{"id":6233,"date":"2022-03-30T19:29:00","date_gmt":"2022-03-30T18:29:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/march-st-davids-day\/"},"modified":"2024-06-30T19:37:47","modified_gmt":"2024-06-30T18:37:47","slug":"march-st-davids-day","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/","title":{"rendered":"Mawrth &#8211; Dydd G\u0175yl Dewi"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dathlu Dydd G\u0175yl Dewi yng Nghymru!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cymru\u2019n wlad sy\u2019n cydio\u2019n dynn yn ei diwylliant a\u2019i thraddodiadau. Mae\u2019n wlad llawn hanes a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Mae\u2019n wir bod gan lawer o wledydd eraill dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog hefyd, ond i ni\u2019r Cymry, mae iddi le pwysig iawn yn ein calonnau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018hiraeth\u2019 yn air sydd wedi gwreiddio\u2019n ddwfn yn isymwybod y Cymry. Nid yw\u2019n bosibl ei gyfieithu\u2019n uniongyrchol i\u2019r Saesneg, ond gellid ei esbonio fel \u2018teimlad o gariad ac angerdd mawr at ein gwlad, ei gorffennol a\u2019i phresennol\u2019. Mae\u2019n debyg mai\u2019r cysylltiad agos hwn \u00e2\u2019n diwylliant a\u2019r tir sy\u2019n esbonio pam ein bod ni wrth ein boddau yn dathlu a rhannu ein traddodiadau. Mae\u2019n gyfle i ni greu cysylltiad rhwng Cymru ein hynafiaid \u00e2\u2019n hieuenctid, gan ddod \u00e2\u2019r cyfan yn fyw yn ein calonnau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">\u2018Dydd G\u0175yl Dewi hapus\u2019<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar yr adeg hon o\u2019r flwyddyn, mae\u2019r teimlad o falchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol yn fwy amlwg fyth. Ar 1 Mawrth, rydym yn dathlu Dydd G\u0175yl Dewi, nawddsant Cymru. Esgob yn y 6ed ganrif oedd Dewi y credir ei fod yn ddisgynnydd i frenin Ceredigion.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Credir mai Dewi sefydlodd Cristnogaeth yng Nghymru ac mae\u2019n cael ei gysylltu hefyd \u00e2 dysg a charedigrwydd i eraill. Ar Ddydd G\u0175yl Dewi mae plant ysgol yn cael eu hannog i efelychu caredigrwydd Dewi a \u2018gwneud y pethau bychain\u2019, fel helpu i olchi\u2019r llestri neu dacluso eu hystafelloedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel pob sant gwerth ei halen, cyflawnodd Dewi fwy na digon o wyrthiau. Digwyddodd un o\u2019r rhai mwyaf adnabyddus yn Llanddewibrefi yng ngorllewin Cymru, pan gododd y tir yn y fan lle\u2019r oedd yn pregethu \u2013 fel petai angen rhagor o fryniau ar Gymru!<\/p>\n\n\n\n<p>Gwyrth arall, ond mwy arswydus, yw\u2019r cannwyll corff. Gwedd\u00efodd Dewi y byddai ei bobl yn cael rhybudd am eu marwolaeth er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y byd tragwyddol, ac fe wnaeth Duw ateb y weddi. Byddai\u2019r Cymry yn cael eu rhybuddio ymlaen llaw pryd a ble y gellid disgwyl y farwolaeth gan olau gwan canhwyllau cwyr dirgel. Yn \u00f4l y s\u00f4n, byddai cannwyll corff \u2013 golau\u2019n tywynnu neu belen o d\u00e2n \u2013 yn ymddangos ger cartref y sawl fyddai ar fin marw.<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, mae trefi, pentrefi ac ysgolion ar draws Cymru yn dathlu Dydd G\u0175yl Dewi drwy orymdeithio, gan wisgo gwisg draddodiadol a symbolau cenedlaethol Cymru: y genhinen Bedr (i ferched) a\u2019r genhinen (i ddynion).<\/p>\n\n\n\n<p>Beth am barhau i ddathlu Dydd G\u0175yl Dewi, ac edrych yn fanylach ar rai o draddodiadau&nbsp; mwyaf poblogaidd Cymru sy\u2019n dal i ddiffinio ein hunaniaeth genedlaethol:<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">Llwyau caru<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C107-1920-0006-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6227\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C107-1920-0006-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C107-1920-0006-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C107-1920-0006-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C107-1920-0006.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Llwyau pren yw\u2019r rhain, gyda dyluniadau cywrain wedi\u2019u cerfio arnynt, ac maent yn un o symbolau eiconig Cymru. Mae ystyr penodol i bob un o\u2019r dyluniadau ac maent yn cyfleu neges i\u2019r sawl a fydd yn derbyn y llwy.<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn draddodiadol, dynion ifanc fyddai\u2019n cerfio llwyau caru er mwyn eu cyflwyno i\u2019r merched roeddynt yn eu caru fel arwydd o gariad. Roedd y llwyau pren hefyd yn dynodi eu bod yn grefftwyr medrus ac yn dda \u00e2\u2019u llaw, mewn geiriau eraill, y byddent yn gwneud g\u0175r da!