{"id":5985,"date":"2021-04-26T21:02:00","date_gmt":"2021-04-26T20:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?post_type=inspire-me&#038;p=5985"},"modified":"2025-03-31T12:49:21","modified_gmt":"2025-03-31T11:49:21","slug":"ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren","status":"publish","type":"inspire-me","link":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/","title":{"rendered":"Ebrill &#8211; Diwrnodau allan ar y tr\u00ean"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Diwrnodau allan am ddim i\u2019r teulu ar y tr\u00ean yng ngogledd Cymru<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ceisio cadw\u2019r plant yn ddiddan dros y gwyliau ysgol yn broblem gyffredin i rieni, a gall fod yn gostus iawn hefyd. Gan fod y plant wedi arfer \u00e2 threfn ddyddiol yr ysgol, chwaraeon a gweithgareddau ar \u00f4l ysgol, does dim syndod eu bod yn diflasu yn ystod y gwyliau. Mae anfon y plant i wersylloedd chwaraeon a chlybiau gwyliau yn ddrud, ac er bod y rhain o gymorth mawr i deuluoedd prysur, does dim rhaid gwario arian i dreulio amser gyda\u2019ch gilydd. Dyma rai awgrymiadau am sut gallwch chi fwynhau diwrnodau allan gwych fel teulu ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn ystod y gwanwyn a\u2019r haf eleni, a hynny am y nesaf peth i ddim.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyntaf, mae angen paratoi. I gadw costau\u2019n isel, bydd angen i chi brynu Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig dewis eang o&nbsp;<a href=\"https:\/\/trc.cymru\/ffyrdd-o-ddeithio\/rheilffordd\/arbedion-a-chynigion\/cardiau-rheilffordd?_gl=1*135ihdw*_ga*MTM4MjU0NzQ1MC4xNzA3NjU1NDgz*_ga_E6B8G8EZ88*MTcwOTgwNDMzNC4zLjEuMTcwOTgwNDgwNi42MC4wLjA.\">gardiau rheilffordd<\/a>&nbsp;\u2013 mae\u2019r cardiau hyn yn cael eu prynu ymlaen llaw ac maen nhw\u2019n cynnig gostyngiad ar bris tocynnau mewn gwahanol rannau o Gymru. Ar gyfer teuluoedd, y&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.familyandfriends-railcard.co.uk\/\">Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau<\/a>sy\u2019n cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau lleol a chenedlaethol. Mae Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau yn rhoi gostyngiad o \u2153 ar bris tocyn tr\u00ean i oedolyn (heb s\u00f4n am ostyngiad o hyd at 60% i blant) ar draws y Deyrnas Unedig \u2013 gall hyn arbed hyd at \u00a3150 ar gyfartaledd mewn blwyddyn. Y gost yw \u00a330 y flwyddyn a gallwch ddechrau arbed arian yn syth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi\u2019n teithio ar dr\u00ean Trafnidiaeth Cymru, gall plant o dan 16 oed deithio am ddim yn ystod amseroedd tawel yng nghwmni oedolyn sy\u2019n talu, a gall plant o dan 11 oed deithio am ddim bob amser \u2013&nbsp;<a href=\"https:\/\/trc.cymru\/ffyrdd-o-ddeithio\/rheilffordd\/arbedion-a-chynigion\/cardiau-rheilffordd?_gl=1*135ihdw*_ga*MTM4MjU0NzQ1MC4xNzA3NjU1NDgz*_ga_E6B8G8EZ88*MTcwOTgwNDMzNC4zLjEuMTcwOTgwNDgwNi42MC4wLjA.\">Plant i gael teithio am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tybed a yw hyn wedi eich ysbrydoli i ymweld \u00e2 gogledd Cymru ar dr\u00ean? Er mwyn i chi ddechrau arni, rydyn ni wedi dewis ein hoff orsafoedd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Dyffryn Conwy lle gallwch fwynhau diwrnod allan gwych, a hynny am bris bag o sglodion mewn rhai achosion!