{"id":6118,"date":"2015-10-19T18:43:00","date_gmt":"2015-10-19T17:43:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/october-halloween\/"},"modified":"2024-10-17T12:47:54","modified_gmt":"2024-10-17T11:47:54","slug":"october-halloween","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/","title":{"rendered":"Hydref &#8211; Calan Gafa"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size\">Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae\u2019r rheilffordd yn cysylltu ardaloedd sy\u2019n frith o hanesion hynod ac arswydus. Ar hyd y lein byddwch yn dod ar draws cestyll cadarn a thai crand, eglwysi hynafol a safleoedd sanctaidd, adfeilion gweithfeydd diwydiannol ac olion diwylliannau sydd wedi hen ddiflannu. Maent i gyd yn hynod diddorol, pob un \u00e2 hanes arbennig, ond maent hefyd yn gysylltiadau cyffyrddadwy \u00e2 phethau dirgel sy\u2019n perthyn i fyd arall&#8230;&nbsp; byd anweledig ac arallfydol.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn meddwl, nid yw\u2019n syndod dysgu fod gogledd Cymru\u2019n enwog am straeon arswyd ac ysbrydion dirifedi. P\u2019un ag ydych yn credu ynddynt neu beidio mae digwyddiadau goruwchnaturiol, straeon am lofruddion dychrynllyd ac eneidiau colledig, yn apelio at bawb sydd \u00e2 blas ar y brawychus a bwganllyd yn ystod Calan Gaeaf. Darllenwch ymlaen os ydych chi\u2019n ddigon dewr!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Troseddwyd sinistr<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Carchar Biwmares &#8211; gorsaf drenau agosaf: Bangor<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Tref na ddylid ei cholli ar unrhyw daith i Ynys M\u00f4n yw Biwmares. Tref glan m\u00f4r syfrdanol gyda hanes hir, diddorol ac yn aml yn gythryblus. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers oes y Llychlynwyr, ac mae gan Fiwmares gastell canoloesol byd-enwog, enghreifftiau arbennig o adeiladau Tuduraidd a charchar Fictorianaidd dychrynllyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd Carchar Biwmares ym 1829 ac roedd yn gartref i lu o droseddwyr cythreulig a drygionus hyd iddo gau hanner canrif yn ddiweddarach. Er mai dim ond 30 o garcharorion cadwyd yno, fe welodd y carchar hwn ei gyfran deg o ddigwyddiadau erchyll yn ei oes fer. Digwyddodd ddau ddienyddiad proffil uchel yno, ac roedd Carchar Biwmares yn enwog am drin carcharorion yn greulon, a oedd yn aml yn cael eu cadwyno, eu chwipio, eu gwneud i dorri creigiau a&#8217;u gorfodi i dreulio dyddiau wedi eu hynysu mewn celloedd tywyll. Roedd y carchar hefyd yn gartref i un o\u2019r melinau penyd olaf ym Mhrydain, lle bu\u2019n rhaid i garcharorion gerdded mewn cylchoedd drwy\u2019r dydd i gyflenwi d\u0175r i\u2019r adeilad.<\/p>\n\n\n\n<p>Tra bod nifer o garcharorion wedi eu dedfrydu i farwolaeth yng Ngharchar Biwmares, dim ond dau ddienyddiad trwy grogi a gyflawnwyd. Gadawodd y ddau eu holion goruwchnaturiol amlwg ar hanes y carchar. Y cyntaf oedd William Griffith ym 1830, a ddedfrydwyd i farwolaeth am geisio llofruddio ei gyn-wraig. Ar fore ei ddienyddiad, fe gododd baric\u00ead yn ei gell a bu&#8217;n rhaid ei orfodi allan a\u2019i lusgo at y crocbren. Yr ail oedd Richard Rowlands ym 1862, a ddedfrydwyd i farwolaeth am ladd ei dad-yng-nghyfraith. Mynnodd Rowlands ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd a dywedir iddo roi melltith o\u2019r crocbren ar gloc yr eglwys gyfagos, gan ddarogan na fyddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr amser cywir &#8211; hyd heddiw nid yw&#8217;r cloc erioed wedi cadw amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedir bod y ddau ddyn wedi&#8217;u claddu ym muriau&#8217;r carchar, ffaith a all fod yn gyfrifol am rywfaint o&#8217;r gweithgareddau arallfydol a adroddwyd o amgylch yr adeilad. Ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw adroddiadau am leisiau aflafar, ffigurau cysgodol a pholtergeistiaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai ymwelwyr wedi adrodd am glywed s\u0175n traed yn llusgo y tu allan i&#8217;r celloedd pan nad oes neb yno, ac eraill wedi dweud eu bod wedi teimlo cyffyrddiadau neu glywed lleisiau&#8217;n sibrwd pan ar eu pen eu hunain yn y celloedd. Ai dyma Griffith a Rowlands neu eneidiau eraill a gollwyd i dreigl amser, tybed?<\/p>\n\n\n\n<p>Ar wah\u00e2n i Griffith a Rowlands, dywedir mai cyn-garcharor yw&#8217;r ysbryd mwyaf cyffredin. Mae o wedi\u2019i glywed yn curo ar ddrysau ac yn chwibanu fel pe bai&#8217;n mynd o gwmpas ei rowndiau dyddiol yn y carchar.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Carchar Biwmares yn lleoliad poblogaidd ar gyfer hela ysbrydion ac mae hyd yn oed wedi ymddangos ar y rhaglen deledu <em>Most Haunted<\/em> a gyflwynir gan Yvette Fielding. Os ydych chi\u2019n ddigon dewr i fentro ei goridorau a\u2019i gelloedd cysgodol yn ystod y dydd &#8211; neu yn y gyda&#8217;r nos &#8211; efallai y byddwch chithau hefyd yn profi\u2019r \u2018ymdeimlad di-dor o egni tywyll\u2019 a brofir gan helwyr ysbrydion eraill. Ymlaen \u00e2 chi, os ydych chi&#8217;n meiddio!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: daliwch fws ger gorsaf drenau Bangor i gyrraedd Biwmares; mae\u2019n daith ddymunol gyda golygfeydd gwych ar hyd y Fenai. Am brisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i wefan y carchar <a href=\"https:\/\/www.visitanglesey.co.uk\/en-gb\/explore\/beaumaris-gaol\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Jac Ceidwad y Goleudy<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Ynys Lawd &#8211; gorsaf drenau agosaf: Caergybi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Daw un o straeon ysbryd enwocaf Ynys M\u00f4n o oleudy eiconig Ynys Lawd, i\u2019r gogledd-orllewin o Gaergybi. Mae&#8217;r goleudy hwn &#8211; sy&#8217;n fyd-enwog am ei safle diarffordd a pheryglus &#8211; wedi magu enw fel ardal sy\u2019n ferw o ddigwyddiadau goruwchnaturiol, gydag adroddiadau am y paranormal yn dyddio\u2019n \u00f4l cannoedd o flynyddoedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6116\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i leoli mewn gwarchodfa natur RSPB o 90 erw, mae Ynys Lawd yn boblogaidd gyda cherddwyr, gwylwyr adar a ffotograffwyr. Mae\u2019r goleudy a\u2019r warchodfa natur daith fer ar fys o Gaergybi, ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond bydd yn rhaid rhoi eich coesau ar waith i ennill yr hawl i ddweud eich bod wedi ymweld! Mae 400 o risiau serth yn sefyll rhyngoch chi a\u2019r goleudy, yn ogystal \u00e2 phont grog fechan yn croesi\u2019r dyfroedd corddol islaw. Ar \u00f4l yr holl adrenalin, efallai y byddwch chi&#8217;n falch o weld ysbryd!