{"id":6051,"date":"2020-05-26T21:01:00","date_gmt":"2020-05-26T20:01:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/may-castles\/"},"modified":"2024-04-26T21:11:45","modified_gmt":"2024-04-26T20:11:45","slug":"may-castles","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/","title":{"rendered":"Mai &#8211; Cestyll"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size\">Cestyll arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cestyll yr ardal hon ymhlith y gorau yn Ewrop, felly beth am ymweld \u00e2 nhw a mwynhau\u2019r golygfeydd gwych o\u2019u hamgylch ar ddiwrnod allan gwych yng Ngogledd Cymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cestyll mwyaf adnabyddus yn rhan o \u2018Gylch Haearn\u2019 enwog Edward I. Y rhain yw\u2019r cestyll anferth sy\u2019n amddiffyn Gogledd Cymru o Gonwy i Harlech. Ar un adeg, y llinyn o gestyll bygythiol ac arswydus hyn oedd un o brosiectau adeiladu canoloesol mwyaf Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chestyll enwog Edward, mae yma sawl castell sy\u2019n llai o ran maint, ond yr un mor drawiadol. Mae gan bob un ei stori ddiddorol ei hun i\u2019w hadrodd, ac mae pob un wedi chwarae rhan bwysig iawn yn hanes Cymru hefyd. Eisiau darganfod mwy? I ffwrdd \u00e2 ni!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Castell Deganwy \u2013 gorsaf agosaf Deganwy<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ychydig o ffosydd, pentyrrau o rwbel a cherrig sydd ar \u00f4l yng&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.visitwales.com\/destinations\/north-wales\/deganwy\">Nghastell Deganwy<\/a>&nbsp;erbyn hyn, ond mae ganddo hanes sy\u2019n dyddio\u2019n \u00f4l dros 1,000 o flynyddoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r golygfeydd o ben y Fardre \u2013 y ddwy graig lle\u2019r oedd y castell yn sefyll \u2013 ymhlith y gorau yng Ngogledd Cymru. Ar ddiwrnod clir gallwch weld am filltiroedd i bob cyfeiriad; prawf o bwysigrwydd strategol y safle fel caer amddiffynnol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l pob tebyg, fe wnaeth y Cymry etifeddu\u2019r safle yn yr 2il ganrif ond yr arglwydd Normanaidd, Robert o Ruddlan, oedd yn gyfrifol am adeiladu\u2019r castell carreg cyntaf yma yn 1080. Dinistriwyd y castell gan y Cymry pan wnaethant gipio\u2019r safle ar ddiwedd y 12fed ganrif.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"6047\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0113-1024x768.jpg\" alt=\"Aerial view of a lush green hill with ruins overlooking a coastal town during sunset.\" class=\"wp-image-6047\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0113-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0113-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0113-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0113.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" data-id=\"6045\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0093-1024x683.jpg\" alt=\"An information plaque mounted on a stone base, located outdoors. The plaque contains text, which is not legible in this image.\" class=\"wp-image-6045\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0093-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0093-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0093-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NVW-F22-2324-0093.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-small-font-size\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd castell newydd gan Llywelyn Fawr yn 1213 ond prin yw\u2019r olion o\u2019r castell hwn heddiw. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1240, penderfynodd ei feibion ddinistrio\u2019r castell yn hytrach na\u2019i roi i\u2019r Brenin John. Pan gyrhaeddodd y Saeson, roedd yn rhaid iddynt gysgu mewn pebyll gan fod y castell wedi\u2019i ddinistrio\u2019n llwyr!<\/p>\n\n\n\n<p>Adfeilion y castell a adeiladwyd yn ystod teyrnasiad Harri III sydd i\u2019w gweld yma heddiw. Gadawodd y Saeson y safle pan benderfynodd mab Harri, Edward I, adeiladu castell newydd yng Nghonwy, mewn safle strategol ar lan yr afon. Yn \u00f4l yr hanes, defnyddiwyd cerrig o gastell&nbsp;Deganwy i adeiladu castell a muriau tref Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Castell Conwy \u2013 gorsaf agosaf Conwy<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae castell eiconig Conwy yn un o gestyll Cylch Haearn Edward I. Gallwch gerdded i\u2019r castell o orsaf Cyffordd Llandudno mewn rhyw 20 munud, gan groesi\u2019r cob a\u2019r bont dros yr afon i dref Conwy. Mae\u2019r castell a\u2019r lleoliad mor adnabyddus a hygyrch, roedd yn rhaid i ni ei gynnwys ar ein rhestr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i chi groesi\u2019r bont, mae\u2019r castell yn bwrw cysgod dros y dref a\u2019r afon fel anghenfil anferth, llwyd. Mae\u2019n hawdd dychmygu y byddai\u2019n codi arswyd ar y Cymry brodorol ac yn codi ofn ar unrhyw wrthryfelwyr!