02-14T18:19:33","modified_gmt":"2024-02-14T18:19:33","slug":"ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/","title":{"rendered":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400;\">Ychydig amser yn \u00f4l, mi fuon ni\u2019n bwrw golwg ar ysbrydion a bwganod Rheilffordd Dyffryn Conwy (cewch ymweld \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/2017\/10\/10\/the-ghosts-of-conwy-valley\/\">blog<\/a> yma, os ydych yn ddigon dewr!), a chan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.<\/p>\n<p>O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae\u2019r rheilffordd yn cysylltu ardaloedd sy\u2019n frith o hanesion hynod ac arswydus. Ar hyd y lein byddwch yn dod ar draws cestyll cadarn a thai crand, eglwysi hynafol a safleoedd sanctaidd, adfeilion gweithfeydd diwydiannol ac olion diwylliannau sydd wedi hen ddiflannu. Maent i gyd yn hynod ddiddorol, pob un \u00e2 hanes arbennig, ond maent hefyd yn gysylltiadau cyffyrddadwy \u00e2 phethau dirgel sy\u2019n perthyn i fyd arall&#8230;\u00a0 byd anweledig ac arallfydol.<\/p>\n<p>Erbyn meddwl, ac os ydych wedi darllen ein blog arall, nid yw\u2019n syndod dysgu fod gogledd Cymru\u2019n enwog am straeon arswyd ac ysbrydion dirifedi. P\u2019un ag ydych yn credu ynddynt neu beidio mae digwyddiadau goruwchnaturiol, straeon am lofruddion dychrynllyd ac eneidiau colledig, yn apelio at bawb sydd \u00e2 blas ar y brawychus a bwganllyd yn ystod Calan Gaeaf. Darllenwch ymlaen os ydych chi\u2019n ddigon dewr!<\/p>\n<p><strong>Troseddwyd sinistr<\/strong><\/p>\n<p><strong>Carchar Biwmares &#8211; gorsaf drenau agosaf: Bangor<\/strong><\/p>\n<p>Tref na ddylid ei cholli ar unrhyw daith i Ynys M\u00f4n yw Biwmares. Tref glan m\u00f4r syfrdanol gyda hanes hir, diddorol ac yn aml yn gythryblus. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers oes y Llychlynwyr, ac mae gan Fiwmares gastell canoloesol byd-enwog, enghreifftiau arbennig o adeiladau Tuduraidd a charchar Fictorianaidd dychrynllyd.<\/p>\n<p>Adeiladwyd Carchar Biwmares ym 1829 ac roedd yn gartref i lu o droseddwyr cythreulig a drygionus hyd iddo gau hanner canrif yn ddiweddarach. Er mai dim ond 30 o garcharorion cadwyd yno, fe welodd y carchar hwn ei gyfran deg o ddigwyddiadau erchyll yn ei oes fer. Digwyddodd ddau ddienyddiad proffil uchel yno, ac roedd Carchar Biwmares yn enwog am drin carcharorion yn greulon, a oedd yn aml yn cael eu cadwyno, eu chwipio, eu gwneud i dorri creigiau a&#8217;u gorfodi i dreulio dyddiau wedi eu hynysu mewn celloedd tywyll. Roedd y carchar hefyd yn gartref i un o\u2019r melinau penyd olaf ym Mhrydain, lle bu\u2019n rhaid i garcharorion gerdded mewn cylchoedd drwy\u2019r dydd i gyflenwi d\u0175r i\u2019r adeilad.<\/p>\n<p>Tra bod nifer o garcharorion wedi eu dedfrydu i farwolaeth yng Ngharchar Biwmares, dim ond dau ddienyddiad trwy grogi a gyflawnwyd. Gadawodd y ddau eu holion goruwchnaturiol amlwg ar hanes y carchar. Y cyntaf oedd William Griffith ym 1830, a ddedfrydwyd i farwolaeth am geisio llofruddio ei gyn-wraig. Ar fore ei ddienyddiad, fe gododd baric\u00ead yn ei gell a bu&#8217;n rhaid ei orfodi allan a\u2019i lusgo at y crocbren. Yr ail oedd Richard Rowlands ym 1862, a ddedfrydwyd i farwolaeth am ladd ei dad-yng-nghyfraith. Mynnodd Rowlands ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd a dywedir iddo roi melltith o\u2019r crocbren ar gloc yr eglwys gyfagos, gan ddarogan na fyddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr amser cywir &#8211; hyd heddiw nid yw&#8217;r cloc erioed wedi cadw amser.<\/p>\n<p>Dywedir bod y ddau ddyn wedi&#8217;u claddu ym muriau&#8217;r carchar, ffaith a all fod yn gyfrifol am rywfaint o&#8217;r gweithgareddau arallfydol a adroddwyd o amgylch yr adeilad. Ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw adroddiadau am leisiau aflafar, ffigurau cysgodol a pholtergeistiaid.