<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd y goleudy 41 metr o uchder yn 1809, i rybuddio llongau rhag y creigiau peryglus islaw. Ym 1853, tarodd storm enfawr arfordir M\u00f4n, gan arwain at longddrylliadau niferus. Yn ystod y storm, cwympodd graig gan daro ceidwad y goleudy Jac Jones. Ni chlywodd neb ei grio am help, a bu farw o\u2019i anafiadau dair wythnos yn ddiweddarach. Yn \u00f4l y chwedl, mae ysbryd Jac i\u2019w glywed o hyd yn curo ar ddrysau a ffenestri\u2019r goleudy yn ystod y nos. Mae pobl leol yn honni eu bod wedi clywed s\u0175n traed trwm o amgylch y goleudy, yn ogystal \u00e2 sgrechiadau arswydus. Ac os nad yw hynny\u2019n ddigon, mae eraill wedi gweld drysau\u2019n cael eu hysgwyd a chlywed tapio ar y ffenestri, fel pe bai rhyw greadur truenus yn ceisio lloches rhag storm ofnadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Yvette Fielding a chriw\u2019r rhaglen deledu <em>Most Haunted<\/em> wedi cynnal darllediad byw o\u2019r goleudy ac yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi dod ar draws ceidwad y goleudy yn ystod eu helfa. Honnai\u2019r t\u00eem eu bod wedi gweld ffigwr cysgodol yn eu gwylio drwy ffenest, ond pan aethant i\u2019w dilyn fe neidiodd y ffigwr o\u2019r clogwyni i\u2019r m\u00f4r. Dal ddim yn credu mewn ysbrydion? Mae\u2019r awdur Richard Jones, ymchwilydd paranormal blaenllaw, wedi rhoi sg\u00f4r arswydus o 5 seren i oleudy Ynys Lawd yn ei lyfr diweddaraf,<em> Haunted Britain<\/em>!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: y ffordd orau o gyrraedd Ynys Lawd yw dal bws o Gaergybi. Mae\u2019n rhan o warchodfa natur RSPB ac y mae\u2019r goleudy a chlogwyni yn gwneud diwrnod allan wych i\u2019r teulu cyfan. Am fwy o wybodaeth am amseroedd agor a phrisiau <a href=\"https:\/\/www.rspb.org.uk\/reserves-and-events\/reserves-a-z\/south-stack-cliffs\/\">cliciwch yma<\/a>, ac i drefnu ymweliad a thaith tywys o\u2019r goleudy, <a href=\"https:\/\/www.trinityhouse.co.uk\/lighthouse-visitor-centres\/south-stack-lighthouse-visitor-centre\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">\u2018Drychiolaethau\u2019 traeth Newry<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Caergybi \u2013 gorsaf drenau agosaf: Caergybi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cA dweud y gwir maen nhw\u2019n eitha brawychus&#8230;.yn enwedig o\u2019u gweld yng ngolau\u2019r lleuad.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Daw dirgelwch diddorol arall o Gaergybi ar ffurf yn ffigyrau rhyfedd a fydd yn ymddangos weithiau ar draeth Newry, ychydig funudau ar droed o ganol Caergybi. Mae\u2019r ffigyrau\u2019n ymddangos yn debyg i fodau dynol yn codi o\u2019r d\u0175r ac yn ddrwg-enwog am ddychryn pobl ar y lan, yn enwedig ym mherfeddion tywyll nosweithiau gaeafol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gweld y ffigurau hyn wedi tanio sawl dychymyg, gyda rhai yn eu cymharu ag ysbrydion morwrol llong chwedlonol y Flying Dutchman. Mae llun o\u2019r \u2018ysbrydion\u2019 hyn wedi\u2019i rannu droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer yn s\u00f4n am eu hymddangosiad unigryw ac atmosfferig. Cewch benderfynu drosoch eich hun drwy <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/strange-sea-ghosts-pictured-anglesey-21988402\">glicio yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn gwirionedd, clwstwr o bolion pren o hen ramp bad achub Caergybi wedi\u2019u gorchuddio \u00e2 gwymon yw&#8217;r ffigyrau. Dros y blynyddoedd, mae natur wedi eu siapio\u2019n ffurfiau dynolaidd, sy\u2019n ymddangos pan fo\u2019r llanw ar drai a dychryn pobl sy\u2019n pasio heibio. Ystyrir fod y \u2018drychiolaethau\u2019 hyn yn ein hatgoffa o ddewrder criwiau bad achub Ynys M\u00f4n sydd wedi &#8211; ac yn parhau i &#8211; fentro eu bywydau i helpu eraill ar bob hin.