{"id":6140,"date":"2024-01-01T19:14:00","date_gmt":"2024-01-01T19:14:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/"},"modified":"2024-06-19T19:40:11","modified_gmt":"2024-06-19T18:40:11","slug":"january-st-dwynwens-day","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/","title":{"rendered":"Ionawr &#8211; Dydd Santes Dwynwen"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size\">Gofynnwch \u2018A wnei di fy mhriodi i?\u2019 ar Ddydd Santes Dwynwen<\/p>\n\n\n\n<p><em>Wyt Ionawr yn oer, a\u2019th farrug yn wyn!<\/em> Mae tirwedd Gogledd Cymru yn edrych ar ei gorau yn ystod y tywydd oer a rhewllyd, ond er ei bod hi\u2019n ganol gaeaf, ar 25 Ionawr, bydd pethau\u2019n poethi yma yng Nghymru. Ar y dyddiad hwn, rydym yn dathlu<em> Dydd Santes Dwynwen<\/em>, nawddsant cariadon Cymru. Yn debyg i Ddydd G\u0175yl San Ffolant ar 14 Chwefror, mae\u2019n ddiwrnod arbennig i ddathlu cariad a&nbsp; rhamant. Ond mae\u2019r Cymry yn dathlu mewn ffordd llawer mwy personol ac anfasnachol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni waeth a ydych chi\u2019n ystyried gofyn i\u2019ch cariad eich priodi, neu\u2019n chwilio am rywle arbennig i dreulio penwythnos rhamantus gyda\u2019ch cymar, mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fwynhau gwyliau ar unrhyw adeg o\u2019r flwyddyn. Yn y blog hwn, cewch ddysgu am hanes cymeriad annwyl a thrasig Dwynwen, a byddwn hefyd yn s\u00f4n am rai o\u2019n hoff leoedd yng Ngogledd Cymru i dreulio amser yng nghwmni eich cariad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch yn trefnu eich gwyliau arbennig, cofiwch edrych ar wefan <a href=\"https:\/\/www.traveline.cymru\/\">Traveline Cymru<\/a> i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi adael.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Hanes trasig Dwynwen<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y bumed ganrif, roedd Cymru yn wlad o deyrnasoedd a thywysogaethau bach, a oedd yn cael eu rheoli\u2019n gadarn gan lond llaw o deuluoedd bonheddig. Roedd Dwynwen yn perthyn i un o\u2019r teuluoedd hyn. Roedd hi\u2019n dywysoges ac yn ferch i Brychan, brenin Brycheiniog. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, roedd Dwynwen yn ferch ifanc eithriadol o hardd a duwiol, rhinweddau a oedd yn ddeniadol iawn i ddarpar-gariadon ar y pryd, a daeth i sylw brenhinoedd a thywysogion o bob rhan o Gymru. Ond merch ramantus oedd Dwynwen ac roedd hi eisiau priodi rhywun roedd hi\u2019n ei garu. Doedd dim s\u00f4n am syniadau o\u2019r fath ar y pryd, gan fod teuluoedd bonheddig yn priodi am resymau gwleidyddol ac economaidd yn unig.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod sawl tywysog a brenin o Gymru yn dymuno priodi Dwynwen, roedd hithau wedi syrthio mewn cariad \u00e2 rhywun arall. Ei enw oedd Maelon Daffodrill; roedd ef hefyd yn dywysog, ond nid oedd yn cael ei ystyried yn gymar addas ar gyfer Dwynwen. Mae\u2019n bosibl y byddai\u2019r ddau wedi gwneud p\u00e2r perffaith ar y carped coch heddiw, ond nid felly y bu. Mae sawl hanes posibl yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn ddigwyddodd: mae rhai pobl yn honni bod y Brenin Brychan eisoes wedi trefnu i Dwynwen briodi rhywun arall; dywed eraill nad oedd gan Maelon ddiddordeb yn Dwynwen; ac mae ffynonellau eraill yn honni bod Maelon wedi ceisio treisio Dwynwen, gan chwalu ei darlun rhamantaidd ohono.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth bynnag yw\u2019r gwirionedd, gan ei bod hi\u2019n amharod i briodi rhywun nad oedd hi\u2019n ei garu, fe wnaeth Dwynwen ffoi i\u2019r goedwig. Yno, bu\u2019n gwedd\u00efo i Dduw am arweiniad ac mewn ymateb anfonodd Duw angel ati. Yn anffodus, ni chafodd gweddi Dwynwen ei hateb yn llwyr. Gofynnodd i Dduw am gymorth i anghofio Maelon a\u2019i gosbi, felly rhoddodd yr angel ddiod hud iddi er mwyn anghofio am Maelon; yna fe drodd Maelon yn dalp o rew (roedd yntau o bosibl eisiau ymddiheuro ac roedd wedi dod i chwilio am Dwynwen yn y goedwig)!&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Dwynwen wedi\u2019i brawychu gan yr hyn a ddigwyddodd i Maelon, a gofynnodd i Dduw newid yr hud. Yn gyfnewid am hyn, fe wnaeth hi addo na fyddai hi byth yn priodi ac y byddai\u2019n ymroi ei bywyd i wasanaethu Duw gan ddod yn lleian. Ar \u00f4l taro ar y fargen hon, cafodd Maelon ei ddadmer. Ond a oedden nhw\u2019n gariadon? Oedden nhw\u2019n dal i garu ei gilydd? Fyddwn ni byth yn gwybod yr ateb i hynny, a phwy a \u0175yr, mae\u2019n bosibl y bydden nhw wedi dianc i briodi a threulio gweddill eu dyddiau yn bell i ffwrdd o\u2019r brenhinoedd a\u2019u teyrnasoedd. Fodd bynnag, cadwodd Dwynwen at ei gair a chadwodd ei addewid i Dduw. Sefydlodd eglwys ar ynys fach, bellennig ger arfordir Ynys M\u00f4n o\u2019r enw Llanddwyn gan ymroi ei hun i fywyd a gwasanaeth ysbrydol.