{"id":6112,"date":"2018-07-19T17:49:00","date_gmt":"2018-07-19T16:49:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/"},"modified":"2024-06-28T09:48:23","modified_gmt":"2024-06-28T08:48:23","slug":"july-alfresco-adventures","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/","title":{"rendered":"Gorffennaf &#8211; Anturiaethau Alfresco"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size\">Cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn!<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i\u2019n cymdogion ar y cyfandir, sy\u2019n bwyta ac yn yfed yn yr awyr agored gydol y flwyddyn bron, bydd tywydd anwadal ein hynys yn aml yn penderfynu a ydym yn mwynhau diodydd yn yr ardd ynteu swper ar hambwrdd o flaen y teledu!<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n bwriadu dod i Ogledd Cymru yn ystod yr haf ac yn mwynhau bwyta allan, mae gwledd yn eich aros! Mae\u2019r ardal yn llawn tafarnau a bwytai braf sy\u2019n cynnig y cyfuniad perffaith o leoliadau deniadol yn yr awyr agored a phrydau bwyd blasus i\u2019w mwynhau. O dafarnau cefn gwlad hynafol i fwytai ffasiynol ar yr arfordir, mae rhywbeth i blesio pob chwaeth. Ac, yn well byth, mae rhai o\u2019r mannau bwyta gorau o fewn pellter cerdded hawdd neu siwrnai fer mewn tacsi o\u2019r orsaf \u2013 ni fydd yn rhaid i neb wirfoddoli i yrru!<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y blog hwn, mi ydym yn cyflwyno ein hoff dafarnau lle cewch fwyta yn yr awyr agored \u2013 os ydych yn chwilio am rywle sy\u2019n addas i\u2019r teulu cyfan, rhywle sy\u2019n croesawu c\u0175n neu bryd rhamantus i ddau, rydych yn si\u0175r o ddod o hyd i\u2019r lle perffaith i fwynhau gwledda yn ystod yr haf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r tafarnau a\u2019r bwytai rydym wedi\u2019u dewis i gyd yn agos at naill ai Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Cofiwch wirio\u2019r amserlen ar <a href=\"https:\/\/www.traveline.cymru\">Traveline Cymru<\/a> cyn cychwyn, i wneud yn si\u0175r bod gennych ffordd o gyrraedd adref!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">The Cottage Loaf &#8211; Llandudno<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6108\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Image Credit &#8211; Cottage Loaf, Llandudno <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Fel un o\u2019r tafarnau hynaf yn nhref glan m\u00f4r Llandudno, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/the-cottageloaf.co.uk\">Cottage Loaf<\/a> yn dafarn glyd sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei hawyrgylch cynnes a chroesawgar drwy gydol y flwyddyn. Ond yn yr haf mae\u2019r dafarn guddiedig hon yn dod i\u2019w bri. Gyda\u2019i libart caeedig yn y cefn a theras eang llawn blodau yn y ffrynt, mi fydd gennych ddigon o ddewis wrth benderfynu lle rydych am eistedd i ddal yr haul. Os bydd yr awel yn fain, mi allwch ddewis o blith y mannau bwyta dan do; ac mae drysau sy\u2019n agor i\u2019r libart i gael y gorau o\u2019r ddau fyd!<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wrth ein bodd \u00e2\u2019r Cottage Loaf am ei bod yn dafarn ddelfrydol ar gyfer pob achlysur. Mae\u2019n croesawu teuluoedd <em>a <\/em>ch\u0175n, ac mi ydych yn si\u0175r o gael croeso cynnes gyda digon o bobl i sgwrsio \u00e2 hwy \u2013 yn bobl leol ac ymwelwyr. Ond, os mai diod fach dawel \u00e2 rhywun arbennig sy\u2019n mynd \u00e2\u2019ch bryd, mae digon o gilfachau bach tawel lle gallwch ymlacio a mwynhau\u2019r awyrgylch.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Y Stablau, Gwesty\u2019r Royal Oak &#8211; Betws-y-Coed<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6110\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Y-Stablau-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Fel un o\u2019r adeiladau enwocaf yng nghanol Betws-y-coed, dechreuodd Gwesty\u2019r Royal Oak fel gwesty ar gyfer y goets fawr a deithiai o Lundain i Gaergybi. Roedd yn fan aros poblogaidd i bobl oes Fictoria a oedd yn awyddus i brofi\u2019r golygfeydd alpaidd ac mae poblogrwydd y pentref yn parhau hyd heddiw. Mi allwch chwithau hefyd fwynhau awyr iach y mynyddoedd yn <a href=\"https:\/\/www.ystablau.com\">Y Stablau<\/a>, y bar bistro ffyniannus sy\u2019n rhan o\u2019r gwesty. Llai na phum munud o gerdded o\u2019r orsaf, mae gan Y Stablau deras mawr, dan do, gyda goleuadau lliwgar, dodrefn pren cadarn a gwresogyddion patio, sy\u2019n golygu y gallwch fod yn yr awyr agored gydol y flwyddyn heb boeni am y tywydd anwadal!