<\/p>\n<p>Mae rhai ymwelwyr wedi adrodd am glywed s\u0175n traed yn llusgo y tu allan i&#8217;r celloedd pan nad oes neb yno, ac eraill wedi dweud eu bod wedi teimlo cyffyrddiadau neu glywed lleisiau&#8217;n sibrwd pan ar eu pen eu hunain yn y celloedd. Ai dyma Griffith a Rowlands neu eneidiau eraill a gollwyd i dreigl amser, tybed?<\/p>\n<p>Ar wah\u00e2n i Griffith a Rowlands, dywedir mai cyn-garcharor yw&#8217;r ysbryd mwyaf cyffredin. Mae o wedi\u2019i glywed yn curo ar ddrysau ac yn chwibanu fel pe bai&#8217;n mynd o gwmpas ei rowndiau dyddiol yn y carchar.<\/p>\n<p>Mae Carchar Biwmares yn lleoliad poblogaidd ar gyfer hela ysbrydion ac mae hyd yn oed wedi ymddangos ar y rhaglen deledu <em>Most Haunted<\/em> a gyflwynir gan Yvette Fielding. Os ydych chi\u2019n ddigon dewr i fentro ei goridorau a\u2019i gelloedd cysgodol yn ystod y dydd &#8211; neu yn y gyda&#8217;r nos &#8211; efallai y byddwch chithau hefyd yn profi\u2019r \u2018ymdeimlad di-dor o egni tywyll\u2019 a brofir gan helwyr ysbrydion eraill. Ymlaen \u00e2 chi, os ydych chi&#8217;n meiddio!<\/p>\n<p><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: daliwch fws ger gorsaf drenau Bangor i gyrraedd Biwmares; mae\u2019n daith ddymunol gyda golygfeydd gwych ar hyd y Fenai. Am brisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i wefan y carchar <a href=\"https:\/\/www.croesomon.co.uk\/cy\/be-i-wneud\/activities\/carchar-biwmares\/\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>[embedyt] https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=2M1fkhTN8yc[\/embedyt]<\/p>\n<h3><strong>Jac Ceidwad y Goleudy<\/strong><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400;\"><strong>Ynys Lawd &#8211; gorsaf drenau agosaf: Caergybi<\/strong><\/p>\n<p>Daw un o straeon ysbryd enwocaf Ynys M\u00f4n o oleudy eiconig Ynys Lawd, i\u2019r gogledd-orllewin o Gaergybi. Mae&#8217;r goleudy hwn &#8211; sy&#8217;n fyd-enwog am ei safle diarffordd a pheryglus &#8211; wedi magu enw fel ardal sy\u2019n ferw o ddigwyddiadau goruwchnaturiol, gydag adroddiadau am y paranormal yn dyddio\u2019n \u00f4l cannoedd o flynyddoedd.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i leoli mewn gwarchodfa natur RSPB o 90 erw, mae Ynys Lawd yn boblogaidd gyda cherddwyr, gwylwyr adar a ffotograffwyr. Mae\u2019r goleudy a\u2019r warchodfa natur daith fer ar fys o Gaergybi, ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond bydd yn rhaid rhoi eich coesau ar waith i ennill yr hawl i ddweud eich bod wedi ymweld! Mae 400 o risiau serth yn sefyll rhyngoch chi a\u2019r goleudy, yn ogystal \u00e2 phont grog fechan yn croesi\u2019r dyfroedd corddol islaw. Ar \u00f4l yr holl adrenalin, efallai y byddwch chi&#8217;n falch o weld ysbryd!<\/p>\n<p>Adeiladwyd y goleudy 41 metr o uchder yn 1809, i rybuddio llongau rhag y creigiau peryglus islaw. Ym 1853, tarodd storm enfawr arfordir M\u00f4n, gan arwain at longddrylliadau niferus. Yn ystod y storm, cwympodd graig gan daro ceidwad y goleudy Jac Jones. Ni chlywodd neb ei grio am help, a bu farw o\u2019i anafiadau dair wythnos yn ddiweddarach. Yn \u00f4l y chwedl, mae ysbryd Jac i\u2019w glywed o hyd yn curo ar ddrysau a ffenestri\u2019r goleudy yn ystod y nos. Mae pobl leol yn honni eu bod wedi clywed s\u0175n traed trwm o amgylch y goleudy, yn ogystal \u00e2 sgrechiadau arswydus. Ac os nad yw hynny\u2019n ddigon, mae eraill wedi gweld drysau\u2019n cael eu hysgwyd a chlywed tapio ar y ffenestri, fel pe bai rhyw greadur truenus yn ceisio lloches rhag storm ofnadwy.<\/p>\n<p>Mae Yvette Fielding a chriw\u2019r rhaglen deledu <em>Most Haunted<\/em> wedi cynnal darllediad byw o\u2019r goleudy ac yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi dod ar draws ceidwad y goleudy yn ystod eu helfa. Honnai\u2019r t\u00eem eu bod wedi gweld ffigwr cysgodol yn eu gwylio drwy ffenest, ond pan aethant i\u2019w dilyn fe neidiodd y ffigwr o\u2019r clogwyni i\u2019r m\u00f4r. Dal ddim yn credu mewn ysbrydion? Mae\u2019r awdur Richard Jones, ymchwilydd paranormal blaenllaw, wedi rhoi sg\u00f4r arswydus o 5 seren i oleudy Ynys Lawd yn ei lyfr diweddaraf,<em> Haunted Britain<\/em>!