<\/p>\n\n\n\n<p>Er nad yw\u2019r \u2018ysbrydion\u2019 hyn yn oruwchnaturiol, maent yn sicr yn ychwanegu at naws ddirgel a hudol Caergybi, gan wneud y dref yn lle hynod ddiddorol i\u2019r rhai sy\u2019n ymddiddori yn yr iasol ac annearol y Calan Gaeaf hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background\"><strong>Cynllunio ymweliad<\/strong>: o orsaf drenau Caergybi, mae traeth Newry yn daith cerdded o ugain munud o ganol y dref. Dilynwch arwyddion ar gyfer <a href=\"http:\/\/www.holyheadmaritimemuseum.co.uk\/\">Amgueddfa Arforol Caergybi<\/a> ac efallai cynnwys ymweliad i\u2019r amgueddfa arbennig hon ar y ffordd, a dysgu mwy am ddewrder y dynion a merched Cymraeg sydd wedi ymroi eu hunain i\u2019r m\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-stackable-heading stk-block-heading stk-block-heading--v2 stk-block stk-0a0b6e4\" id=\"ysbrydion-dyffryn-conwy-a-href-http-www-conwyvalleyrailway-co-uk-wp-content-uploads-2017-07-liverpoolarms-by-n-chadwick-jpg-a\" data-block-id=\"0a0b6e4\"><h2 class=\"stk-block-heading__text\">Ysbrydion Dyffryn Conwy<a href=\"http:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/liverpoolarms-by-N-Chadwick.jpg\"><\/a><\/h2><\/div>\n\n\n\n<p>Mae cyfoeth o hanes a chwedlau yn y pentrefi a&#8217;r trefi ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy.&nbsp; Mae cestyll a thai sy&#8217;n dyddio&#8217;n \u00f4l cannoedd o flynyddoedd; hen eglwysi, mynwentydd a mwynfeydd sydd wedi bod yn rhan o&#8217;r tir ers cyn cof.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni fydd unrhyw syndod felly, o ddysgu bod Gogledd Cymru yn fan sy&#8217;n llawn gweithgarwch goruwchnaturiol.&nbsp; Os ydych chi&#8217;n credu mewn ysbrydion neu beidio, mae straeon mynachod bygythiol, ysbrydion drygionus ac eneidiau coll trist yn ddiddorol hyd yn oed os nad ydych yn eu coelio.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn mynd ar daith ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy, dyma ychydig o straeon iasol i godi arswyd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Ysbrydion Gwydir \u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn dechrau yng <a href=\"http:\/\/www.gwydircastle.co.uk\/\">Nghastell Gwydir<\/a>, maenordy canoloesol caerog ar gyrion Llanrwst, sy&#8217;n enwog am fod yn un o&#8217;r tai mwyaf arswydus yng Nghymru!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae safle Gwydir wedi&#8217;i feddiannu ers y 6ed ganrif ond daeth i rym yn nwylo teulu Wynn \u2013 uchelwyr Cymreig pwerus a dderbyniodd gymwynas a dylanwad gyda&#8217;r brenhinoedd Tuduraidd.&nbsp; Mae&#8217;n awr yn westy moethus preifat ac mae&#8217;r preswylwyr a&#8217;r gwesteion yn adrodd nifer o ddigwyddiadau rhyfedd ac aruthrol!<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hyn yn ffenomenon newydd, fodd bynnag.&nbsp; Mae gweithgarwch goruwchnaturiol wedi&#8217;i gofnodi yn y t\u0177 ers 19eg ganrif, gyda&#8217;r holl adroddiadau yn gyson o ran yr hyn sy&#8217;n digwydd a ble mae&#8217;n digwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed bod morwyn ifanc yn llechu yn Adain y Gogledd.