{"id":5326,"date":"2023-11-07T12:25:20","date_gmt":"2023-11-07T12:25:20","guid":{"rendered":"http:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/"},"modified":"2024-02-14T18:01:23","modified_gmt":"2024-02-14T18:01:23","slug":"christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/","title":{"rendered":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae\u2019r gaeaf a\u2019r Nadolig ar y ffordd!<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl nad ydych wedi dechrau eich siopa Nadolig eto, ond dyma\u2019r amser perffaith i groesawu ysbryd yr \u0175yl a chynllunio diwrnod braf allan. Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, does dim rhaid i chi ddioddef teithiau hir yn y car i ganol dinasoedd prysur i fwynhau hud y Nadolig. Mae dewis gwych o ffeiriau a marchnadoedd Nadolig yma yng Ngogledd Cymru!<\/p>\n<p>Dewch i chwilio am anrhegion unigryw i\u2019ch anwyliaid, darganfod addurniadau hardd ar gyfer eich cartref, neu brynu bwyd a diodydd tymhorol. Mae marchnadoedd Nadolig yn ddiwrnod allan gwych i\u2019r teulu cyfan, a dyma grynodeb o\u2019r goreuon ar hyd arfordir Gogledd Cymru.<\/p>\n<p>Pan fyddwch yn cynllunio eich diwrnod allan ar y tr\u00ean, cofiwch edrych ar wefan <a href=\"https:\/\/www.traveline.cymru\/\">Traveline Cymru<\/a> i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi adael.<\/p>\n<h2>Strafagansa Nadolig Llandudno, Llandudno &#8211; 16-19 Tachwedd<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Llandudno<\/h3>\n<p>Dewch i ymweld \u00e2 thref glan-m\u00f4r adnabyddus Gogledd Cymru i fwynhau\u2019r Strafagansa Nadolig blynyddol, digwyddiad pwysig yng nghalendr y dref. Bydd cyfle i fwynhau adloniant traddodiadol yr \u0175yl, canu carolau ac ymweld \u00e2 groto Si\u00f4n Corn, tra\u2019n crwydro o amgylch yr holl stondinau bwyd, celf a chrefft. Mae\u2019r dewis o stondinau cystal \u00e2 nifer o\u2019r marchnadoedd mwyaf dros y ffin \u2013 gallwch brynu popeth o ddanteithion blasus i anrhegion a nwyddau cartref unigryw \u2013 ac mae\u2019n ddiwrnod allan gwych i\u2019r teulu hefyd gan fod mynediad am ddim.<\/p>\n<p>Bydd Si\u00f4n a Si\u00e2n Corn yma i sgwrsio \u00e2\u2019r plant fel arfer, ond cofiwch drefnu apwyntiad ymlaen llaw! Ac os bydd y tywydd yn amharu ar yr hwyl, beth am logi igl\u0175? Ie, dyna chi, igl\u0175!<\/p>\n<p>I weld rhestr lawn o\u2019r gwerthwyr, trefnu ymweliad \u00e2 Si\u00f4n Corn neu logi igl\u0175, a chael amserlen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau, <a href=\"https:\/\/victorian-extravaganza.com\/christmas-extravaganza\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n<h2>Ffair Nadolig Hosbis Dewi Sant \u2013 25 Tachwedd<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Llandudno<\/h3>\n<p>Cynhelir y ffair eleni yn Arena Venue Cymru ac mae\u2019n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed. Gyda dros 75 o stondinwyr lleol yn arddangos bwyd, diodydd, anrhegion, a nwyddau cartref gwych, ynghyd \u00e2 gemau a stondinau gan yr hosbis, dyma\u2019r cyfle delfrydol i wneud eich siopa Nadolig.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gwario, gallwch ymlacio a mwynhau perfformiadau byw gan fandiau, corau a chantorion lleol.<\/p>\n<p>Bydd cyfle i weld Si\u00f4n Corn yn ei groto, ynghyd \u00e2 gwesteion arbennig, drwy gydol y diwrnod. Bydd y groto ar agor rhwng 12pm a 3pm a chodir t\u00e2l o \u00a32 y plentyn. Bydd plant yn derbyn anrheg fach ac yn cael cyfle i dynnu llun a sgwrsio \u00e2\u2019r dyn ei hun.<\/p>\n<p>Os hoffech chi gefnogi\u2019r elusen wych hon dros gyfnod y Nadolig, mae rhagor o wybodaeth <a href=\"https:\/\/stdavidshospice.org.uk\/llandudno-christmas-fair-2023\/\">yma<\/a>.