<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Conwy<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth am ddechrau drwy ymweld \u00e2 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO? &nbsp;Mae tref fach Conwy yn enwog ledled y byd am ei chastell canoloesol a muriau\u2019r dref. Mae\u2019r amddiffynfeydd sy\u2019n dyddio o\u2019r drydedd ganrif ar ddeg yn enghraifft wych o beirianneg filwrol ac mae hyn yn oed yn bosibl i chi gerdded ar hyd y muriau! Adeiladwyd y castell a\u2019r muriau amgylchynol gan Edward I fel rhan o goncwest Cymru. Y nod oedd darostwng y Cymry brodorol; yn wir, Saeson yn unig oedd \u00e2\u2019r hawl i fyw o fewn muriau\u2019r dref! Os dewch oddi ar y tr\u00ean yng nghanol y dref, byddwch yng nghanol y safle treftadaeth godidog hwn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-C61-1213-0312-1024x682.jpg\" alt=\"Ancient stone castle ruins overlooking a harbor with boats, under a clear blue sky with scattered clouds. Visitors explore the historic site on a sunny day.\" class=\"wp-image-5974\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-C61-1213-0312-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-C61-1213-0312-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-C61-1213-0312-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-C61-1213-0312.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth am ddechrau drwy gerdded ar hyd&nbsp;<strong>muriau\u2019r dref&nbsp;<\/strong>\u2013 mae\u2019n ffordd wych o weld yr ardal a mwynhau golygfa arbennig o\u2019r dref a\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/cadw.llyw.cymru\/ymweld\/lleoedd-i-ymweld\/castell-conwy\">castell<\/a>. Mae\u2019r golygfeydd o ben y muriau yn wirioneddol anhygoel \u2013 gallwch weld y Gogarth Fawr a M\u00f4r Iwerddon ar y naill law, mynyddoedd y Carneddau ar y llaw arall, yn ogystal \u00e2 Dyffryn Conwy yn ymestyn o\u2019ch blaen. Mae\u2019n hawdd gweld pam y bu ymladd ffyrnig rhwng y Cymry a\u2019r Saeson i reoli\u2019r lleoliad strategol hwn. Mae byrddau gwybodaeth wedi\u2019u gosod ger y grisiau i\u2019r muriau ac mewn mannau eraill er mwyn tynnu sylw at fannau o ddiddordeb wrth i chi gerdded*.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background wp-block-paragraph\"><strong>Cyngor ar sut i arbed arian<\/strong>: Os ydych awydd ymweld \u00e2\u2019r castell, mae Cadw wedi ymuno \u00e2 Trafnidiaeth Cymru i gynnig&nbsp;<a href=\"https:\/\/trc.cymru\/ffyrdd-o-deithio\/rheilffordd\/arbedion-a-chynigion\/cadw?_gl=1*chzdp*_ga*MTM4MjU0NzQ1MC4xNzA3NjU1NDgz*_ga_E6B8G8EZ88*MTcwOTgwNDMzNC4zLjEuMTcwOTgwNjE2MS42MC4wLjA.\">2 docyn mynediad am bris 1<\/a>&nbsp;i ymwelwyr sy\u2019n teithio i safleoedd hanesyddol ar y tr\u00ean.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-F68-2324-0010-1024x682.jpg\" alt=\"A narrow, red two-story building with a distinctive sign proclaiming it 'The Smallest House in Great Britain,' nestled between larger buildings.\" class=\"wp-image-5978\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-F68-2324-0010-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-F68-2324-0010-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-F68-2324-0010-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-F68-2324-0010.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l crwydro ar hyd y muriau, mae\u2019n si\u0175r y bydd chwant bwyd arnoch, felly beth am fynd draw i&nbsp;<strong>Gei Conwy<\/strong>, lle gallwch eistedd i fwynhau pryd o bysgod a sglodion o un o\u2019r siopau niferus yn y dref. Beth sy\u2019n well na diwrnod allan am ddim (bron iawn), yn hamddena ar y cei ar ddiwrnod braf gan fwynhau bag o sglodion. Mae Cei Conwy yn gartref i d\u0177 anarferol a bach&nbsp;<em>iawn&nbsp;<\/em>hefyd. Yn swatio o dan furiau\u2019r castell mae\u2019r t\u0177 lleiaf ym Mhrydain, yn \u00f4l y s\u00f4n. Mae\u2019r t\u0177 bychan, un ystafell i fyny grisiau, ac un ystafell ar y llawr gwaelod, yn 182cm o led a 309cm o uchder ac roedd yn arfer bod yn gartref i bysgotwr 6 troedfedd 3 modfedd o daldra! Mae\u2019n lle gwych i dynnu llun, felly cofiwch alw draw. Mae\u2019r cei hefyd yn borthladd pysgota a gallwch weld y pysgotwyr wrth eu gwaith. Cofiwch ymweld \u00e2 gwaith prosesu Cregyn Gleision Conwy ar y cei i ddysgu rhagor am y cynnyrch lleol unigryw hwn a\u2019r broses ffermio a chasglu. Gallwch hyd yn oed brynu pysgod ffres i fynd adref gyda chi!