&nbsp; Mae ganddi arogl afiach o bydredd ac mae&#8217;r tymheredd yn gostwng pan fydd hi i&#8217;w gweld.&nbsp; Er mwyn rhoi gwybod ei bod hi yno, bydd yn eich cyffwrdd ar eich ysgwydd!<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed hanes bod Syr John Wynn wedi hudo morwyn ond pan aeth yn feichiog fe&#8217;i lladdodd a chladdu ei chorff mewn wal.&nbsp; Pan archwiliwyd y t\u0177 flynyddoedd yn ddiweddarach, canfuwyd twll mewn wal &#8211; lle bo&#8217;r arogl afiach ar ei gryfaf!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Gwydir Castle History &amp; Tour \/ Ghosts, Gardens &amp; Peacocks!\" width=\"1290\" height=\"726\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/vGDmeVoOhMI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae rhai wedi clywed plant yn llefain yn yr adeilad pan nad oedd unrhyw blant o gwmpas, mae gan y castell ysbryd ci (canfu&#8217;r perchnogion presennol ysgerbwd ci yn y seler yn ystod y gwaith adnewyddu) ac mae s\u00f4n bod rhai wedi gweld gorymdeithiau yng ngolau ffaglau ar draws y lawnt. \u00a0 <\/p>\n\n\n\n<p>Ond, peidiwch \u00e2 gadael i hyn eich atal, mae Castell Gwydir yn lleoliad gwych i ymweld ag ef.\u00a0 Mae&#8217;r t\u0177 a&#8217;r gerddi rhestredig Gradd I yn enghraifft wych o gelfyddyd Tuduraidd ac mae wedi&#8217;i leoli mewn man hardd 3 milltir y tu allan i Lanrwst.\u00a0 Mae ar agor i&#8217;r cyhoedd rhwng mis Mawrth a mis Hydref.\u00a0 Mae mynediad am ddim.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Dweud &#8216;bw!&#8217;\u00a0 ym Metws \u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Ni fyddwch yn synnu i glywed bod Syr John yn teithio dipyn ac mae ei straeon ysbryd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i waliau Gwydir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae s\u00f4n ei fod yn llechu yn y Rhaeadr Ewynnol, atyniad twristaidd poblogaidd ym Metws-y-Coed.&nbsp; Yn ddiweddar bu archwilwyr dewr o d\u00eem <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/Darkartsparanormal\/posts\/811134272360374\">Dark Arts Paranormal<\/a> yn ffilmio yn y rhaeadr a hawliwyd fod ganddynt ffilm o ddyn yn cerdded ger y rhaeadr.&nbsp; Maent yn credu mai Syr John Wynn ydyw.&nbsp; Yn \u00f4l yr hanes, cadwyd ei ysbryd yma i gael ei &#8216;lanhau, ei buro a&#8217;i boeri arno gan y dyfroedd am byth am y gweithredoedd erchyll a wnaeth yn nyddiau ei fywyd&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Ddim yn credu hyn?\u00a0 Gwnewch benderfyniad eich hun drwy wylio&#8217;r ffilm.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"GHOST CAUGHT ON CAMERA AT SWALLOW FALLS SNOWDONIA MUST WATCH\" width=\"1290\" height=\"726\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/Hn4pIy9DBCA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Ond nid y Rhaeadr Ewynnol yw&#8217;r unig fan ag ysbrydion ym Metws-y-Coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae siop ddillad <a href=\"http:\/\/www.annadavies.co.uk\/\">Anna Davies <\/a>yng nghanol y dref a <a href=\"http:\/\/www.royaloakhotel.net\/\">Gwesty&#8217;r Royal Oak<\/a> yn hawlio eu bod wedi gweld ysbrydion a gweithgarwch ysbrydion drygionus ers yr 1960au.