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ystyron gwahanol i\u2019r cerfiadau gwahanol \u2013 mae cloch yn symbol o briodas a phen-blwydd priodas, mae croes yn symbol o ffydd, mae calon yn symbol o gariad, ac yn y blaen. Heddiw, mae llawer o ymwelwyr sy\u2019n dod i Gymru yn prynu llwyau caru i gofio am eu gwyliau. Maent yn eitemau hyfryd i afael a chyffwrdd ynddynt a\u2019u hedmygu, ac yn ychwanegiad gwych i\u2019r cartref!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Lle gallwch eu prynu: <\/strong>mae llwyau caru yn cael eu gwerthu yn y rhan fwyaf o siopau swfen\u00eer ar draws Cymru, ond rydym yn hoff iawn o siop Craftcentre Cymru yn nhref <a href=\"https:\/\/www.visitbetwsycoed.co.uk\/\">Betws-y-coed<\/a> sy\u2019n gwerthu dewis eang o gofroddion o Gymru a nwyddau artisan wedi\u2019u gwneud \u00e2 llaw. O lwyau caru i felysion cartref, teithlyfrau lleol a dillad, mae Craftcentre Cymru yn ddewis gwych os ydych am brynu eitem unigryw i gofio am eich taith i Gymru.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">Y Ddraig goch<\/h2>\n\n\n\n<p>Ni chafodd y faner genedlaethol rydym yn ei chysylltu \u00e2 Chymru ei dadrolio\u2019n swyddogol tan 1959.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth y ddraig o un o chwedlau\u2019r Brenin Arthur \u2013 cafodd Myrddin weledigaeth lle\u2019r oedd draig goch (y Cymry) yn ymladd yn erbyn draig wen (y Sacsoniaid). Yn naturiol, y ddraig goch enillodd, gan hel yr ymosodwyr o\u2019r tir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r lliw gwyrdd a gwyn ar y faner yn cyfeirio at D\u0177\u2019r Tuduriaid, uchelwyr o Gymru yn y bymthegfed ganrif, yr aeth eu disgynyddion yn eu blaenau i reoli Lloegr \u2013 oedd, roedd gan Harri\u2019r VIII gyndadau Cymreig!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NCX-VH08-1718-0128-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6225\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NCX-VH08-1718-0128-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NCX-VH08-1718-0128-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NCX-VH08-1718-0128-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NCX-VH08-1718-0128.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Lle gallwch ei gweld:<\/strong> a oes unrhyw beth yn well na gweld y ddraig goch yn chwifio\u2019n uchel? Mae muriau <a href=\"https:\/\/cadw.gov.wales\/visit\/places-to-visit\/conwy-castle\">Castell Conwy<\/a>, sy\u2019n dyddio o\u2019r drydedd ganrif ar ddeg, yn lle arbennig iawn i weld baner y ddraig goch yn cyhwfan yn y gwynt. Beth am ddal y tr\u00ean i Gyffordd Llandudno a cherdded dros y bont i Gonwy, taith hyfryd gyda golygfeydd godidog, neu dewch oddi ar y tr\u00ean yng nghanol tref ganoloesol Conwy i fwynhau\u2019r awyrgylch hanesyddol. Mae castell Conwy a muriau\u2019r dref yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a dylai pawb sy\u2019n dod i ogledd Cymru geisio ymweld \u00e2\u2019r dref.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">Cennin a Chennin Pedr<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cysylltiad rhwng cennin a Chymru braidd yn aneglur, a does neb yn si\u0175r iawn sut y daethant yn symbolau cenedlaethol. Yr esboniad mwyaf cyffredin yw y byddai milwyr Cymreig, cyn dyddiau lifrau milwrol, yn gwisgo cenhinen i wahaniaethu rhyngddynt hwy \u00e2\u2019r gelyn ar faes y gad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tystiolaeth bod Cadwaladr, brenin Gwynedd yn y seithfed ganrif, wedi gorchymyn ei ddynion i wisgo cenhinen mewn brwydr, ac mae Shakespeare yn cyfeirio at hyn yn ei ddrama Henry V:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cthe Welshmen did good service in a<br>garden where leeks did grow, wearing leeks in their<br>Monmouth caps; which, your majesty know, to this<br>hour is an honourable badge of the service; and I do<br>believe your majesty takes no scorn to wear the leek<br>upon Saint Tavy\u2019s day.\u201c<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r stori am sut daeth y genhinen Bedr yn symbol cenedlaethol hyd yn oed yn fwy rhyfedd. Mae\u2019n bosibl i hyn ddigwydd oherwydd y tebygrwydd rhwng y geiriau cennin a chennin Pedr, a bod rhywun rhyw dro wedi drysu rhyngddynt!