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-VH08-1718-0091-1024x682.jpg\" alt=\"Historic medieval castle with multiple towers by a river with an arched stone bridge in the foreground.\" class=\"wp-image-6043\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-VH08-1718-0091-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-VH08-1718-0091-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-VH08-1718-0091-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-VH08-1718-0091.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd y castell gan James of St George (prif adeiladwr cestyll Edward I), a hwn yw un o\u2019r cestyll canoloesol gorau o\u2019i fath ym Mhrydain. Mae\u2019r golygfeydd mewnol yr un mor drawiadol \u00e2\u2019r rhai allanol!<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wahanol i gestyll eraill y cyfnod, adeiladwyd y castell ar si\u00e2p hirsgwar, a hynny o bosibl er mwyn manteisio ar ffurf y tir. Gyda\u2019i ddau ragfur anferth (pyrth amddiffynnol), ei wyth t\u0175r uchel a neuadd fawr, mae Castell Conwy yn cyfleu teimlad o gryfder a mawredd i bawb sy\u2019n camu heibio\u2019r muriau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/www.visitwales.com\/attraction\/castle\/conwy-castle-cadw-527979\">Castell Conwy a Muriau\u2019r Dref\u00a0<\/a>\u00a0yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a\u2019r dref hanesyddol hon yw un o\u2019r atyniadau mwyaf poblogaidd ymhlith ymwelwyr yng Ngogledd Cymru. Gallwch gerdded o amgylch y muriau \u00be milltir o hyd sy\u2019n amgylchynu tref Conwy, gan fwynhau golygfa unigryw o\u2019r dref a\u2019r bobl. O\u2019r murfylchau, gallwch fwynhau golygfeydd gwych o\u2019r m\u00f4r a\u2019r mynyddoedd, yn ogystal \u00e2 chael cipolwg diddorol ar erddi a lonydd cefn preswylwyr Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Castell Dolwyddelan \u2013 gorsaf agosaf Dolwyddelan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l y s\u00f4n, cafodd yr arwr cenedlaethol, Llywelyn Fawr, ei eni yng&nbsp;<a href=\"https:\/\/eryri.llyw.cymru\/darganfod\/hanes-a-threftadaeth\/cestyll-a-safleoedd-hanesyddol\/castell-dolbadarn\/?_gl=1*1rlv3ae*_ga*MTU2ODgwMjA1MC4xNzEyNjU4NTU2*_ga_2SRYFPWD50*MTcxMjY1ODU1Ni4xLjAuMTcxMjY1ODU1Ni4wLjAuMA..\">Nghastell Dolwyddelan<\/a>. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hollol gywir.&nbsp;<em>Castell Tomen<\/em>, bryngaer gyfagos yw man geni Llywelyn; tybed allwch chi weld y fryngaer o ben t\u0175r Castell Dolwyddelan?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn debyg i Gastell Dolbadarn yn Llanberis, adeiladodd Llewelyn y t\u0175r syml hwn o lechi lleol ac er ei fod yn edrych fel castell nodweddiadol o ran ei ddyluniad, mae\u2019r dewis diddorol o ddeunyddiau adeiladu yn ei wneud yn gwbl Gymreig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"810\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-SC01-1516-0135-1024x810.jpg\" alt=\"Ruins of an old stone castle located on a grassy hill in the foreground, with a backdrop of rolling green hills and sparse woodland under a partly cloudy sky.\" class=\"wp-image-6041\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-SC01-1516-0135-1024x810.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-SC01-1516-0135-300x237.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-SC01-1516-0135-768x607.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-SC01-1516-0135.