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6838\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/720890-nvw-g112-2425-0118-web-optimised-1920px.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2025) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn i chi droi am adref, beth am ymweld \u00e2&nbsp;<strong>pharc a gerddi Bodlondeb<\/strong>. Mae\u2019r parc hyfryd hwn y tu allan i furiau\u2019r dref yn lle gwych i fwynhau ychydig o dawelwch a llonyddwch ar \u00f4l bwrlwm a phrysurdeb y dref dwristaidd. Mae yma fan chwarae i\u2019r plant, cyrtiau tennis, llwybr drwy\u2019r coetir, ac wrth gwrs, digon o laswellt i ymlacio a chicio p\u00eal! Mae\u2019r gerddi ffurfiol sy\u2019n amgylchynu Bodlondeb ei hun (hen&nbsp;<a href=\"https:\/\/historypoints.org\/index.php?page=swyddfeydd-bodlondeb\">blasty Fictoraidd<\/a>&nbsp;a adeiladwyd ar gyfer y perchennog llongau Albert Wood, ond swyddfeydd y cyngor erbyn hyn) yn hyfryd ac yn llawn lliw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae eich plant yn si\u0175r o gysgu\u2019n sownd ar \u00f4l diwrnod allan gwych!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background wp-block-paragraph\"><strong>*Sylwer:<\/strong>&nbsp;mae\u2019n bosibl nad yw muriau\u2019r dref yn addas ar gyfer plant ifanc neu phobl sydd ag ofn uchder, a gallant fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Llandudno<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Does dim angen i chi deithio\u2019n bell o dref Conwy i fwynhau ein diwrnod allan nesaf. A dweud y gwir, gallwch weld y gyrchfan nesaf o furiau\u2019r dref. Mae tref Llandudno yn adnabyddus i bawb fel \u2018brenhines ymdrochleoedd Cymru\u2019 ond cyn i\u2019r ymwelwyr gyrraedd, roedd yn gymuned fach o fwyngloddfeydd ar lethrau\u2019r Gogarth! Cafodd y pentref tawel hwn ei roi ar y map gan deithwyr mentrus oes Fictoria, wrth iddynt chwilio am gyrchfannau newydd i ymweld \u00e2 nhw. Cafodd yr ymwelwyr eu denu yma gan natur wyllt y Gogarth Fawr, penrhyn o galchfaen ag iddo hanes hynafol, a\u2019r traethau hardd cyfagos, sef Traeth y Gogledd a Phenmorfa. Yn wir, datblygodd tref Llandudno yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr mewn cyfnod byr iawn, ac adeiladwyd canol y dref mewn ugain mlynedd yn unig!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Llandudno yr un mor boblogaidd ag erioed ac yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae\u2019n lle gwych i aros er mwyn ymweld ag ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru, a gan mai dyma\u2019r orsaf olaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mae\u2019n fan cyfleus iawn i ddal y tr\u00ean i gyrchfannau twristaidd eraill hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mwynhau diwrnod allan yn Llandudno heb wario ceiniog yn dipyn o her; nid diffyg pethau i\u2019w gwneud yw\u2019r broblem, ond y ffaith bod gormod o ddewis! I wneud y gorau o\u2019ch ymweliad \u00e2\u2019r dref, rydyn ni\u2019n awgrymu\u2019n gryf eich bod chi\u2019n cynllunio ymlaen llaw. Mae yna rai pethau y mae\u2019n rhaid i chi eu gweld, felly dyma restr o\u2019r goreuon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyntaf, wrth i chi adael yr orsaf ewch am dro ar hyd y brif stryd, sef Stryd Mostyn, i fwynhau\u2019r&nbsp;<strong>bensaern\u00efaeth Fictoraidd<\/strong>&nbsp;hardd o\u2019ch cwmpas. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae\u2019r orsaf drenau ei hun, Eglwys y Drindod a Phar\u00ead y De. Byddwch yn cyrraedd y traeth a\u2019r pier enwog yn y pen draw \u2013 uchafbwynt pob ymweliad \u00e2 Llandudno. Traeth y Gogledd yw\u2019r mwyaf poblogaidd o ddau draeth y dref. Yma gallwch fwynhau\u2019r holl bethau rydyn ni\u2019n eu cysylltu \u00e2 diwrnod allan ar lan y m\u00f4r: hufen i\u00e2, adeiladu cestyll tywod, ffair, ac arc\u00eads adloniant \u2026 ond mae\u2019n rhaid gwario arian i wneud bob un o\u2019r rhain, ac rydyn ni\u2019n ceisio arbed arian wedi\u2019r cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach, beth am aros i fwynhau sioe&nbsp;<strong>Pwnsh a Jwdi&nbsp;<\/strong>ger y pier. Mae\u2019r sioe bypedau enwog hon wedi bod yn diddanu ymwelwyr y dref ers dros 150 o flynyddoedd a dyma\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.dewchigonwy.org.uk\/pethau-i-w-gwneud\/pwnsh-a-jwdi-codman-p277151\">sioe Pwnsh a Jwdi<\/a>&nbsp;hynaf yn y Deyrnas Unedig! Does dim rhaid talu i fwynhau\u2019r sioe, ond gofynnir am gyfraniadau gwirfoddol ac mae\u2019r arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau dyfodol yr adloniant hwn sy\u2019n rhan mor bwysig o hanes Llandudno.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_9V4A9214-1024x682.jpg\" alt=\"A clock with the text &quot;Next Show&quot; above it and &quot;weather permitting!&quot; below, mounted on a wall with decorative carvings, including a gold-colored mask motif, beside a red curtain.\" class=\"wp-image-5980\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_9V4A9214-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_9V4A9214-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_9V4A9214-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_9V4A9214.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l gweiddi ar Mr Pwnsh, beth am fynd am dro ar hyd&nbsp;<strong>Pier Llandudno,<\/strong>&nbsp;&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llandudnopier.com\/\">pier<\/a>&nbsp;hiraf&nbsp;Cymru ac adeilad rhestredig Gradd II. Mae\u2019r pier 700m o hyd yn ymestyn i Fae Llandudno ac wrth gerdded ar ei hyd gallwch fwynhau golygfeydd godidog o\u2019r dref, y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, heb s\u00f4n am Barc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Bydd gwynt y m\u00f4r yn si\u0175r o godi awch bwyd arnoch, a gallwch brynu rhywbeth blasus o\u2019r stondinau ar hyd y pier, ond cadwch lygad am y gwylanod! Dewiswch o blith pasteiod ffres, waffls, bwyd m\u00f4r ffres, pysgod a sglodion, a hyd yn oed toesenni melys \u2013 blasus iawn!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"630\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_MG_9336-1024x630.jpg\" alt=\"A person browsing items at a stall on a wooden pier with colorful balloons and toys for sale in the foreground. The pier extends into the background with other visitors walking along its length.\" class=\"wp-image-5982\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_MG_9336-1024x630.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_MG_9336-300x184.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_MG_9336-768x472.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-WCP_MG_9336.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ddiwedd eich ymweliad, beth am fynd am dro i barc&nbsp;<strong>Y Fach<\/strong>&nbsp;(neu Happy Valley yn Saesneg) sydd i\u2019w weld o\u2019r Pier \u2013 rydych yn si\u0175r o sylwi ar yr arwydd Llandudno anferth! Roedd y dyffryn tawel hwn ar droed y Gogarth yn gyrchfan boblogaidd iawn yn ystod oes Fictoria a chafodd ei ddatblygu yn ardd bleser a oedd yn cynnwys gerddi addurniadol, rhaeadrau a theatr awyr agored lle cynhaliwyd adloniant o bob math. Mae naws arbennig yn y Fach hyd heddiw ac er nad oes unrhyw sioeau yn cael eu cynnal yno bellach, mae\u2019n llecyn hyfryd i ymlacio ar ddiwedd eich diwrnod allan.