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, taflwyd esgid at berchennog Anna Davies yn y storfa, ac fe ddigwyddodd yr un peth i&#8217;w fam yng nghyfraith ym 1956! Pan yn byw uwchben y siop, fe welodd hi ddrysau&#8217;n cau&#8217;n glep, gwrthrychau&#8217;n symud ac eitemau&#8217;n diflannu&#8217;n rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Ngwesty&#8217;r Royal Oak drws nesaf, mae dynes mewn clogyn a lleian wedi&#8217;u gweld, mae teledu yn troi ymlaen ac yn diffodd heb i neb ei gyffwrdd, a dywed bod sawl ysbryd yn llechu yn y cynteddau.&nbsp; Efallai eu bod yn westeion o&#8217;r dyddiau a fu a oedd wedi mwynhau cymaint nad ydynt yn gallu peidio ag ymweld &#8211; hyd yn oed ar \u00f4l iddynt farw!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Conwy Iasol \u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gastell Conwy, safle brwydrau gwaedlyd ac achosion creulon, yn llawn straeon hefyd.&nbsp; Cyn adeiladu&#8217;r castell roedd Abaty Aberconwy ar safle gerllaw.&nbsp; Trosglwyddodd Edward I y mynachod i Abaty Maenan i wneud lle ar gyfer ei gastell ond fe ymddengys bod rhai preswylwyr yn anfodlon gadael.&nbsp; Mae straeon bod dau ffigwr mewn cwfl, mynachod o bosibl, yn ymddangos yn y castell.&nbsp; Maent yn hofran heb symud, gan edrych fel eu bod yn arnofio yn yr awyr, ac nid oes ganddynt draed na nodweddion ar eu hwynebau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiweddar, mae llais heb gorff wedi bod yn dychryn ymwelwyr y castell.\u00a0 Mae t\u00eem Dark Arts Paranormal wedi recordio EVP (Ffenomenon Llais Trydanol) o ferch fach yn sibrwd &#8220;don&#8217;t tell them&#8221; \u2013 gwrandewch ar y clip sain<a href=\"http:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/conwy-castle-ghost-hunters-claim-12089359\"> <\/a>i weld os ydych chi&#8217;n ei glywed.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"HAUNTED CONWY CASTLE THIS IS SOOO HIGH! UNEXPECTED EVP!\" width=\"1290\" height=\"726\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/JSKHFG66rZ0?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Yng nghanol Conwy mae <a href=\"http:\/\/cadw.gov.wales\/daysout\/plasmawr\/?lang=en\">Plas Mawr,<\/a> t\u0177 tref Elisabethaidd mawreddog.&nbsp; Hwn oedd cartref Robert Wynn a&#8217;i deulu, masnachwyr cyfoethog a pherthnasoedd teulu Wynn Gwydir.&nbsp; Dywed hanes fod gwraig feichiog Robert, Dorothy, a&#8217;i fab ifanc yn aros iddo ddychwelyd a bob nos roeddent yn mynd i&#8217;r t\u0175r uchaf i weld a allant weld eu harglwydd yn dychwelyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Un noson drasig, baglodd Dorothy ar y grisiau ac fe ddisgynnodd hithau a&#8217;i mab gan achosi anafiadau difrifol.&nbsp; Galwodd yr aelwyd feddyg y teulu, ond fe gyrhaeddodd meddyg ifanc, rhyfedd a ddywedodd bod ei feistr wedi&#8217;i alw i rywle ar frys.&nbsp; Canfu&#8217;r meddyg ifanc nad oedd yn ddigon profiadol; roedd yr anafiadau ymhell y tu hwnt i&#8217;w sgiliau cyfyngedig.&nbsp; Ond bu i&#8217;r aelwyd ei atal rhag gadael gan gloi&#8217;r meddyg ifanc yn yr ystafell gyda Dorothy, ei baban yn y groth a&#8217;i mab ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, bu farw&#8217;r teulu, ac aeth y meddyg, gan ofni am ei fywyd, i guddio yn y simnai rhag meistr y t\u0177.&nbsp; Pan ddychwelodd Robert roedd wedi&#8217;i lethu gan alar ac fe addawodd y byddai&#8217;n dial ar y meddyg ifanc.&nbsp; Chwiliodd drwy&#8217;r t\u0177 cyfan ond nid oedd unrhyw \u00f4l o&#8217;r meddyg.&nbsp; Credir ei fod wedi cuddio a marw yn y rhwydwaith cymhleth o simneiau sy&#8217;n croesi ym Mhlas Mawr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymwelwyr y t\u0177 yn honni eu bod wedi clywed s\u0175n clecian uwch eu pennau (y meddyg yn ceisio dianc o&#8217;i garchar llawn huddygl), s\u0175n traed, wynebau aneglur yn y ffenestr ac arogl tybaco cryf.