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn dilyn marwolaeth Llywelyn, aeth Edward I ati i drwsio\u2019r castell ac adeiladodd ail d\u0175r. Ar \u00f4l adeiladu ei \u2018Gylch Haearn\u2019, nid oedd Dolwyddelan mor bwysig yn strategol ond goroesodd y castell serch hynny. Dros y canrifoedd, ychwanegwyd llawr arall a\u2019r murfylchau bylchog nodedig. Daeth y castell o dan warchodaeth&nbsp;<a href=\"http:\/\/cadw.gov.wales\/?lang=en\">CADW<\/a>&nbsp;\u2013 y sefydliad sy\u2019n gyfrifol am gynnal a chadw henebion yng Nghymru \u2013 yn yr ugeinfed ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r daith i ben y castell yn werth yr ymdrech \u2013 cewch eich gwobrwyo \u00e2 golygfeydd godidog o Ddyffryn Lledr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Castell Penrhyn \u2013 gorsaf agosaf Bangor<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/cy\/visit\/wales\/penrhyn-castle-and-garden\">Castell Penrhyn<\/a>\u00a0yn cyfuno mawredd hanesyddol a harddwch naturiol, a does dim syndod felly ei fod yn gyrchfan atyniadol iawn i ymwelwyr. Adeiladwyd y castell neo-Normanaidd hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar arddull ganoloesol, ac mae bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Heddiw, mae\u2019n dyst i uchelgais bensaern\u00efol oes Victoria. Mae\u2019r lleoliad strategol yn cynnig golygfeydd gwych o dirweddau garw Eryri a harddwch afon Menai, yn ogystal ag ymgorffori obsesiwn y cyfnod Fictoraidd \u00e2 grym a mawredd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hanes y castell yr un mor nodedig \u00e2\u2019r bensaern\u00efaeth, gan iddo chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol ac economaidd y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 Chwarel y Penrhyn ym mhentref cyfagos Bethesda. Mae\u2019r elfen hon yn ychwanegu haen o gymhlethdod i\u2019w hanes, gan adlewyrchu\u2019r cyfoeth a dylanwad a ddaeth yn sgil mentrau diwydiannol, ochr yn ochr \u00e2\u2019r tensiynau cymdeithasol a ddeilliodd o hyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/SVW-E18-2122-0027-1024x683.jpg\" alt=\"An ancient stone tower stands tall against a bright blue sky, surrounded by vibrant yellow daffodils in the foreground and green grass.\" class=\"wp-image-6049\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/SVW-E18-2122-0027-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/SVW-E18-2122-0027-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/SVW-E18-2122-0027-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/SVW-E18-2122-0027.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Gall ymwelwyr ddysgu mwy am orffennol y castell ac ymweld \u00e2\u2019r ystafelloedd crand. Mae ymweld ag ardaloedd cyhoeddus a phreifat y castell, gan gynnwys y geginau a\u2019r ystafelloedd gwely a ddefnyddiwyd gan aelodau o\u2019r teulu brenhinol ar un adeg, yn datgelu llawer am ffordd o fyw ac arferion y preswylwyr hanesyddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, mae Castell Penrhyn yn gartref i amgueddfa reilffordd ddiddorol. Mae\u2019r amgueddfa nid yn unig yn dathlu datblygiadau technolegol y cyfnod ond hefyd yn cysylltu\u2019r castell \u00e2 diwydiant a threftadaeth gyfoethog y diwydiant llechi lleol. Mae\u2019r locomotifau sydd i\u2019w gweld yma yn amlygu r\u00f4l ganolog y rheilffyrdd yng ngweithgareddau diwydiannol a hanes economaidd yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r castell wedi\u2019i amgylchynu gan barcdir eang lle gallwch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored. Gallwch grwydro\u2019r gerddi ffurfiol neu\u2019r llwybrau coetir sy\u2019n arddangos y grefft o ddylunio a chynnal tirweddau oes Victoria. Gyda\u2019r fath amrywiaeth o ardaloedd awyr agored braf, o faes chwarae antur i lecynnau tawel, does ryfedd bod y castell yn denu cynifer o deuluoedd a phobl sy\u2019n mwynhau hanes.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Castell y Fflint \u2013 gorsaf agosaf y Fflint<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r castell hwn ger aber afon Dyfrdwy o fewn cyrraedd hwylus i\u2019r orsaf. Mae\u2019n enghraifft wych o bensaern\u00efaeth filwrol ganoloesol ac roedd yn safle pwysig yn hanes cythryblus Cymru a Lloegr. Adeiladwyd y castell ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a dyma\u2019r cyntaf o gestyll \u2018Cylch Haearn\u2019 Edward I, y rhwydwaith strategol o amddiffynfeydd a godwyd er mwyn gorfodi rheolaeth y Saeson ar Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Castell y Fflint yw\u2019r castell agosaf at y ffin \u00e2 Lloegr, a chwaraeodd rhan bwysig iawn felly yn yr ymgyrch hanesyddol rhwng y ddwy wlad. Roedd y lleoliad hwn ar lan afon Dyfrdwy yn bwysig yn strategol ac yn safle nodedig nid yn unig o safbwynt amddiffynnol ond hefyd er mwyn darparu cyflenwadau ar gyfer coron Loegr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018-1024x682.jpg\" alt=\"Ruins of an old stone castle with towers against a clear sky, surrounded by an open grassy field.\" class=\"wp-image-6039\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/cadw.llyw.cymru\/ymweld\/lleoedd-i-ymweld\/castell-y-fflint?