<\/p>\n<h2>Nadolig Traddodiadol yng Nghastell Penrhyn, Bangor \u2013 25 Tachwedd \u2013 1 Ionawr<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Bangor<\/h3>\n<p>Eleni bydd Castell Penrhyn, eiddo\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dathlu\u2019r Nadolig drwy gynnig gweithgareddau a gemau sy\u2019n dod \u00e2 theuluoedd at ei gilydd dros dymor y gwyliau. Boed hynny\u2019n chwarae gemau bwrdd neu bobi danteithion tymhorol, mae\u2019r castell yn eich gwahodd i rannu\u2019r amser arbennig hwn gyda\u2019ch gilydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ceginau Fictoraidd ysblennydd yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig, ac mae ardaloedd cyhoeddus y castell yn cael eu haddurno \u00e2 choed ac addurniadau hardd. Ar \u00f4l crwydro\u2019r plasty, beth am fynd am dro yn y gerddi lle gallwch fwynhau gogoniant byd natur ar y llwybr i\u2019r cuddfan adar ger afon Ogwen, a rhyfeddu at y golygfeydd gaeafol gwych.<\/p>\n<p>A chofiwch, rhan bwysig o bob ymweliad tymhorol \u00e2 Phenrhyn yw cael tynnu eich llun fel gr\u0175p o flaen y goeden Nadolig enfawr sy\u2019n cael y lle blaenaf yn y Neuadd Fawr!<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, ewch i<a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/visit\/wales\/penrhyn-castle-and-garden\/christmas-at-penrhyn-castle\"> dudalen we Castell Penrhyn<\/a> ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.<\/p>\n<h2>Nadolig ym Mhlas Newydd, Ynys M\u00f4n \u2013 2 Rhagfyr \u2013 1 Ionawr<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Llanfair Pwllgwyngyll<\/h3>\n<p>Dewch i ymgolli yn ysbryd yr \u0175yl ym Mhlas Newydd y Nadolig hwn. Bydd y goleuadau llachar a\u2019r neuaddau addurnedig yn estyn croeso cynnes i Blas Newydd dros gyfnod y Nadolig, gyda digonedd o hwyl yr \u0175yl.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ystafelloedd moethus yn lle gwych i gynnal disgo tawel! Dilynwch yn \u00f4l-troed y 5ed Ardalydd, a wnaeth gynnal sawl parti crand yma! Gwisgwch eich esgidiau dawnsio a dewch i <em>ddangos eich doniau <\/em>yn yr Ystafell Gerdd!<\/p>\n<p>Yng Nghaffi\u2019r Hen Laethdy, gallwch gynhesu gyda diod boeth neu fwynhau cinio 3-chwrs tymhorol (rhaid archebu ymlaen llaw). Neu, beth am fynd am dro gaeafol yn yr ardd a mwynhau\u2019r 150 acer o erddi, coetiroedd a pharcdir.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am Blas Newydd dros gyfnod y Nadolig, <a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/visit\/wales\/plas-newydd-house-and-garden\/christmas-at-plas-newydd\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n<h2>Marchnad Nadolig Crefftwyr Bae Colwyn, Bae Colwyn &#8211; 9 Rhagfyr<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Bae Colwyn<\/h3>\n<p>Dewch i ymweld \u00e2 Marchnad Nadolig Crefftwyr Bae Colwyn, y dechrau perffaith i\u2019ch siopa Nadolig. Mae\u2019r farchnad flynyddol hon yn denu amrywiaeth eang o stondinau sy\u2019n gwerthu popeth o ddanteithion <em>deli<\/em> cyfandirol a chwrw crefft, i grefftau a gemwaith hardd \u2013 lle gwych i ddod o hyd i anrhegion unigryw i\u2019ch ffrindiau a\u2019r teulu.<\/p>\n<p>Bydd cyfle i fwynhau diod o\u2019r bar <em>pop-up <\/em>wrth i chi grwydro o amgylch y stondinau traddodiadol sy\u2019n gwerthu eitemau celf a chrefft, anrhegion wedi\u2019u gwneud \u00e2 llaw, a danteithion blasus. Yn ogystal \u00e2 hyn, bydd y gerddoriaeth fyw a\u2019r adloniant stryd tymhorol yn apelio at bobl o bob oed. Cofiwch gadw llygad am Si\u00f4n Corn, bydd yn hapus iawn i gael tynnu ei lun a sgwrsio \u00e2\u2019r plant.