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gareth-Bull-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-stdd_02_pin_leek_web_2560x1920px-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6229\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gareth-Bull-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-stdd_02_pin_leek_web_2560x1920px-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gareth-Bull-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-stdd_02_pin_leek_web_2560x1920px-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gareth-Bull-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-stdd_02_pin_leek_web_2560x1920px-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Gareth-Bull-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-stdd_02_pin_leek_web_2560x1920px.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Photo Credit \u00a9 Gareth Bull\n\u00a9 Hawlfraint y Goron \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Lle i\u2019w gweld:<\/strong> yn y gwanwyn, mae cennin Pedr i\u2019w gweld mewn cloddiau, ar ochrau\u2019r ffyrdd ac mewn gerddi ar draws Cymru ond i gael profiad gwirioneddol fythgofiadwy rydym yn argymell eich bod yn eu mwynhau yng nghanol byd natur. Mae\u2019r hen dd\u00f4l yng <a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/visit\/wales\/bodnant-garden\">Ngardd Bodnant<\/a> yn nyffryn Conwy yn disgleirio yn y gwanwyn wrth i\u2019r cennin Pedr ymddangos yn drwch ar hyd y glaswellt. Gall ymwelwyr gerdded ymysg y blodau a mwynhau naws y gwanwyn!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">Teisennau \/ Cacennau Cri a bara brith<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan Gymru draddodiad gastronomegol balch ond rydym yn adnabyddus am gael dant melys! Nid yw\u2019n syndod felly mai pethau melys yw dau o\u2019n hoff ddanteithion cenedlaethol: teisennau neu gacennau cri (pice ar y maen yn y de) a bara brith.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf yr enw, mae teisennau neu chacennau cri yn disgyn rhwng dwy st\u00f4l \u2013 rhywbeth rhwng cacen a sgon \u2013 ac yn draddodiadol maent yn cael eu coginio ar faen neu radell boeth. Torth ffrwythau a sbeis yw bara brith, a wneir drwy fwydo ffrwythau sych mewn te.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ddau yn cael eu gwneud o gynhwysion a fyddai gan deuluoedd cyffredin Cymru yn eu cartrefi \u2013 ffrwythau sych, te, lard, llefrith\/llaeth ac wyau.<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, mae teisennau \/ cacennau cri a bara brith yn ddanteithion perffaith ar gyfer te prynhawn ac maent i\u2019w gweld ar fwydlenni caffis ar draws Cymru. Fel y pastai yng Nghernyw, roeddynt yn fyrbryd perffaith, llawn calor\u00efau, ar gyfer glowyr a gweithwyr diwydiannol llwglyd, a\u2019r maint cywir i\u2019w rhoi mewn poced a\u2019u bwyta yn nes ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-DSC_0504-Welsh-Cakes-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6223\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-DSC_0504-Welsh-Cakes-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-DSC_0504-Welsh-Cakes-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-DSC_0504-Welsh-Cakes-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-DSC_0504-Welsh-Cakes.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Lle i\u2019w bwyta:<\/strong> os ewch am dro bach o orsaf drenau Bae Colwyn byddwch yn cyrraedd y promen\u00e2d sydd wedi cael ei adnewyddu\u2019n ddiweddar. Mae miliynau o bunnau wedi cael eu gwario i adnewyddu blaen y traeth o Hen Golwyn i Fae Penrhyn ac mae\u2019n edrych yn wych. Mae gwesty <a href=\"https:\/\/portheirias.com\/\">Bryn Williams yn y Bistro Porth Eirias<\/a> ar lan y m\u00f4r ac yn gweini bwyd m\u00f4r blasus a seigiau wedi\u2019u gwneud o gynhwysion lleol. Mae\u2019n adnabyddus hefyd am werthu cacennau cri blasus a choffi lleol, felly dyma\u2019r lle i ddod i fwynhau paned a golygfa fendigedig!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-medium-font-size\">Yr Eisteddfod<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Cymru hefyd yn genedl o artistiaid: beirdd, chwedleuwyr, cerddorion, actorion a dramodwyr, ymhlith eraill. Yn syml iawn, mae\u2019r celfyddydau yn rhan o\u2019n DNA!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai o berfformwyr gorau\u2019r byd yn dod o Gymru: Catatonia, Stereophonics, y Fonesig Shirley Bassey, Manic Street Preachers, ac wrth gwrs, Tom Jones. Heb s\u00f4n am s\u00ear Hollywood fel Luke Evans, Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffydd ac Iwan Rheon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6231\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Photo Credit \u00a9 Wales News Service\n\u00a9 Hawlfraint y Goron \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym yn dathlu ein cariad at y celfyddydau yn ein <em>heisteddfodau<\/em> \u2013 gwyliau sy\u2019n dathlu barddoniaeth, llenyddiaeth a phefformiadau. Nid rhywbeth newydd yw\u2019r gwyliau hyn. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn y ddeuddegfed ganrif pan drefnodd Rhys ap Gruffydd gyfarfod o artistiaid Cymreig yn ei lys yn Aberteifi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym sawl math o eisteddfod yng Nghymru, yn amrywio o\u2019r rhai ar gyfer pobl ifanc (Eisteddfod yr <a href=\"http:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/\">Urdd<\/a>) i\u2019r rhai sy\u2019n gwahodd cyfranwyr byd-enwog (a gynhelir yn flynyddol yn <a href=\"http:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/\">Llangollen<\/a>). Ond y mwyaf enwog yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhelir bob mis Awst. Dyma\u2019r \u0175yl gerddoriaeth a barddoniaeth gystadleuol fwyaf yn Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Ymunwch: <\/strong>mae\u2019r Eisteddfod Genedlaethol yn symud i leoliad newydd bob blwyddyn, gan amrywio o\u2019r de i\u2019r gogledd. Eleni, cynhelir yr \u0175yl ddiwylliannol wych hon yn ne Cymru ond yn 2025 bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ger <a href=\"https:\/\/eisteddfod.wales\/node\/69\">dinas Wrecsam<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>I gloi, mae diwylliant a thraddodiadau Cymru yn glytwaith o hanes, chwedlau a\u2019r celfyddydau sy\u2019n agos iawn at galon y Cymry. O\u2019r hen arfer o gerfio llwyau pren i ddathliad modern yr Eisteddfod Genedlaethol, mae pob traddodiad yn adrodd stori pobl sydd \u00e2 chysylltiad agos \u00e2\u2019r tir a\u2019u treftadaeth. Wrth i ni barhau i ddathlu\u2019r traddodiadau hyn, rydym nid yn unig yn talu gwrogaeth i Dewi Sant a\u2019r holl ddylanwadau sydd wedi siapio ein cenedl, rydym hefyd yn cryfhau\u2019r cysylltiadau sy\u2019n ein huno fel Cymry.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6232,"template":"","class_list":["post-6233","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dathlu Dydd G\u0175yl Dewi yng Nghymru! Mae Cymru\u2019n wlad sy\u2019n cydio\u2019n dynn yn ei diwylliant a\u2019i thraddodiadau. Mae\u2019n wlad llawn hanes a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Mae\u2019n wir bod gan lawer o wledydd eraill dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog hefyd, ond i ni\u2019r Cymry, mae iddi le pwysig iawn yn ein calonnau. Mae \u2018hiraeth\u2019 yn air [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-30T18:37:47+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/\",\"name\":\"Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-30T18:29:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-30T18:37:47+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853,\"caption\":\"The National Eisteddfod 2018 Cardiff Photographer: Wales News Service\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Mawrth &#8211; Dydd G\u0175yl Dewi\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Dathlu Dydd G\u0175yl Dewi yng Nghymru! Mae Cymru\u2019n wlad sy\u2019n cydio\u2019n dynn yn ei diwylliant a\u2019i thraddodiadau. Mae\u2019n wlad llawn hanes a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Mae\u2019n wir bod gan lawer o wledydd eraill dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog hefyd, ond i ni\u2019r Cymry, mae iddi le pwysig iawn yn ein calonnau. Mae \u2018hiraeth\u2019 yn air [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2024-06-30T18:37:47+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/","name":"Mawrth - Dydd G\u0175yl Dewi - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg","datePublished":"2022-03-30T18:29:00+00:00","dateModified":"2024-06-30T18:37:47+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-News-Service-\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-SVW-C137-1819-0236.jpg","width":1280,"height":853,"caption":"The National Eisteddfod 2018 Cardiff Photographer: Wales News Service"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/march-st-davids-day\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Mawrth &#8211; Dydd G\u0175yl Dewi"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/6233","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6232"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6233"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}