<\/p>\n<p><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: Mae\u2019n rhan o warchodfa natur RSPB ac y mae\u2019r goleudy a chlogwyni yn gwneud diwrnod allan wych i\u2019r teulu cyfan. Am fwy o wybodaeth am amseroedd agor a phrisiau <a href=\"https:\/\/www.rspb.org.uk\/reserves-and-events\/reserves-a-z\/south-stack-cliffs\/\">cliciwch yma<\/a>, ac i drefnu ymweliad a thaith tywys o\u2019r goleudy, <a href=\"https:\/\/www.trinityhouse.co.uk\/lighthouse-visitor-centres\/south-stack-lighthouse-visitor-centre\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n<figure id=\"attachment_2567\" aria-describedby=\"caption-attachment-2567\" style=\"width: 1280px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2567 size-full\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\" alt=\"\" width=\"1280\" height=\"960\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2567\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2023) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400;\"><strong>\u2018Drychiolaethau\u2019 traeth Newry<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400;\"><strong>Caergybi \u2013 gorsaf drenau agosaf: Caergybi<\/strong><\/p>\n<p>\u201cA dweud y gwir maen nhw\u2019n eitha brawychus&#8230;.yn enwedig o\u2019u gweld yng ngolau\u2019r lleuad.\u201d<\/p>\n<p>Daw dirgelwch diddorol arall o Gaergybi ar ffurf yn ffigyrau rhyfedd a fydd yn ymddangos weithiau ar draeth Newry, ychydig funudau ar droed o ganol Caergybi. Mae\u2019r ffigyrau\u2019n ymddangos yn debyg i fodau dynol yn codi o\u2019r d\u0175r ac yn ddrwg-enwog am ddychryn pobl ar y lan, yn enwedig ym mherfeddion tywyll nosweithiau gaeafol.<\/p>\n<p>Mae gweld y ffigurau hyn wedi tanio sawl dychymyg, gyda rhai yn eu cymharu ag ysbrydion morwrol llong chwedlonol y Flying Dutchman. Mae llun o\u2019r \u2018ysbrydion\u2019 hyn wedi\u2019i rannu droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer yn s\u00f4n am eu hymddangosiad unigryw ac atmosfferig. Cewch benderfynu drosoch eich hun drwy <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/strange-sea-ghosts-pictured-anglesey-21988402\">glicio yma<\/a>.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, clwstwr o bolion pren o hen ramp bad achub Caergybi wedi\u2019u gorchuddio \u00e2 gwymon yw&#8217;r ffigyrau. Dros y blynyddoedd, mae natur wedi eu siapio\u2019n ffurfiau dynolaidd, sy\u2019n ymddangos pan fo\u2019r llanw ar drai a dychryn pobl sy\u2019n pasio heibio. Ystyrir fod y \u2018drychiolaethau\u2019 hyn yn ein hatgoffa o ddewrder criwiau bad achub Ynys M\u00f4n sydd wedi &#8211; ac yn parhau i &#8211; fentro eu bywydau i helpu eraill ar bob hin.<\/p>\n<p>Er nad yw\u2019r \u2018ysbrydion\u2019 hyn yn oruwchnaturiol, maent yn sicr yn ychwanegu at naws ddirgel a hudol Caergybi, gan wneud y dref yn lle hynod ddiddorol i\u2019r rhai sy\u2019n ymddiddori yn yr iasol ac annearol y Calan Gaeaf hwn.<\/p>\n<p><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: o orsaf drenau Caergybi, mae traeth Newry yn daith cerdded o ugain munud o ganol y dref. Dilynwch arwyddion ar gyfer <a href=\"http:\/\/www.holyheadmaritimemuseum.co.uk\/\">Amgueddfa Arforol Caergybi<\/a> ac efallai cynnwys ymweliad i\u2019r amgueddfa arbennig hon ar y ffordd, a dysgu mwy am ddewrder y dynion a merched Cymraeg sydd wedi ymroi eu hunain i\u2019r m\u00f4r.