<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod peth o awyrgylch y caban sg\u00efo yma, mae\u2019n dafarn Gymreig draddodiadol sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei chroeso Cymreig cynnes; mi allwch ddisgwyl llond pl\u00e2t o fwyd a dewis helaeth o ddiodydd. Mae\u2019n lle bywiog o fore tan nos, ond heb ymdeimlad ffuantus sy\u2019n golygu bod pawb yn ymlacio, sy\u2019n ei gwneud yn ddewis da i deuluoedd a chyplau. Ac mae croeso i g\u0175n hefyd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">The Mulberry &#8211; Conwy<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tref ganoloesol Conwy yn gyrchfan sydd i\u2019w mwynhau orau ar droed ac mae ein taith gerdded i\u2019n tafarn nesaf yn sicr yn werth yr ymdrech. Wedi\u2019i lleoli ychydig y tu allan i furiau\u2019r dref ac yn edrych draw am Farina Conwy, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/mulberryconwy.pub\/\">Mulberry<\/a> yn cynnig y profiad bwyta arfordirol perffaith. Mae dec haul helaeth y dafarn yn ein hatgoffa o lefydd ffasiynol yn Ibiza ond gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Aber Afon Conwy a Phen y Gogarth \u2013 mae\u2019n hynod drawiadol, yn enwedig pan fydd yr haul yn machlud.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond mae hon yn dafarn sy\u2019n croesawu\u2019r teulu cyfan \u2013 fel y gwelir yn y man chwarae awyr agored sydd ar thema m\u00f4r ladron a\u2019r fwydlen arbennig i blant. Yn naturiol, mae croeso i g\u0175n ar y dec haul ond, os bydd y tywydd yn troi, mae rhan fechan o du mewn y dafarn wedi\u2019i neilltuo i\u2019n ffrindiau pedair coes.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">The Gazelle Hotel &#8211; Menai Bridge<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i lleoli ar lan y Fenai, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.robinsonsbrewery.com\/pubs\/gazelle-hotel-menai-bridge\/\">Gazelle Hotel<\/a> yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyta yn yr awyr agored, ac mi fydd dewisiadau di-ben-draw pan fydd yr haul yn tywynnu. O\u2019r gerddi teras braf, i\u2019r dec ar lan y d\u0175r, mi all yfwyr a bwytawyr ddilyn yr haul drwy\u2019r dydd. Rydym wrth ein bodd \u00e2 lleoliad y dafarn hon, ond a wyddoch chi fod ganddi ei thraeth bach ei hun hefyd? Mi fydd plant bach (a mawr) yn mwynhau\u2019r cyfle i ddilyn yr arfordir tra bydd gweddill y teulu\u2019n ymlacio \u00e2 diod braf gerllaw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r fwydlen yn un fechan ond mae rhywbeth at ddant pawb ac mae\u2019n cynnwys hen ffefrynnau fel prydau ysgafn a chinio dydd Sul. Gyda cherddoriaeth fyw, barbeciws a digwyddiadau ar benwythnosau yn ystod yr haf, mae\u2019r dafarn yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr \u2013 ac mae hynny\u2019n cyfrannu at yr awyrgylch. Os ydych yn rhy fodlon eich byd i adael i ddal y tr\u00ean, mae gan y Gazelle sawl ystafell i westeion ar thema\u2019r arfordir (ac mae croeso i g\u0175n mewn tair ohonynt).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">The Oyster Catcher &#8211; Rhosneigr<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych am leoliad sy\u2019n cyflymu\u2019r galon, does dim rhaid edrych ymhellach na\u2019r <a href=\"https:\/\/www.oystercatcheranglesey.co.uk\/\">Oyster Catcher<\/a> yn Rhosneigr. Mae gan y pentref glan m\u00f4r bychan hwn ar arfordir M\u00f4n rywbeth i bawb, ac mae\u2019n boblogaidd gyda rhai sy\u2019n mwynhau chwaraeon d\u0175r, golff, ac ymhlith teuluoedd. Mae dau draeth hardd, sawl siop bwt\u00eec a phrif gwrs golff M\u00f4n yn golygu bod y pentref yn gyrchfan brysur drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn cuddio yng nghanol y twyni tywod a thafliad carreg o\u2019r traeth, mae gan yr Oyster Catcher ddigonedd o le i eistedd allan. O\u2019r Wave Table &amp; Garden anghyffredin i\u2019r dec haul panoramig, mi all teuluoedd a ffrindiau ymlacio a mwynhau pryd o fwyd hamddenol gyda golygfa i\u2019w chofio. Mae yno hefyd far awyr agored sy\u2019n croesawu c\u0175n, Will\u2019s Bar, ac sy\u2019n gweini byrbrydau a diodydd i g\u0175n a phobl!