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0145-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6130\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0145-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0145-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0145-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0145.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<br>Photographer: Keith Freeburn<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Daeth eglwys Dwynwen yn gyrchfan i bererinion hyd yn oed yn ystod ei hoes. Roedd cariadon o bob rhan o Gymru yn dod yno i gael eu bendithio, traddodiad sy\u2019n parhau hyd heddiw \u2013 prawf o ddylanwad parhaus Dwynwen. Roedd hefyd yn fan lle byddai pobl nad oedd cael llawer o lwc yn eu bywyd rhamantaidd yn dod i gael cysur. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, roedd pysgodyn cysegredig a oedd yn gallu darogan dyfodol cariadon yn byw mewn ffynnon yn yr eglwys hefyd!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, mae miloedd o bobl yn ymweld \u00e2\u2019r ynys bob blwyddyn. Heb os, dyma un o\u2019r mannau harddaf ar arfordir Gogledd Cymru, ac mae yno naws arbennig iawn. Beth am ymweld \u00e2\u2019r ynys ac adfeilion eglwys Dwynwen, mwynhau\u2019r golygfeydd o gopaon creigiog Eryri ar draws afon Menai, neu wylio\u2019r haul yn machlud o\u2019r man uchaf ar yr ynys, sef Croes Dwynwen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Lleoedd Rhamantaidd i ofyn i\u2019ch cariad eich priodi ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Rheilffordd Dyffryn Conwy\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ynys Llanddwyn \u2013 gorsaf Bodorgan\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Lle gwell i ddechrau eich taith nag ar ynys Llanddwyn ei hun? Mae\u2019r llecyn bendigedig hwn yn gyforiog o hanes a rhamant y Celtiaid, mae\u2019n lle hyfryd i ddatgan eich cariad a dyma\u2019r lle cyntaf ar ein rhestr o leoliadau gwych yng Ngogledd Cymru i ofyn i\u2019ch cariad eich priodi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0127-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6126\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0127-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0127-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0127-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0127.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales\nPhotographer: Keith Freeburn<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Rhaeadr Ewynnol \u2013 gorsaf Betws-y-coed<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaeadr Ewynnol ar gyrion pentref Betws-y-coed yng nghanol Coedwig Gwydir, yw un o\u2019r rhaeadrau uchaf yng Nghymru. Beth am ddewis man gwylio a gofyn y cwestiwn pwysig i\u2019ch cariad \u2013 gyda chefnlen naturiol mor ddramatig \u00e2 hyn, bydd yn anodd gwrthod eich cynnig!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-E14-2122-0910-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6132\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-E14-2122-0910-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-E14-2122-0910-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-E14-2122-0910-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-E14-2122-0910.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Castell Penrhyn \u2013 gorsaf Bangor<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd y plasty hwn ar lan afon Menai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ffurf castell Normanaidd, ac mae wedi\u2019i amgylchynu gan erddi a pharcdir gwyrdd. Mae\u2019r lleoliad yn debyg i rywbeth o lyfr tylwyth teg, felly beth am ddod o hyd i le distaw gyda golygfa wych o\u2019r arfordir neu\u2019r castell i ofyn y cwestiwn pwysig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-SVW-E18-2122-0021-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6136\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-SVW-E18-2122-0021-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-SVW-E18-2122-0021-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-SVW-E18-2122-0021-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-SVW-E18-2122-0021.