&nbsp;<strong>Cadwch lygad am:<\/strong>&nbsp;y cylch o gerrig ar y glaswellt \u2013 nid heneb yw\u2019r cylch hwn, ond yn hytrach cylch gorsedd y beirdd a gafodd ei osod yma pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963! Codwyd y gofeb i\u2019r Frenhines Victoria i nodi jiwbil\u00ee\u2019r frenhines ac i ddathlu cyflwyno gerddi\u2019r Fach i bobl Llandudno gan y tirfeddiannwr lleol, yr Arglwydd Mostyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-1024x768.jpg\" alt=\"People enjoying a sunny day in a green park with trees, overlooking a serene blue sea with a pier extending into the water.\" class=\"wp-image-5968\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Whiw! Bydd yn rhaid i chi drefnu ymweliad arall \u00e2 Llandudno, mae cymaint o bethau i\u2019w gweld!<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Betws-y-Coed<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer ein diwrnod allan olaf am ddim i\u2019r teulu, rydyn ni\u2019n teithio o\u2019r arfordir i mewn i\u2019r tir ac yn ymweld \u00e2 chyrchfan boblogaidd arall a ddaeth yn enwog yn ystod oes Fictoria. Daeth pentref hardd Betws-y-coed yn gyrchfan i artistiaid Fictoraidd a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt a garw ar gyfer eu paentiadau rhamantaidd. Cafodd y llethrau tywyll coediog, y bryniau garw a\u2019r afonydd byrlymus sy\u2019n amgylchynu\u2019r pentref hardd hwn ddylanwad mawr ar bobl oes Fictoria ac ar ddatblygiad Rheilffordd Dyffryn Conwy. Heddiw, Betws-y-coed yw\u2019r orsaf brysuraf ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy. Natur wyllt yr ardal sy\u2019n dal i ddenu ymwelwyr yma yn eu miloedd. Heddiw, mae\u2019r pentref yn ganolfan bwysig i gerddwyr, dringwyr a beicwyr sy\u2019n aros yma cyn teithio yn eu blaenau i ymweld \u00e2 Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond mae\u2019r pentref hefyd yn denu teuluoedd ac ymwelwyr sy\u2019n dod yma am y dydd i fwynhau\u2019r golygfeydd godidog, y naws Gymreig a\u2019r lleoliad hygyrch. Bydd eich diwrnod allan yma yn gyfle i chi fwyhau\u2019r elfennau hyn hefyd: byddwn yn dangos un o\u2019r llecynnau prydferthaf yn y pentref i chi, ac yn eich cyflwyno i\u2019r natur wyllt, a bydd y cyfan yn dechrau ar y tr\u00ean!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i chi gyrraedd Betws-y-coed, byddwch eisoes wedi mwynhau un o\u2019r teithiau tr\u00ean harddaf yn y wlad. Mae\u2019r daith ar hyd Dyffryn Conwy, o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog yn ddiwrnod allan gwych ynddi ei hun \u2013 ac rydym yn argymell yn fawr eich bod yn mentro ar hyd y daith! Wrth i chi deithio o\u2019r arfodir i lawr y dyffryn mae\u2019r golygfeydd o\u2019r mynyddoedd yn wirioneddol wych, byddwch yn deall yn iawn sut roedd artistiaid cynnar oes Fictoria yn teimlo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewch oddi ar y tr\u00ean a cherdded i mewn i bentref Betws-y-coed. Mae dewis gwych o&nbsp;<strong>siopau, caffis a bwytai&nbsp;<\/strong>yma felly gallwch fwynhau\u2019r cyfan sydd ar gael ac o bosibl prynu rhywbeth bach i gofio am eich ymweliad; gallwch bob amser gefnogi busnesau lleol heb wario fawr ddim! Wrth i chi gerdded ar hyd y brif stryd byddwch yn mynd heibio Eglwys y Santes Fair a Gwesty\u2019r Royal Oak, lle\u2019r arferai\u2019r goets fawr aros ar ei thaith o Lundain i Gaergybi. Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd pen eich taith, sef&nbsp;<strong>Pont y Pair<\/strong>, a godwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y bont ar gyfer ceffylau pwn yn wreiddiol ond cafodd ei lledu yn ddiweddarach ar gyfer traffig mwy o faint \u2013 wedi dweud hynny, mae\u2019n gul iawn ac un cerbyd yn unig all groesi ar y tro! Mae\u2019r bont yn croesi afon Llugwy sy\u2019n llifo o fynyddoedd y Carneddau, rai milltiroedd i ffwrdd. Gall yr afon fod fel pair gwyllt ar adegau, oherwydd glawiad trwm a\u2019r d\u0175r eira yn Eryri, a gall fyrlymu dros y creigiau mewn ffordd drawiadol iawn. Ar adegau eraill, pan fydd y d\u0175r yn isel, mae\u2019n llifo\u2019n araf dros y creigiau, gan wahodd ymwelwyr i wlychu eu traed a hamddena ar y glannau *. Byddwch yn si\u0175r o gael eich cyfareddu gan y llecyn arbennig iawn hwn, ni waeth pryd y byddwch yn ymweld ag ef.