<\/p>\n<h2>G\u0175yl y Gaeaf Conwy, Conwy \u2013 9 Rhagfyr<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Conwy<\/h3>\n<p>Dewch i ymgolli yn yr awyrgylch canoloesol a dathlu naws y Nadolig saith can mlynedd yn \u00f4l. Mae G\u0175yl y Gaeaf Conwy yn cynnig perfformiadau stryd hanesyddol, gwerthwyr cnau castan, cerddorion, Morys-ddawnswyr a marchogion, a bydd y siopau ar agor yn hwyr. Uchafbwynt y noson wych fydd gorymdaith fawr wrth olau ffaglau drwy\u2019r dref \u2013 profiad gwirioneddol hudolus!<\/p>\n<p>Bydd Si\u00f4n Corn yn ymweld \u00e2 Th\u0175r y Digrifwas (Jester\u2019s Tower) yn ystod G\u0175yl y Gaeaf (yn ogystal \u00e2 sawl dyddiad arall dros gyfnod y Nadolig) ond rhaid archebu ymlaen llaw gan ei fod yn ddyn poblogaidd iawn! Gallwch archebu <a href=\"https:\/\/sioncorncymru.wordpress.com\/?fbclid=IwAR1lEvAh_rJjpBm7dnYu59DI63Z8MCX_feWDoTK58IrYe2gzcp36_yzowMo\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>I gael rhagor o fanylion am \u0174yl y Gaeaf, gan gynnwys amser dechrau\u2019r orymdaith fawr <a href=\"http:\/\/www.conwytownevents.co.uk\/winterfest.html\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n<h2>Marchnad \u2018Cracer Nadolig\u2019 Bangor \u2013 10 Rhagfyr<\/h2>\n<h3>Eich gorsaf agosaf: Bangor<\/h3>\n<p>Dyma gyfle i weld dinas Bangor mewn golau newydd a mwynhau\u2019r Farchnad Crefftwyr Nadolig arbennig a fydd yn gweddnewid y ddinas yn wlad hud aeafol. Mae cymaint o bethau i\u2019w mwynhau yma: sglefrio ar y rhew, mynd ar daith ar dr\u00ean Si\u00f4n Corn, ymweld \u00e2 Si\u00f4n Corn a chyfarfod y ceirw, a mwynhau reid yn y ffair Nadolig.<\/p>\n<p>Ac os nad yw hynny\u2019n ddigon, bydd carolau Nadolig, bwyd a diodydd tymhorol ac arddangosfa t\u00e2n gwyllt yn creu awyrgylch Nadoligaidd wrth i chi grwydro o amgylch y stondinau a mwynhau diod o\u2019r bar gwyliau.<\/p>\n<h2>Mae rhywbeth i bawb y Nadolig hwn<\/h2>\n<p>Ni waeth a ydych chi\u2019n bwriadu ymweld \u00e2 Si\u00f4n Corn i gael sgwrs bwysig cyn y diwrnod mawr, neu\u2019n chwilio am anrhegion Nadolig munud olaf, mae rhywbeth i bawb, yr hen a\u2019r ifanc, ei fwynhau ar hyd arfordir Gogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf.<\/p>\n<p>Gyda phentrefi tlws yn cynnig siopau bach unigryw a bwytai, trefi sy\u2019n gartref i\u2019r siopau mawr, a chanolfannau garddio sy\u2019n llawn goleuadau ac addurniadau lliwgar, dyma gyrchfan gwych ar gyfer taith dymhorol y gaeaf hwn. Felly, beth amdani? Lapiwch yn gynnes a dewch ar daith ar Reilffordd Arfordir Gogledd-orllewin Cymru a Dyffryn Conwy i fwynhau Nadolig llawen iawn!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae\u2019r gaeaf a\u2019r Nadolig ar y ffordd! Mae\u2019n bosibl nad ydych wedi dechrau eich siopa Nadolig eto, ond dyma\u2019r amser perffaith i groesawu ysbryd yr \u0175yl a chynllunio diwrnod braf allan. Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, does dim rhaid i chi ddioddef teithiau hir yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"cybocfi_hide_featured_image":"","footnotes":""},"categories":[461],"tags":[481,482,483,484,485,474,465,479,486,487],"class_list":["post-5326","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","tag-anglesey-cy","tag-bangor-cy","tag-christmas-market-cy","tag-colwyn-bay-cy","tag-conwy-cy","tag-llandudno-cy","tag-north-wales-cy","tag-north-wales-coast-cy","tag-penrhyn-castle-cy","tag-plas-newydd-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae\u2019r gaeaf a\u2019r Nadolig ar y ffordd! Mae\u2019n bosibl nad ydych wedi dechrau eich siopa Nadolig eto, ond dyma\u2019r amser perffaith i groesawu ysbryd yr \u0175yl a chynllunio diwrnod braf allan. Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, does dim rhaid i chi ddioddef teithiau hir yn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-11-07T12:25:20+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-14T18:01:23+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Karen Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Karen Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\"},\"author\":{\"name\":\"Karen Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\"},\"headline\":\"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau\",\"datePublished\":\"2023-11-07T12:25:20+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T18:01:23+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\"},\"wordCount\":1294,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"keywords\":[\"Anglesey\",\"bangor\",\"christmas market\",\"Colwyn Bay\",\"Conwy\",\"llandudno\",\"North Wales\",\"North Wales Coast\",\"Penrhyn Castle\",\"Plas Newydd\"],\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\",\"name\":\"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-11-07T12:25:20+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-14T18:01:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61\",\"name\":\"Karen Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Karen Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Mae\u2019n dechrau oeri, felly mae un peth yn sicr: mae\u2019r gaeaf a\u2019r Nadolig ar y ffordd! Mae\u2019n bosibl nad ydych wedi dechrau eich siopa Nadolig eto, ond dyma\u2019r amser perffaith i groesawu ysbryd yr \u0175yl a chynllunio diwrnod braf allan. Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, does dim rhaid i chi ddioddef teithiau hir yn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_published_time":"2023-11-07T12:25:20+00:00","article_modified_time":"2024-02-14T18:01:23+00:00","author":"Karen Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Karen Williams","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/"},"author":{"name":"Karen Williams","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61"},"headline":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau","datePublished":"2023-11-07T12:25:20+00:00","dateModified":"2024-02-14T18:01:23+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/"},"wordCount":1294,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"keywords":["Anglesey","bangor","christmas market","Colwyn Bay","Conwy","llandudno","North Wales","North Wales Coast","Penrhyn Castle","Plas Newydd"],"articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/","name":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"datePublished":"2023-11-07T12:25:20+00:00","dateModified":"2024-02-14T18:01:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/2023\/11\/07\/christmas-markets-and-days-out-the-whole-family-will-love\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Marchnadoedd Nadolig a dyddiau allan i\u2019r teulu cyfan eu mwynhau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/b98dadec3728c0ba136d79712ee8be61","name":"Karen Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d22e8bd0009f86f5b80073a6b04b243d1ac063e5e0e8f1032157234d3df26c23?s=96&d=mm&r=g","caption":"Karen Williams"},"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/author\/karen-williamscreatingenterprise-org-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5326","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5326"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5326\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5327,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5326\/revisions\/5327"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5326"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5326"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5326"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}