_gl=1*1lh0u6e*_ga*MTU2ODgwMjA1MC4xNzEyNjU4NTU2*_ga_B2BCVKM874*MTcxMjY1OTczMy4xLjAuMTcxMjY1OTczMy42MC4wLjA.\">Castell y Fflint<\/a>&nbsp;yn enghraifft wych o beirianneg a strategaeth filwrol ganoloesol, ac mae\u2019n cynnwys nodweddion fel ffos amddiffynnol a beili mewnol wedi\u2019i amddiffyn gan d\u0175r crwn ar wah\u00e2n o\u2019r enw&nbsp;<em>donjon<\/em>. Roedd y&nbsp;<em>donjon<\/em>, t\u0175r wedi\u2019i godi ar ynys bwrpasol y tu mewn i furiau\u2019r castell, yn nodedig iawn o ran ei ddyluniad a\u2019i bwysigrwydd strategol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf ei amlygrwydd cynnar, daeth Castell y Fflint yn llai pwysig dros y canrifoedd, yn enwedig ar \u00f4l concwest Cymru. Chwaraeodd r\u00f4l yn Rhyfel Cartref Lloegr ond cafodd ei adael yn wag yn y pen draw ac aeth yn adfail. Heddiw, mae\u2019r adfeilion yn cynnig cipolwg ar y gorffennol, ac mae\u2019r muriau cerrig anferth a gweddillion y tyrau yn denu ymwelwyr i\u2019r safle.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid lle ar gyfer pobl sy\u2019n ymddiddori mewn hanes yn unig yw hwn, mae hefyd yn denu\u2019r rhai sy\u2019n gwerthfawrogi harddwch a thawelwch tirweddau Cymru. Mae\u2019r golygfeydd o\u2019r castell ar draws yr aber a\u2019r cefn gwlad cyfagos yn wirioneddol syfrdanol ac yn gefnlen berffaith i fyfyrio ar hanes cythryblus y safle.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Dechrau eich taith chwedlonol eich hun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-stackable-text stk-block-text stk-block stk-f883135\" data-block-id=\"f883135\"><p class=\"stk-block-text__text\">Felly dyna ni. Taith o\u2019r arfordir i\u2019r mynyddoedd; taith yn \u00f4l mewn amser. Os oeddech chi\u2019n credu mai\u2019r \u20184 castell mawr\u2019\u2013 Conwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares \u2013 oedd yr unig rai i\u2019w gweld yng Ngogledd Cymru, gobeithio fod hyn wedi gwneud i chi ailfeddwl.\u00a0<\/p><\/div>\n","protected":false},"featured_media":6040,"template":"","class_list":["post-6051","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cestyll arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru! Mae cestyll yr ardal hon ymhlith y gorau yn Ewrop, felly beth am ymweld \u00e2 nhw a mwynhau\u2019r golygfeydd gwych o\u2019u hamgylch ar ddiwrnod allan gwych yng Ngogledd Cymru.&nbsp; Mae\u2019r cestyll mwyaf adnabyddus yn rhan o \u2018Gylch Haearn\u2019 enwog Edward I. Y rhain yw\u2019r cestyll anferth sy\u2019n amddiffyn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-04-26T20:11:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/\",\"name\":\"Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg\",\"datePublished\":\"2020-05-26T20:01:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-04-26T20:11:45+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853,\"caption\":\"Wide view of the east range from the outer ward bank Flint Castle Cadw Sites SAMN: FL003 NGR: SJ246732 Flintshire North Castles Medieval Defence Historic Sites\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Mai &#8211; Cestyll\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Cestyll arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru! Mae cestyll yr ardal hon ymhlith y gorau yn Ewrop, felly beth am ymweld \u00e2 nhw a mwynhau\u2019r golygfeydd gwych o\u2019u hamgylch ar ddiwrnod allan gwych yng Ngogledd Cymru.&nbsp; Mae\u2019r cestyll mwyaf adnabyddus yn rhan o \u2018Gylch Haearn\u2019 enwog Edward I. Y rhain yw\u2019r cestyll anferth sy\u2019n amddiffyn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2024-04-26T20:11:45+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/","name":"Mai - Cestyll - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg","datePublished":"2020-05-26T20:01:00+00:00","dateModified":"2024-04-26T20:11:45+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/NCX-DR01-1718-0018.jpg","width":1280,"height":853,"caption":"Wide view of the east range from the outer ward bank Flint Castle Cadw Sites SAMN: FL003 NGR: SJ246732 Flintshire North Castles Medieval Defence Historic Sites"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/may-castles\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Mai &#8211; Cestyll"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/6051","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6040"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6051"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}