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-D17-2021-0005-1024x682.jpg\" alt=\"Two individuals waving by a rocky river under an old stone arch bridge with trees and greenery in the background.\" class=\"wp-image-5976\" srcset=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-D17-2021-0005-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-D17-2021-0005-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-D17-2021-0005-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/\u00a9-Hawlfraint-y-Goron-\u00a9-Crown-copyright-2024-Cymru-Wales-NVW-D17-2021-0005.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u00a9 Hawlfraint y Goron \/ \u00a9 Crown Copyright (2024) Cymru Wales<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Croeswch y bont unwaith yn rhagor wrth i ni fynd am dro fyny fry ac ymweld ag un o ryfeddodau cudd Betws-y-coed. Dilynwch y ffordd sy\u2019n dolennu y tu \u00f4l i Eglwys y Santes Fair ac yna dilynwch y llwybr sy\u2019n arwain drwy\u2019r goedwig at&nbsp;<strong>Lyn Elsi<\/strong>, cronfa dd\u0175r fechan yng nghanol Coedwig Gwydir. Er bod y&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.conwyvalleyrailway.co.uk\/2018\/01\/02\/new-blog-walking-in-betws-y-coed-to-llyn-elsi\/\">llwybr<\/a>&nbsp;yn serth iawn mewn mannau, mae\u2019n dilyn ffyrdd drwy\u2019r goedwig yr holl ffordd, felly mae\u2019n ffordd hwylus i fwynhau natur wyllt Betws-y-coed. Peidiwch \u00e2 phoeni, gallwch eistedd ar y fainc gyfleus os oes angen i chi gael eich anadl! Mwynhewch dawelwch a llonyddwch y goedwig gan ymgolli yng ngolygfeydd a sain byd natur o\u2019ch cwmpas, mae\u2019n anodd credu eich bod dafliad carreg o brysurdeb y pentref. Ar \u00f4l i chi gyrraedd y llyn gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Eryri a\u2019r Carneddau, neu beth am gerdded o amgylch y llyn drwy ddilyn y saethau gwyn ar yr arwyddion. Gan fod hon yn daith mor braf, fyddwch chi ddim eisiau brysio. Bydd yn cymryd tua dwy awr i chi gerdded i fyny ac i lawr, neu\u2019n hirach o bosibl os oes gennych blant ifanc. Dylech ganiat\u00e1u digon o amser i gwblhau\u2019r daith n\u00f4l i\u2019r pentref, wedi\u2019r cyfan, dydych chi ddim eisiau colli\u2019r tr\u00ean!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Llyn Elsi | An easy walk in Snowdonia from Betws Y Coed\" width=\"1290\" height=\"726\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/0qgcDCzSTco?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-palette-color-5-background-color has-background wp-block-paragraph\"><strong>*Sylwer:<\/strong>&nbsp;mae glan yr afon yn greigiog iawn ac mae\u2019n bosibl nad yw\u2019n addas i blant ifanc iawn, a gall fod yn llithrig pan fydd yr afon yn uchel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio ein bod wedi eich annog i fentro ar y tr\u00ean i fwynhau diwrnod allan gyda\u2019r teulu. Beth am roi cynnig ar rai o\u2019n teithiau yn ystod y gwyliau ysgol? Byddem wrth ein bodd yn clywed sut hwyl gawsoch chi. Does dim rhaid gwario ffortiwn i greu atgofion, a gan fod cymaint o bethau i\u2019w gweld a\u2019u gwneud am ddim yng ngogledd Cymru mae\u2019n werth chweil mentro weithiau!