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ychydig amser yn \u00f4l, mi fuon ni\u2019n bwrw golwg ar ysbrydion a bwganod Rheilffordd Dyffryn Conwy (cewch ymweld \u00e2\u2019r blog yma, os ydych yn ddigon dewr!), a chan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"cybocfi_hide_featured_image":"","footnotes":""},"categories":[461],"tags":[481,494,501,502,490,465,503,504,498],"class_list":["post-5348","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","tag-anglesey-cy","tag-cymru-cy","tag-halloween-cy","tag-haunted-cy","tag-holyhead-cy","tag-north-wales-cy","tag-north-west-wales-coast-line-cy","tag-spooky-tales-cy","tag-wales-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ychydig amser yn \u00f4l, mi fuon ni\u2019n bwrw golwg ar ysbrydion a bwganod Rheilffordd Dyffryn Conwy (cewch ymweld \u00e2\u2019r blog yma, os ydych yn ddigon dewr!), a chan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-09-25T11:26:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-14T18:19:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\"},\"author\":{\"name\":\"Karen Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\"},\"headline\":\"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru\",\"datePublished\":\"2023-09-25T11:26:39+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T18:19:33+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\"},\"wordCount\":1564,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"keywords\":[\"Anglesey\",\"cymru\",\"halloween\",\"haunted\",\"Holyhead\",\"North Wales\",\"north west Wales coast line\",\"spooky tales\",\"wales\"],\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\",\"name\":\"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"datePublished\":\"2023-09-25T11:26:39+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T18:19:33+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\",\"name\":\"Karen Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Ychydig amser yn \u00f4l, mi fuon ni\u2019n bwrw golwg ar ysbrydion a bwganod Rheilffordd Dyffryn Conwy (cewch ymweld \u00e2\u2019r blog yma, os ydych yn ddigon dewr!), a chan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_published_time":"2023-09-25T11:26:39+00:00","article_modified_time":"2024-02-14T18:19:33+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg"}],"author":"Karen Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Williams","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/"},"author":{"name":"Karen Williams","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61"},"headline":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru","datePublished":"2023-09-25T11:26:39+00:00","dateModified":"2024-02-14T18:19:33+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/"},"wordCount":1564,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg","keywords":["Anglesey","cymru","halloween","haunted","Holyhead","North Wales","north west Wales coast line","spooky tales","wales"],"articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/","name":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg","datePublished":"2023-09-25T11:26:39+00:00","dateModified":"2024-02-14T18:19:33+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/NVW-F45-2324-0422.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/09\/25\/ghosts-and-spooky-tales-of-the-north-west-wales-coast-line\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61","name":"Karen Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Williams"},"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5348","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5348"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5348\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5349,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5348\/revisions\/5349"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5348"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5348"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5348"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}