&nbsp;Beth bynnag fo\u2019r tywydd, mae\u2019r chwe sefydliad uchod i gyd yn cynnig bwyd da, awyrgylch braf a chroeso cynnes. Rydym yn credu bod mwynhau hyn i gyd <em>a\u2019r <\/em>awyr iach yn ystod eich ymweliad yn fonws gwerth chweil! Mi hoffem glywed am eich hoff fannau chi i fwyta allan yn y Gogledd. Pam na wnewch chi rannu lluniau ohonoch yn mwynhau prydau bwyd yn ystod yr haf ar ein cyfryngau cymdeithasol? Ewch i\u2019n tudalen ar <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/conwyvalleynorthwalescoast\">Facebook<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/conwyvalleynorthwalescoast\/\">Instagram<\/a> neu <a href=\"https:\/\/x.com\/ConwyVNWCoast\">X<\/a> i rannu eich atgofion o\u2019r haf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size\">Gwesty\u2019r Fali &#8211; Y Fali<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond taith gerdded fer o\u2019r orsaf, mae <a href=\"https:\/\/valleyanglesey.co.uk\/\">Gwesty\u2019r Fali<\/a> yn cynnig croeso cynnes Cymreig a bwyd tafarn calonogol mewn bar a bwyty sydd wedi\u2019u hadnewyddu\u2019n ddiweddar. A phan mae\u2019r tywydd yn braf, pluen yn het y tafarn hwn yw\u2019r ardal awyr agored eang. Gydag ardal chwarae wych i blant, a digonedd o le i g\u0175n (mae croeso mawr iddyn nhw hefyd, wrth gwrs), gallwch fwynhau\u2019r haul ar y lawnt neu ymlacio ger Bar yr Ardd ar y teras hyfryd. Cewch ddewis o blith glasuron bwyd tafarn oddi ar Brif Fwydlen y Fali, neu dewiswch rywbeth ysgafnach o Fwydlen yr Ardd, chi biau\u2019r dewis!<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda 19 o ystafelloedd sydd hefyd wedi eu hadnewyddu\u2019n ddiweddar, mae Gwesty&#8217;r Fali hefyd yn fan cychwyn perffaith i chi grwydro\u2019r ynys. Mae ei leoliad yng nghanol Ynys M\u00f4n yn golygu fod holl atyniadau\u2019r ynys yn hawdd eu cyrraedd ar drenau neu drafnidiaeth gyhoeddus arall.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6109,"template":"","class_list":["post-6112","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn! Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-28T08:48:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-1024x682.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"682\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/\",\"name\":\"Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"datePublished\":\"2018-07-19T16:49:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-28T08:48:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1333,\"caption\":\"Cottage Loaf, Llandudno - Stange &amp; Co T038 N.Wales Pub Exteriors\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gorffennaf &#8211; Anturiaethau Alfresco\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn! Gyda\u2019r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau\u2019n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o\u2019n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2024-06-28T08:48:23+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":682,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf-1024x682.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/","name":"Gorffennaf - Anturiaethau Alfresco - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg","datePublished":"2018-07-19T16:49:00+00:00","dateModified":"2024-06-28T08:48:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/The-Cottage-Loaf.jpg","width":2000,"height":1333,"caption":"Cottage Loaf, Llandudno - Stange &amp; Co T038 N.Wales Pub Exteriors"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/july-alfresco-adventures\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gorffennaf &#8211; Anturiaethau Alfresco"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/6112","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6109"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6112"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}