&nbsp; Ewch i&#8217;r Neuadd Fawr ac efallai y bydd Robert Wynn yn eich cyfarch \u00e2 &#8220;helo&#8221; arswydus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiadau rhyfedd yng Nghei Conwy hefyd.&nbsp; Mae&#8217;r T\u0177 Lleiaf ym Mhrydain yn arogli&#8217;n gryf o dd\u0175r hallt a physgod pan gaiff ei agor yn y bore.&nbsp; Nid yw&#8217;n synod felly ei fod yn gartref i bysgotwr ar un adeg \u2013 mae s\u00f4n bod ei ysbryd direidus yn profocio&#8217;r ymwelwyr ac yn tynnu ar eu dillad hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychydig ddrysau i lawr y l\u00f4n, mae&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.liverpoolarmsconwy.net\/index\">Liverpool Arms<\/a> yn gartref i ysbrydion hefyd.&nbsp; Mae dyn gyda phlentyn bach ar ei ysgwyddau yn llechu yno &#8211; cyn landlord y dafarn a gollodd ei fab a foddodd yn yr afon yn yr 1930au.&nbsp; Weithiau gellir gweld mynach sinistr yn cuddio y tu \u00f4l i&#8217;r adeilad; credir ei fod yn arwydd o farwolaeth rhywun sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r dafarn.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych chi straeon ysbryd am Ddyffryn Conwy, byddem wrth ein bodd yn eu clywed.\u00a0 Yn y cyfamser, gobeithio na fyddwch yn cael hunllefau!<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6117,"template":"","class_list":["post-6118","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru Gan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru. O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae\u2019r [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-17T11:47:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"13 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/\",\"name\":\"Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"datePublished\":\"2015-10-19T17:43:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-17T11:47:54+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg\",\"width\":1280,\"height\":960,\"caption\":\"default\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Hydref &#8211; Calan Gafa\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru Gan fod Calan Gaeaf yn prysur nes\u00e1u, mae\u2019n hen bryd i ni fentro i ymweld \u00e2 rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru. O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae\u2019r [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2024-10-17T11:47:54+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":960,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"13 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/","name":"Hydref - Calan Gafa - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg","datePublished":"2015-10-19T17:43:00+00:00","dateModified":"2024-10-17T11:47:54+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-_-\u00a9-Crown-copyright-2023-Cymru-Wales-NVW-F45-2324-0422.jpg","width":1280,"height":960,"caption":"default"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/october-halloween\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Hydref &#8211; Calan Gafa"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/6118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6117"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}