<\/p>\n","protected":false},"featured_media":5969,"template":"","class_list":["post-5985","inspire-me","type-inspire-me","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Diwrnodau allan am ddim i\u2019r teulu ar y tr\u00ean yng ngogledd Cymru Mae ceisio cadw\u2019r plant yn ddiddan dros y gwyliau ysgol yn broblem gyffredin i rieni, a gall fod yn gostus iawn hefyd. Gan fod y plant wedi arfer \u00e2 threfn ddyddiol yr ysgol, chwaraeon a gweithgareddau ar \u00f4l ysgol, does dim syndod eu [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-03-31T11:49:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"13 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/\",\"name\":\"Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-04-26T20:02:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-03-31T11:49:21+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1920,\"caption\":\"People enjoying a sunny day in a green park with trees, overlooking a serene blue sea with a pier extending into the water.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Inspire Me\",\"item\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ebrill &#8211; Diwrnodau allan ar y tr\u00ean\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"description\":\"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization\",\"name\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp\",\"width\":531,\"height\":226,\"caption\":\"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","og_description":"Diwrnodau allan am ddim i\u2019r teulu ar y tr\u00ean yng ngogledd Cymru Mae ceisio cadw\u2019r plant yn ddiddan dros y gwyliau ysgol yn broblem gyffredin i rieni, a gall fod yn gostus iawn hefyd. Gan fod y plant wedi arfer \u00e2 threfn ddyddiol yr ysgol, chwaraeon a gweithgareddau ar \u00f4l ysgol, does dim syndod eu [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/","og_site_name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway","article_modified_time":"2025-03-31T11:49:21+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1920,"url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"13 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/","name":"Ebrill - Diwrnodau allan ar y tr\u00ean - Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg","datePublished":"2021-04-26T20:02:00+00:00","dateModified":"2025-03-31T11:49:21+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Llandudno-Happy-Valley-scaled.jpg","width":2560,"height":1920,"caption":"People enjoying a sunny day in a green park with trees, overlooking a serene blue sea with a pier extending into the water."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/inspire-me\/ebrill-diwrnodau-allan-ar-y-tren\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Inspire Me","item":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/inspire-me\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ebrill &#8211; Diwrnodau allan ar y tr\u00ean"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#website","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","description":"The Conwy Valley Railway is a beautiful picturesque journey between the Queen of Welsh Resorts, Llandudno &amp; the Slate Town of Adventure, Blaenau Ffestiniog.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#organization","name":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/CVNWC-full-track-logo.webp","width":531,"height":226,"caption":"Conwy Valley and North West Wales Coast Community Rail Partnership"},"image":{"@id":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/RheilfforddDyffrynConwyConwyValleyRailway"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me\/5985","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/inspire-me"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/inspire-me"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5969"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.conwyvalleynorthwalescoast.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5985"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}