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Y Gogarth Fawr \u2013 gorsaf Llandudno<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r penrhyn calchfaen dramatig hwn yn Llandudno yn hafan i fflora a ffawna ac yn lleoliad hollol unigryw i ofyn y cwestiwn mawr i\u2019ch cariad. O ddyfnderoedd hanesyddol y mwyngloddiau copr i uchelfannau\u2019r car cebl, o erddi hardd y Fach i\u2019r copa, dyma\u2019r lle perffaith i greu atgofion rhamantus gwerth chweil.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F37-2324-0340-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6134\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F37-2324-0340-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F37-2324-0340-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F37-2324-0340-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F37-2324-0340.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cei Conwy \u2013 gorsaf Conwy<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r harbwr tlws hwn sy\u2019n swatio yng nghysgod muriau uchel Castell Conwy yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Gyda\u2019i fythynnod bach hardd a\u2019i gychod pysgota, mae\u2019n lle delfrydol i ofyn y cwestiwn pwysig i\u2019ch cariad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C13-1718-0181-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6122\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C13-1718-0181-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C13-1718-0181-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C13-1718-0181-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C13-1718-0181.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd dewis un o\u2019r lleoliadau arbennig hyn yng Nghymru yn ychwanegu naws arbennig i gynnig priodasol ar Ddydd Santes Dwynwen a dechrau eich taith fel cariadon. Felly, beth am ddechrau eich taith gyda\u2019ch gilydd ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru neu Reilffordd Dyffryn Conwy? Byddwch yn si\u0175r o ateb \u2018Gwnaf, fe wna i dy briodi di\u2019!<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6129,"template":"","class_list":["post-6140","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gofynnwch \u2018A wnei di fy mhriodi i?\u2019 ar Ddydd Santes Dwynwen Wyt Ionawr yn oer, a\u2019th farrug yn wyn! Mae tirwedd Gogledd Cymru yn edrych ar ei gorau yn ystod y tywydd oer a rhewllyd, ond er ei bod hi\u2019n ganol gaeaf, ar 25 Ionawr, bydd pethau\u2019n poethi yma yng Nghymru. Ar y dyddiad hwn, [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-19T18:40:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/\",\"name\":\"Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg\",\"datePublished\":\"2024-01-01T19:14:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-19T18:40:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853,\"caption\":\"Llanddwyn Island &amp; Newborough North West Wales Photographer: Keith Freeburn\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ionawr &#8211; Dydd Santes Dwynwen\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Gofynnwch \u2018A wnei di fy mhriodi i?\u2019 ar Ddydd Santes Dwynwen Wyt Ionawr yn oer, a\u2019th farrug yn wyn! Mae tirwedd Gogledd Cymru yn edrych ar ei gorau yn ystod y tywydd oer a rhewllyd, ond er ei bod hi\u2019n ganol gaeaf, ar 25 Ionawr, bydd pethau\u2019n poethi yma yng Nghymru. Ar y dyddiad hwn, [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2024-06-19T18:40:11+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/","name":"Ionawr - Dydd Santes Dwynwen - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg","datePublished":"2024-01-01T19:14:00+00:00","dateModified":"2024-06-19T18:40:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-C104-1819-0144.jpg","width":1280,"height":853,"caption":"Llanddwyn Island &amp; Newborough North West Wales Photographer: Keith Freeburn"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/january-st-dwynwens-day\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ionawr &#8211; Dydd Santes Dwynwen"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/6140","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6129"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6140"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}